Apelio i'r tribiwnlys treth

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Treth) os ydych am herio rhai penderfyniadau gan:

Mae’r tribiwnlys yn annibynnol ar y llywodraeth, CThEF, Llu’r Ffiniau, NCA, WRA a’r Comisiwn Hapchwarae. Bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Apelio yn erbyn penderfyniad CThEF

Gallwch apelio yn erbyn y rhan fwyaf o benderfyniadau ynghylch ‘treth uniongyrchol’ a ‘threth anuniongyrchol’.

Mae treth uniongyrchol yn cynnwys:

  • Treth Incwm
  • Treth Talu Wrth Ennill
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • Treth Etifeddiant

Mae treth anuniongyrchol yn cynnwys:

  • Treth ar Werth
  • Toll Gartref
  • Toll Dramor

Mae sut i apelio yn erbyn penderfyniad yn dibynnu ar p’un a yw’n ymwneud â threth uniongyrchol neu dreth anuniongyrchol.

Mae’n rhaid i chi apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch treth uniongyrchol i CThEF cyn y gallwch apelio i’r tribiwnlys.

Gan amlaf, gallwch apelio yn erbyn penderfyniadau treth anuniongyrchol yn syth i’r tribiwnlys. Cyn apelio i’r tribiwnlys, gallwch wneud cais am adolygiad statudol. Gall hyn fod yn gynt ac yn rhatach na mynd at y tribiwnlys. Gallwch apelio i’r tribiwnlys o hyd os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad.

Mae’n rhaid i chi apelio cyn pen y terfyn amser - fel arfer, bydd wedi’i nodi ar unrhyw lythyr o benderfyniad a gewch.

Os ydych wedi apelio i’r tribiwnlys a bod eich apêl wedi’i derbyn, gallwch wneud cais i CThEF am ddull amgen o ddatrys anghydfod (ADR).

Mae yna ffordd wahanol i apelio yn erbyn penderfyniadau ynghylch credydau treth a Treth y Cyngor.

Os na allwch dalu

Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dreth anuniongyrchol y mae CThEF yn dweud sy’n ddyledus gennych ar unwaith. Gwnewch gais caledi os na allwch wneud hynny. Gwnewch apêl i’r tribiwnlys os na fydd CThEF yn gadael i chi oedi cyn talu.

Gan amlaf, gallwch oedi cyn talu unrhyw dreth uniongyrchol tan ar ôl i’r apêl gael ei phenderfynu. Gwnewch apêl i’r tribiwnlys os na fydd CThEF yn gadael i chi oedi cyn talu.

Nid oes rhaid i chi dalu ar unwaith os ydych chi’n apelio yn erbyn cosb.

Apêl am nwyddau wedi’u hatafaelu

Rhaid i chi ofyn i Lu’r Ffiniau neu CThEF fynd â’ch achos i’r llys ynadon (gelwir hyn yn dechrau ‘achos condemnio’) os credwch na ddylent fod wedi cymryd (neu ‘atafaelu’) eich nwyddau.

Efallai y gallwch apelio i’r tribiwnlys os yw Llu’r Ffiniau neu CThEF:

  • yn gwrthod dychwelyd eich nwyddau wedi’u hatafaelu
  • yn dweud bod angen i chi dalu i gael eich nwyddau wedi’u hatafaelu yn ôl

Cyn y gallwch apelio yn erbyn gwrthod dychwelyd eich nwyddau wedi’u hatafaelu, rhaid i chi ofyn i naill ai Llu’r Ffiniau neu CThEF adolygu eu penderfyniad. Os ydych wedi methu’r terfyn amser ar gyfer adolygiad, gallwch wneud cais i’r tribiwnlys i gael caniatâd i ofyn am adolygiad hwyr.

Os gofynnwyd i chi dalu toll neu gosb

Efallai y gallwch apelio os yw CThEF:

  • yn anfon asesiad atoch ar gyfer toll
  • yn gosod cosb arnoch

Cyn i chi apelio, fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu am asesiad toll. Os na allwch, gallwch wneud cais i CThEF i ohirio ei dalu tan ar ôl i’r apêl ddod i ben.

Nid oes angen i chi dalu cosb cyn i chi apelio.

Ceisiadau cau

Gallwch wneud cais am ‘hysbysiad cau’ os yw CThEF yn agor ymholiad i wirio’ch ffurflen dreth am ‘dreth uniongyrchol’ ac rydych chi am iddo gael ei gau.

Bydd y tribiwnlys yn penderfynu pryd y dylai CThEF gau’r ymchwiliad.

Ni allwch wneud cais am hysbysiad cau os yw’ch ffurflen dreth yn cael ei gwirio am dreth anuniongyrchol.

Apelio yn erbyn penderfyniad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA)

Gall NCA wirio’ch ffurflen dreth yn lle CThEF mewn rhai achosion.

Gallwch wneud apêl os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad trwy ysgrifennu at NCA. Mae’n rhaid i chi apelio i’r NCA cyn y gallwch apelio i’r tribiwnlys.

Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol / National Crime Agency
Units 1 - 6 Citadel Place
Tinworth Street
Llundain
SE11 5EF

Apelio yn erbyn penderfyniad gan Awdurdod Cyllid Cymru (WRA)

Gallwch apelio yn erbyn rhai penderfyniadau a wnaed gan WRA ynghylch y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Gallwch hefyd wneud cais i gau ymholiad i’ch ffurflen dreth.

Rhaid i chi apelio o fewn y terfyn amser - nodir hwn fel arfer ar eich llythyr penderfyniad.

Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu’r hyn y mae WRA yn ei ddweud sy’n ddyledus gennych ymlaen llaw. Gallwch ofyn am gael talu ar ôl i chi gael penderfyniad am eich apêl. Os byddwch yn oedi cyn talu, efallai y codir llog arnoch ar y swm sy’n ddyledus gennych.

Cyn i chi apelio, gallwch ofyn i WRA newid eu penderfyniad.

Cymorth y gallwch ei gael

Efallai y byddwch am gael cymorth a chyngor cyn i chi apelio. Efallai y gall cyfrifydd, cynghorydd treth neu gynghorydd cyfreithiol eich helpu chi.

Gallwch gael cyngor am ddim gan:

Darllenwch wybodaeth fwy manwl ynghylch apelio i’r tribiwnlys.

2. Apelio i'r tribiwnlys

Gallwch apelio i’r tribiwnlys treth ar-lein.

Bydd arnoch angen:

  • sgan neu lun o’ch hysbysiad gwreiddiol neu lythyr casgliad adolygiad
  • rhesymau dros eich apêl, fel y gall y barnwr ddeall eich ochr chi o’r ddadl

Os byddwch yn apelio mwy na 30 diwrnod ar ol y dyddiad ar eich llythyr penderfynu, bydd angen ichi egluro pam bod eich apel yn hwyr.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud cais i gau ymholiad.

Dechrau nawr

Os ydych chi am i rywun eich cynrychioli chi

Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen awdurdodi os nad yw’r sawl sy’n eich cynrychioli yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr sy’n ymarfer.

Apelio drwy’r post

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen hysbysiad o apêl (T240).

Os ydych yn gwneud cais i gau ymholiad sy’n bodoli’n barod, lawrlwythwch a llenwch ffurflen gais (T245).

Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi i’r tribiwnlys. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os oes angen help arnoch

Cysylltwch â’r tribiwnlys treth os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich apêl. Ni all y tribiwnlys roi cyngor cyfreithiol i chi.

Tribiwnlys treth
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Ffôn: 0300 303 5176
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am - 5pm, dydd Gwener, 9am - 4:30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Beth fydd yn digwydd nesaf

Cewch lythyr gan y tribiwnlys yn esbonio beth fydd yn digwydd nesaf. Efallai y gofynnir i chi ddarparu mwy o ddogfennau i gefnogi eich achos.

Ni fydd pob achos yn cael gwrandawiad, ond gallwch ofyn am un. Fel arfer, byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad y gwrandawiad. Bydd y tribiwnlys yn ysgrifennu atoch gyda manylion yr hyn y mae angen i chi ei wneud.

3. Os oes gennych wrandawiad

Byddwch yn cael gwybod pryd a sut y cynhelir y gwrandawiad.

Gall eich gwrandawiad ddigwydd dros y ffôn, drwy fideo neu wyneb yn wyneb. Darllenwch sut i gymryd rhan mewn gwrandawiad ffôn neu fideo.

Gallwch wylio fideo am yr hyn sy’n digwydd mewn gwrandawiad fideo.

Os ydych chi neu eich tyst neu gynrychiolydd y tu allan i’r DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi, y tyst neu’r cynrychiolydd a pha fath o dystiolaeth sy’n cael ei rhoi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.

Dogfennau y bydd arnoch eu hangen

Gofynnir i chi am gopïau o’r holl ddogfennau sy’n berthnasol i’ch apêl (fel llythyrau, anfonebau a chyfrifon) ynghyd â’ch hysbysiad o apêl.

Rhaid i chi hefyd roi eich llythyr penderfyniad i’r tribiwnlys ac unrhyw ymateb a wnaethoch.

Efallai y cewch ‘fwndel’ o ddogfennau cyn y gwrandawiad. Gan amlaf, fe anfonir hwn atoch ar e-bost, ond gallwch ofyn am gael copi papur. Bydd eich llythyr cydnabod apêl yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

Rhaid i chi ddod â’r ‘bwndel’ o ddogfennau i’r gwrandawiad.

Pwy fydd yn y gwrandawiad

Gallwch gynrychioli eich hun yn y gwrandawiad neu drefnu bod cynrychiolydd yn gweithredu ar eich rhan. Gall y cynrychiolydd fod yn gynghorydd cyfreithiol, yn gynghorydd treth neu’n gyfrifydd

Bydd panel tribiwnlys yn cael ei arwain gan farnwr. Mewn rhai achosion, gall y tribiwnlys benodi aelodau eraill i’r panel.

Gall cynrychiolwyr o’r sefydliad rydych yn apelio yn ei erbyn ddod i’r gwrandawiad.

Bydd y gwrandawiad yn agored i aelodau’r cyhoedd.

Gallwch hefyd ofyn i unrhyw un o’r bobl ganlynol ddod i’r gwrandawiad:

  • cynrychiolydd, os oes gennych un
  • ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr
  • tyst, os oes angen un arnoch

Os ydych yn cael gwrandawiad fideo, bydd angen i chi ddweud wrth y tribiwnlys os oes unrhyw un o’r bobl hyn yn dod fel y gellir rhoi mynediad iddynt i’r gwrandawiad.

Ni fydd y tribiwnlys yn talu am unrhyw gostau teithio na llety i ganiatáu i chi nac unrhyw un o’r bobl hyn fynychu’r gwrandawiad.

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad

Byddwch chi (neu’ch cynrychiolydd) yn cyflwyno’ch achos i’r tribiwnlys. Rhaid i chi esbonio:

  • yr hyn y cytunwyd arno
  • beth rydych chi’n meddwl sy’n anghywir
  • pa dystiolaeth sydd gennych i’ch cefnogi, fel unrhyw ddogfennau neu dystion

Bydd cynrychiolwyr o’r parti arall yn cyflwyno’r achos yn eich erbyn.

Gall y tribiwnlys a’r parti arall ofyn cwestiynau yn ystod y gwrandawiad hefyd.

4. Penderfyniad y tribiwnlys

Fel arfer, byddwch yn cael penderfyniad y tribiwnlys:

  • yn ysgrifenedig, os na chawsoch wrandawiad (bydd y penderfyniad yn seiliedig ar y ffurflen apêl a’r gwaith papur arall)
  • yn ysgrifenedig o fewn 1 mis, os ydych wedi cael achos ‘sylfaenol’ - byddwch weithiau’n cael penderfyniad ar y diwrnod
  • yn ysgrifenedig o fewn 2 fis, os ydych wedi cael gwrandawiad ‘safonol’ neu ‘gymhleth’

Os byddwch yn colli eich achos

Os byddwch yn colli eich achos, efallai y gellir:

  • ‘rhoi’r penderfyniad o’r neilltu’
  • gofyn am ganiatâd i apelio

Rhoi penderfyniad o’r ‘neilltu’

Gallwch ofyn i benderfyniad gael ei ‘roi o’r neilltu’ (ei ganslo), dim ond os ydych chi’n meddwl bod camgymeriad yn y broses. Bydd y llythyr a gewch gyda’r penderfyniad yn dweud wrthych sut i wneud hyn. Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth os oes angen help arnoch.

Gofyn am ganiatâd i apelio

Efallai y byddwch yn gallu apelio yn erbyn y penderfyniad os gwnaeth y tribiwnlys gamgymeriad cyfreithiol, er enghraifft os na wnaeth:

  • weithredu’r gyfraith yn gywir
  • egluro ei benderfyniad yn llawn
  1. Gofynnwch am resymau ysgrifenedig llawn os nad ydych eisoes wedi’u cael. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad ar yr hysbysiad o benderfyniad - bydd yr hysbysiad o benderfyniad yn dweud wrthych sut i wneud hynny.

  2. Gofynnwch am ganiatâd i apelio - lawrlwythwch y ffurflen apêl a darllenwch y nodiadau canllaw. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 56 diwrnod i’r dyddiad a roddir ar y rhesymau ysgrifenedig llawn.

Anfonwch y ffurflen apêl i:

Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Dreth) / First-tier Tribunal (Tax Chamber)
PO Box 16972
Birmingham
B16 6TZ

Tribiwnlys Treth
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Ffôn: 0300 303 5176
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am - 5pm, dydd Gwener, 9am - 4:30pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Ar ôl ichi anfon y ffurflen

Bydd barnwr yn penderfynu a allwch fynd â’ch achos i dribiwnlys uwch, o enw’r Uwch Dribiwnlys (Treth a Siawnsri). Apeliwch i’r Uwch Dribiwnlys os cewch ganiatâd.

Os gwrthodir caniatâd i chi apelio

Gallwch wneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio os yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gwrthod, neu ond yn rhoi caniatâd i chi apelio ar sail gyfyngedig.

5. Deddfwriaeth a phenderfyniadau blaenorol

Darllenwch y rheolau y mae’n rhaid i’r tribiwnlys eu dilyn a’i benderfyniadau ar achosion blaenorol.

Penderfyniadau blaenorol

Chwiliwch am benderfyniadau’r tribiwnlys treth i weld sut a pham y cawsant eu gwneud.

Deddfwriaeth

Rhaid i’r tribiwnlys ddilyn Rheolau Gweithdrefn y Tribiwnlys (Tribiwnlys Haen Gyntaf) (Siambr Dreth) 2009.

Darllenwch y cyfarwyddyd ymarfer a’r datganiadau ymarfer i gael canllawiau manylach.

Sefydlwyd y tribiwnlys gan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 a Gorchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd ac Apeliadau Refeniw a Thollau 2009.