Treth Incwm: derbyn llog heb fod treth wedi’i didynnu (R85) (tan 5 Ebrill 2015)
Defnyddiwch y ffurflen R85 hon tan 5 Ebrill 2015 i roi gwybod i'ch banc neu gymdeithas adeiladu eich bod yn gymwys i dderbyn llog yn rhydd o dreth ar eich cyfrif.
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch y ffurflen R85 i roi gwybod i’ch banc neu gymdeithas adeiladu eich bod yn gymwys i dderbyn llog yn rhydd o dreth ar eich cyfrif. Os ydych yn cael anawsterau wrth agor y ffurflen ar-lein, gallwch ddefnyddio’r fersiwn PDF drwy ei argraffu a’i lenwi â llaw.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio hen borwr, e.e. Internet Explorer 8, bydd yn rhaid i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth ynghylch porwyr.
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn gyfan gwbl cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i chwblhau’n rhannol felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Ffurflenni ac arweiniad perthynol
Treth ar log o gynilion
Arweiniad ynghylch beth i’w wneud os ydych chi’n credu eich bod chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn talu gormod o dreth ar log banc neu gymdeithas adeiladu.
Defnyddiwch y ffurflen R85 hon i roi gwybod i’ch banc neu gymdeithas adeiladu eich bod yn gymwys i dderbyn llog yn rhydd o dreth ar eich cyfrif o 6 Ebrill 2015.