Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad

Printable version

1. Trosolwg

Rydych yn gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 (yn Saesneg) os ydych yn hunangyflogedig er mwyn bod yn gymwys ar gyfer budd-daliadau megis Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu’r cyfraniadau fel rhan o’u bil treth Hunanasesiad.

Nid ydych yn talu drwy Hunanasesiad os ydych:

  • yn arholwr, safonwr, goruchwyliwr neu berson sy’n gosod cwestiynau arholiad

  • yn rhedeg busnes sy’n ymwneud â thir neu eiddo

  • yn weinidog yr efengyl nad yw’n cael cyflog na thâl

  • yn byw dramor ac yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol

  • yn berson sy’n gwneud buddsoddiadau – ond nid fel busnes a heb gael ffi na chomisiwn

  • yn berson nad yw’n breswyl yn y DU sy’n hunangyflogedig yn y DU

  • yn gweithio dramor

Os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon cais am daliad atoch erbyn diwedd mis Hydref. Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych yn cael un.

Os ydych yn methu’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad

Mae’n rhaid i chi ffonio Gwasanaethau Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar ôl y dyddiad cau, sef 31 Ionawr, a bod y Ffurflen Dreth honno wedi cynnwys cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol, neu os ydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol.

Gall eich cyfraniadau gael eu hychwanegu at y flwyddyn anghywir ar eich cofnod Yswiriant Gwladol neu eu had-dalu os na wnewch hynny.

Talu ar-lein

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich manylion bancio ar-lein

  • y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais

Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng digidau eich cyfeirnod.

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Talu nawr

Cadarnhad o’ch taliad

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.

Bydd yn ymddangos yn eich cyfrif CThEF. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Sicrhewch fod eich taliad yn cyrraedd CThEF erbyn y dyddiad cau. Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Gallwch wneud taliadau sy’n cyrraedd ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf:

Gallwch dalu cyn pen 3 diwrnod drwy ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Bacs) neu â siec drwy’r post.

Gallwch dalu cyn pen 21 diwrnod gwaith drwy Ddebyd Uniongyrchol os nad ydych wedi trefnu un o’r blaen.

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Daliadau Cyflymach).

Os ydych yn methu’r dyddiad cau

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy er mwyn llenwi’r bwlch yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch er mwyn rhoi gwybod i chi faint y mae angen i chi ei dalu.

2. Debyd Uniongyrchol

Llenwch y ffurflen er mwyn trefnu Debyd Uniongyrchol newydd.

Os ydych yn byw dramor ac yn talu Yswiriant Gwladol gwirfoddol, llenwch y ffurflen ar ddiwedd taflen NI38 yn lle hynny.

Dylech ganiatáu 21 diwrnod ar gyfer trefnu Debyd Uniongyrchol newydd.

Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEF) yn anfon llythyr atoch yn rhoi gwybod i chi pryd bydd taliadau yn cael eu cymryd a beth fydd y symiau.

Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen fel ‘HMRC NI-DD’. Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch os yw’ch taliadau’n newid am unrhyw reswm.

Os oes gennych gwestiwn ynghylch eich taliadau Debyd Uniongyrchol, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

3. Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich manylion bancio ar-lein

  • y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Gwnewch y canlynol, pan fyddwch yn barod i dalu:

  1. Dechreuwch eich taliad Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.

  2. Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.

  3. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.

4. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen.

Bydd angen eich slip cyflog ‘Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi’ (CThEF). Fe welwch hyn ar y cais am daliad anfonodd CThEF atoch.

Os byddwch yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener, bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y bydd yn cyrraedd cyfrif CThEF.

Gwnewch y siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod 18 digid ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod ar y slip talu neu gais am daliad a anfonwyd atoch gan CThEF.

Os nad oes gennych gais am daliad neu gyfeirnod, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

5. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn

Talu o’r DU

Defnyddiwch eich cyfrif bancio ar-lein neu dros y ffôn i wneud eich taliad i’r cyfrif banc Cyllid a Thollau EF (CThEF) canlynol:

  • Cod didoli - 08 32 20
  • Rhif y cyfrif - 12001004
  • Enw’r cyfrif - NIC Receipts

Cyfeirnod

Pan fyddwch yn gwneud taliad, defnyddiwch y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad oddi wrth CThEF. Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng y digidau.

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Fel arfer, bydd taliadau a wnaed drwy Daliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, mae taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Taliadau tramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB49 BARC 2020 4830 9447 93
  • cod adnabod y banc (BIC) — BARCGB22
  • enw’r cyfrif — HMRC NIC receipts

Cyfeirnod

Defnyddiwch eich rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’, eich cyfenw ac yna priflythyren eich enw cyntaf. Os yw’ch banc yn eich cyfyngu i nifer benodol o gymeriadau, dylech ddefnyddio’ch rhif Yswiriant Gwladol wedi’i ddilyn gan ‘IC’ a chymaint o’ch cyfenw ag sy’n bosibl.

Enghraifft

Os mai Anne Jones yw’ch enw, byddech yn ysgrifennu’r cyfeirnod fel QQ123456AICJONESA

Os ydych yn gyflogwr sy’n talu am gyflogai sy’n byw dramor, dylech ddefnyddio’ch rhif cyflogwr 13 cymeriad.

Cyfeiriad bancio

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

6. Talu â siec drwy’r post

Gallwch dalu drwy anfon siec at:

Cyllid a Thollau EF
HMRC
BX5 5BD

Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Yr hyn i’w gynnwys

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 ar gefn y siec. Bydd hwn ar eich slip talu.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys y slip talu anfonodd CThEF atoch. Peidiwch â phlygu’ch slip talu na siec CThEF, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.

Os hoffech dderbynneb, dylech gynnwys nodyn yn gofyn am un.

Os nad oes gennych slip talu CThEF

Cofiwch nodi:

  • eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn

  • y cyfeirnod 18 digid a ddangosir ar eich cais am daliad neu eich rhif Yswiriant Gwladol

  • faint rydych yn ei dalu

Os nad oes gennych gyfeirnod 18 digid, gallwch gael help gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.