Treth a thollau ar gyfer nwyddau a anfonir o dramor

Printable version

1. Trosolwg

Mae unrhyw beth sy’n cael ei bostio neu ei gludo atoch o wlad arall yn mynd drwy’r tollau i wirio nad yw wedi’i wahardd neu o dan gyfyngiadau a’ch bod yn talu’r dreth a’r ‘tollau’ cywir arno.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw bethau newydd neu sydd wedi eu defnyddio yr ydych wedi eu:

  • prynu ar-lein
  • prynu dramor a’u hanfon yn ôl i’r DU
  • cael fel rhodd

Y cwmni parseli neu gwmni cludo (er enghraifft, y Post Brenhinol neu Parcelforce) sy’n gyfrifol am fynd â nwyddau drwy dollau’r DU.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Eich cyfrifoldebau

Cyn i’ch nwyddau ddod i law, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu TAW, Toll Dramor neu Doll Ecséis os cawsant eu hanfon at un o’r canlynol:

Bydd y cwmni parseli neu’r cwmni cludo yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi dalu unrhyw TAW neu dollau.

Mae’n rhaid i chi hefyd wirio bod yr anfonwr yn gwneud y canlynol:

  • talu Toll Ecséis ar unrhyw alcohol neu dybaco a anfonir o’r UE i Ogledd Iwerddon
  • datgan nwyddau yn gywir os ydynt yn cael eu hanfon o’r tu allan i’r DU (neu o’r tu allan i’r UE ar gyfer Gogledd Iwerddon)

Mae’n bosibl y bydd eich nwyddau’n cael eu hatafaelu (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn dilyn y rheolau. Mae’n bosibl y byddwch yn cael dirwy a’ch erlyn.

Pwy i gysylltu ag ef am eich nwyddau

Cysylltwch â’ch cwmni parseli neu gwmni cludo os na chewch eich parsel erbyn y dyddiad dosbarthu arfaethedig neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill.

2. Treth a thollau

Bydd y Post Brenhinol, Parcelforce neu’r cwmni cludo’n cysylltu â chi os oes angen i chi dalu unrhyw TAW, tollau neu gostau dosbarthu (‘ffioedd trin’) i gael eich nwyddau.

Byddant yn anfon bil atoch yn nodi’n union pa ffioedd y mae angen i chi eu talu.

Fel arfer byddant yn dal eich parsel am tua 3 wythnos. Os nad ydych wedi talu’r bil erbyn hynny, bydd eich parsel yn cael ei ddychwelyd i’r anfonwr.

Ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw beth i’r cwmni dosbarthu i gael nwyddau sy’n werth llai na £135 oni bai eu bod yn rhoddion dros £39 neu’n nwyddau ecséis (er enghraifft, alcohol a thybaco).

TAW

Codir TAW ar bob un o’r nwyddau (ac eithrio rhoddion gwerth £39 neu lai) a anfonir:

  • o’r tu allan i’r DU i Brydain Fawr

  • o’r tu allan i’r DU a’r UE i Ogledd Iwerddon

Ni chodir TAW ar nwyddau sy’n rhoddion gwerth £39 neu lai.

Rydych yn talu TAW pan fyddwch yn prynu’r nwyddau, neu i’r cwmni dosbarthu cyn iddynt ddod i law. Os oes rhaid i chi dalu TAW i’r cwmni dosbarthu, mae’n cael ei chodi ar gyfanswm gwerth y pecyn, gan gynnwys:

  • gwerth y nwyddau

  • costau postio, pecynnu ac yswiriant

  • unrhyw doll sydd arnoch

Codir TAW ar y gyfradd TAW (yn agor tudalen Saesneg) sy’n berthnasol i’ch nwyddau.

Nwyddau gwerth cyfanswm o £135 neu lai

Os gwnaethoch brynu’r nwyddau’ch hun ac nad ydynt yn nwyddau ecséis, bydd y gwerthwr wedi cynnwys TAW yn y cyfanswm a dalwyd gennych.

Bydd angen i chi dalu TAW i’r cwmni dosbarthu os yw’r nwyddau yn:

  • rhoddion a anfonir atoch gan rywun arall ac sy’n werth mwy na £39

  • nwyddau ecséis

Nwyddau gwerth mwy na chyfanswm o £135

Bydd yn rhaid i chi dalu TAW i’r cwmni dosbarthu naill ai cyn i’r nwyddau gael eu dosbarthu neu pan fyddwch yn eu casglu. 

Toll Dramor

Codir Toll Dramor arnoch ar bob un o’r nwyddau a anfonir o’r tu allan i’r DU (neu’r DU a’r UE os ydych yng Ngogledd Iwerddon) os ydynt naill ai:

  • yn nwyddau ecséis

  • â gwerth mwy na £135

Os codir Toll Dramor arnoch, bydd angen i chi ei thalu ar y canlynol:

  • y pris a dalwyd am y nwyddau

  • costau postio, pecynnu ac yswiriant

Math a gwerth y nwyddau Toll Dramor
Nwyddau nad ydynt yn agored i dollau ecséis gwerth £135 neu lai Dim tâl
Rhoddion a nwyddau dros £135 Mae’r gyfradd yn dibynnu ar y math o nwyddau ac o ble y daethant - defnyddiwch y gwasanaeth Tariff Masnach (yn agor tudalen Saesneg) i wirio cyfraddau tollau

Rydych yn talu’r Doll Tramor ar nwyddau ecséis o unrhyw werth.

Toll Ecséis

Os yw alcohol neu dybaco yn cael eu hanfon atoch o’r tu allan i’r DU, codir Treth Ecséis arnoch ar gyfraddau presennol (yn agor tudalen Saesneg).

Os caiff y nwyddau eu hanfon o’r UE i Ogledd Iwerddon, gwiriwch fod y Doll Ecséis wedi’i chynnwys yn y pris. Os nad ydyw wedi’i chynnwys, mae’n bosibl y bydd eich nwyddau’n cael eu hatafaelu (yn agor tudalen Saesneg).

Does dim ots a ydych yn prynu’r nwyddau neu os ydynt yn cael eu hanfon fel rhodd.

Os ydych yn cael llawer iawn o alcohol neu dybaco ar gyfer eich busnes, defnyddiwch y gwasanaeth Tariff Masnach (yn agor tudalen Saesneg) i wirio cyfraddau tollau.

Gellir atafaelu’ch nwyddau hefyd os ydynt:

  • yn wirodydd dros 35 centilitr heb stamp tollau’r DU

  • yn sigaréts neu’n dybaco rholio â llaw heb rybuddion iechyd y DU neu nodau cyllidol

Os codir gormod arnoch neu eich bod yn dychwelyd eich nwyddau

Gofynnwch am ad-daliad TAW neu Doll Tramor os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn dychwelyd eich nwyddau

  • rydych o’r farn bod gormod wedi’i godi arnoch

Lawrlwythwch a llenwch:

  • ffurflen BOR 286 os yw’r Post Brenhinol neu Parcelforce wedi dosbarthu’r nwyddau

  • ffurflen C285 os yw cludwr neu gwmni anfon nwyddau wedi dosbarthu’r nwyddau

3. Dogfennau

Gwiriwch fod nwyddau a anfonir atoch o’r tu allan i’r DU (neu’r tu allan i’r DU a’r UE am nwyddau yng Ngogledd Iwerddon) yn cael eu datgan i’r tollau’n gywir.

Os nad ydynt yn cael eu datgan yn gywir, gellir atafaelu eich nwyddau (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n rhaid i chi wneud un o’r canlynol:

  • gwirio bod yr anfonwr yn llenwi’r ffurflen datganiad tollau yn gywir
  • llenwi’r datganiad tollau eich hun - gall hyn achosi o leiaf 4 wythnos o oedi i’ch nwyddau

Llenwi’r datganiad tollau eich hun

Mae’n rhaid i’r anfonwr ysgrifennu ‘nwyddau i’w datgan gan fewnforiwr’ ar y ffurflen datganiad tollau.

Cyn y gallwch gasglu’ch nwyddau, anfonir y canlynol atoch:

  • ffurflen datganiad tollau llawn i’w llenwi
  • llythyr sy’n esbonio unrhyw dreth neu dollau sydd arnoch

4. Rhoddion

I fod yn gymwys fel rhoddion, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am y nwyddau:

  • wedi’u disgrifio fel rhoddion ar y datganiad tollau
  • bod ar gyfer pen-blwydd neu achlysur arall
  • wedi’u prynu a’u hanfon rhwng unigolion (nid cwmnïau)
  • wedi’u bwriadu at ddefnydd personol

Anfon mwy nag un rhodd

Os ydych yn anfon mwy nag un rhodd yn yr un parsel, cewch y lwfans Toll Dramor ac sy’n rhydd o TAW ar gyfer pob rhodd os ydyn nhw:

  • ar gyfer gwahanol bobl
  • wedi’u rhestru ar ddatganiad tollau gyda’u gwerthoedd unigol
  • wedi’u lapio’n unigol