Canllawiau

Dull amgen o ddatrys anghydfod — CC/FS21

Diweddarwyd 8 March 2024

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR). Mae’n esbonio beth yw ADR, sut mae’n gweithio a sut i wneud cais amdano.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Ynglŷn â’r Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR)

Mae ADR yn wasanaeth a gynigir gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) er mwyn datrys anghydfodau. Bydd un o swyddogion CThEF, sydd wedi’i hyfforddi’n broffesiynol mewn sgiliau a thechnegau cyfryngu, yn gweithredu fel cyfryngwr niwtral a diduedd. Bydd y cyfryngwr yn eich helpu chi a’r swyddog yn CThEF i weithio tuag at ddatrys yr anghydfod.

Ystyr ‘anghydfod’

Os ydych yn anghytuno â’r swyddog sy’n delio â’ch achos ynghylch:

  • y rheswm y mae wedi gofyn i chi wneud rhywbeth
  • ei safbwynt o ran eich rhwymedigaeth treth

neu os ydych yn ansicr ynghylch y naill neu’r llall o’r rhain, rhowch wybod i’r swyddog ar unwaith.

Yn y rhan fwyaf o achosion, byddwch chi a’r swyddog yn gallu datrys y mater yn gyflym ond, os na allwch, rydym yn galw hyn yn anghydfod.

Mae sawl ffordd o ddatrys anghydfod, er enghraifft:

  • gofyn i’r swyddog drafod eich safbwynt â’i reolwr
  • gofyn am adolygiad gan swyddog CThEF na fu’n ymwneud â’r mater yn flaenorol, neu apelio ar dribiwnlys annibynnol

Pryd i wneud cais am ADR

Mae ADR yn ffordd arall o ddelio ag anghydfodau. Cyn gynted ag y gwyddoch fod yna anghydfod, dylech ystyried a ddylech wneud cais am ADR.

Os yw CThEF wedi agor ymchwiliad i’ch materion treth, gallwch wneud cais am ADR (mae unrhyw un o’r canlynol yn gymwys):

  • unrhyw bryd yn ystod ymchwiliad
  • ar unrhyw adeg yn ystod achos tribiwnlys
  • naill ai pan na allwn ddod i gytundeb gyda chi, neu ar ôl i CThEF gyhoeddi ei benderfyniad y gellir apelio yn ei erbyn

Mae’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol os yw CThEF wedi cyhoeddi ei benderfyniad.

Anghydfodau ynghylch trethi uniongyrchol ar ôl i CThEF wneud penderfyniad

Mae trethi uniongyrchol yn cynnwys:

  • Treth Incwm
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Etifeddiant

Gallwch wneud cais am ADR pan fo CThEF wedi gwneud penderfyniad ynghylch mater o ran treth uniongyrchol rydych wedi apelio yn ei erbyn, a bod CThEF wedi cymryd un o’r camau canlynol. Rydym:

  • wedi derbyn yr apêl, ond heb gynnig adolygiad statudol i chi
  • wedi cynnig adolygiad statudol i chi ac rydych wedi ei dderbyn — cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi aros i’r adolygiad ddod i ben, apelio ar y tribiwnlys, a bod wedi cael llythyr cydnabyddiaeth
  • wedi cynnig adolygiad statudol i chi ac nid ydych wedi ei dderbyn — cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi apelio ar y tribiwnlys yn gyntaf, a bod wedi cael llythyr cydnabyddiaeth

Anghydfodau ynghylch trethi anuniongyrchol ar ôl i CThEF wneud penderfyniad

Mae trethi anuniongyrchol yn cynnwys:

  • TAW
  • Toll Ecséis
  • Toll Dramor

Gallwch wneud cais am ADR pan fo CThEF wedi gwneud penderfyniad ynghylch mater o ran treth anuniongyrchol, ac os ydych naill ai:

  • wedi derbyn ein cynnig o adolygiad — cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi aros i’r adolygiad ddod i ben, apelio ar y tribiwnlys, a bod wedi cael llythyr cydnabyddiaeth
  • heb dderbyn ein cynnig o adolygiad — cyn i chi wneud cais, mae’n rhaid i chi apelio ar y tribiwnlys yn gyntaf, a bod wedi cael llythyr cydnabyddiaeth

Os defnyddir ADR, nid yw hyn yn effeithio ar eich hawl i apelio neu i ofyn am adolygiad.

Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau ac adolygiadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’.

Manteision ADR

Mae ADR yn ffordd o weithio ar y cyd i ddatrys anghydfodau. Pan fo anghydfod, bydd ADR yn bwriadu:

  • gwella’ch profiad wrth ddelio â ni
  • lleihau’r amser y mae’n ei gymryd i gwblhau gwiriad cydymffurfio
  • arbed costau i chi ac i CThEF
  • lleihau’r angen am wrandawiadau gan dribiwnlysoedd annibynnol

Gall defnyddio ADR mewn achosion mwy cymhleth osgoi’r angen i chi i wneud cyflwyniad hir, ysgrifenedig a ffurfiol i’r tribiwnlys i ategu’ch ochr chi o’r anghydfod.

Pa fath o anghydfodau sy’n addas ar gyfer ADR

Mae ADR yn addas ar gyfer y mwyafrif o anghydfodau. Mae enghreifftiau’n cynnwys y canlynol.

Pan fo cyfathrebu wedi chwalu

Gallai hyn gynnwys sefyllfaoedd lle mae angen arnom wybodaeth gennych ond nid ydych yn cytuno:

  • y gallwch gael yr wybodaeth
  • bod angen yr wybodaeth i ddatrys y broblem

Mewn sefyllfa o’r fath, gall cyfryngwr helpu i gael y ddwy ochr i gyfathrebu â’i gilydd er mwyn i’r anghydfod allu cael ei ddatrys. Er enghraifft, drwy sicrhau bod pwysigrwydd yr wybodaeth wedi’i esbonio’n glir i chi a’ch bod yn deall:

  • pam y mae ei hangen
  • sut y bydd yn helpu i ddatrys yr anghydfod

Os na allwch gael yr wybodaeth, bydd y cyfryngwr yn eich helpu i archwilio dulliau eraill o ddatrys y mater.

Pan fo anghydfodau ynghylch y ffeithiau

Bydd y cyfryngwr yn sicrhau y cewch y cyfle i ofyn am eglurhad ynghylch unrhyw faterion nad ydynt yn glir, a chytuno ar y ffeithiau perthnasol a sut y byddant yn cael eu defnyddio. Bydd hefyd yn gwirio eich bod yn deall yr atebion sydd wedi’u rhoi i chi. Os oes anghydfod ynghylch unrhyw un o’r ffeithiau, bydd y cyfryngwr yn sicrhau eich bod chi a’r swyddog yn ystyried pob safbwynt yn llawn a’ch bod yn dod i gytundeb pan fo’n bosibl.

Pan fo anghydfod o ganlyniad i gamddealltwriaeth

Gallai hyn gynnwys sefyllfaoedd lle mae gwiriad cydymffurfio wedi bod yn mynd yn ei flaen ers tro ac ni allwch ddeall pam mae’r swyddog yn dal i ofyn i chi am wybodaeth wahanol. Bydd cyfryngwr yn ystyried eich safbwynt ac yn pennu a oes angen yr wybodaeth y mae’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad cydymffurfio yn gofyn amdani.

Pan fo’r anghydfod yn ymwneud â phwynt technegol neu bwynt cyfreithiol

Gellir ystyried cyfryngu yn yr achosion hyn. Gallai cyfryngwr:

  • eich helpu i gael eglurder a dealltwriaeth o safbwynt y swyddog
  • helpu i roi’r cyfle i chi leisio’ch barn
  • helpu i roi tawelwch meddwl i chi eich bod wedi cael eich clywed

Efallai na fydd modd dod o hyd i ddatrysiad o dan yr amgylchiadau hyn, ond bydd y broses gyfryngu wedi helpu pawb i baratoi ar gyfer y tribiwnlys.

Ym mhob achos, byddwn yn ystyried eich cais ac, os penderfynwn nad yw’n addas, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Pa fath o anghydfodau sy’n anaddas ar gyfer ADR

Nid yw ADR ar gael i gwsmeriaid sydd ag anghytundeb â CThEF o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • cwynion ac anghydfodau ynghylch oedi gan CThEF wrth ddefnyddio gwybodaeth neu ynghylch CThEF yn rhoi cyngor camarweiniol i chi
  • achosion y mae archwilwyr troseddol CThEF yn delio â nhw
  • achosion y mae’r Tribiwnlys Treth Haen Gyntaf wedi’u categoreiddio’n rhai ‘papur’ neu ‘sylfaenol’
  • adennill dyled neu broblemau talu
  • anghydfodau ynghylch credydau treth
  • anghydfodau ynghylch gordaliadau diffygdalu
  • cosbau awtomatig am dalu neu gyflwyno’n hwyr
  • Hysbysiadau Cod TWE
  • Consesiynau All-statudol
  • cynlluniau cyrchu pensiwn yn gynnar
  • taliadau treth budd-dal plant incwm uchel
  • anghydfodau ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol
  • taliadau cyflymedig a hysbysiadau dilynwr
  • cosbau osgoi sifil
  • fforffedu

Beth sy’n digwydd os byddwch yn gwneud cais am ADR

Os ydych am ddefnyddio ADR i ddatrys anghydfod, bydd angen i chi wneud cais. Dangosir manylion ynghylch sut i wneud cais isod.

Ar ôl i’ch cais ddod i law, byddwn yn cysylltu â chi a’r swyddog yn CThEF i drafod eich cais yn fwy manwl. Byddwn yn ystyried yr achos yn ofalus ac yna’n penderfynu a yw ADR yn ffordd effeithiol o ddatrys yr anghydfod.

Ystyrir pob cais fesul achos. Nid yw ADR yn broses statudol ac rydym yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau nad ydym yn eu hystyried yn addas ar gyfer ADR.

Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi cyn pen 30 diwrnod ar ôl cael eich cais a yw’r achos wedi’i dderbyn ai peidio. Os nad yw’ch cais yn addas ar gyfer ADR, byddwn yn egluro pam.

Os derbynnir eich achos

Mae’n rhaid i CThEF a chithau gymryd rhan yn y broses ADR. Nid yw hyn yn ddewisol. Dim ond os ydych yn barod i ymrwymo’n llwyr i ADR y dylech wneud cais amdano.

Wrth lenwi’r cais, gofynnir i chi gytuno â rhai egwyddorion a fydd yn eich rhwymo i gymryd rhan gyflawn yn y broses ADR.

Dyma’r egwyddorion:

  • rydych chi a’ch cynrychiolydd, os oes gennych un, yn deall mai’r cyfryngwr sy’n gyfrifol am y broses ADR — rydych chi a CThEF yn rhannu’r cyfrifoldeb am benderfynu ar y canlyniadau treth
  • mae’n rhaid i chi a’ch cynrychiolydd fod ar gael cyn pen 90 diwrnod ar gyfer cyfarfod cyfryngu — gall hwn bara diwrnod cyfan, a bydd yn cael ei gynnal naill ai drwy gynhadledd dros y ffôn, drwy alwad fideo, neu mewn cyfarfod wyneb yn wyneb
  • os bydd y cyfryngwr yn gofyn am ragor o wybodaeth, byddwch yn ei rhoi iddo cyn pen 15 diwrnod
  • os byddwch yn dod o hyd i wybodaeth newydd cyn cyfarfod, byddwch yn ei rhoi i’r cyfryngwr a’r gweithiwr achos cyn gynted â phosibl
  • os na allwch fodloni unrhyw ddyddiadau cau, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r cyfryngwr
  • mae cyfryngu yn broses a gynhelir ar sail ‘heb ragfarn’ — gweler isod am ystyr ‘heb ragfarn’
  • os na chaiff y sefyllfa ei datrys a bod achosion ffurfiol yn ddiweddarach, gellir cyfeirio at yr holl wybodaeth a ddatgelwyd yn ystod y broses gyfryngu gan y naill ochr neu’r llall yn yr anghydfod
  • mae pob dogfen a rennir yn ystod y broses ADR yn cael ei thrin yn yr un modd â gwybodaeth a rennir â CThEF ar unrhyw adeg arall
  • os byddwch yn gwneud cwyn ffurfiol am y broses, gofynnir i’r cyfryngwr wneud sylwadau

Os caiff y telerau ac amodau eu torri ar unrhyw adeg, gall CThEF ddileu’ch anghydfod o’r broses ADR.

Ystyr ‘heb ragfarn’

Mae ‘heb ragfarn’ yn derm cyfreithiol sydd ag ystyr manwl gywir ac eithaf cyfyng. Yng nghyd-destun ADR, mae’n golygu y bydd croeso i CThEF a chithau awgrymu ac archwilio atebion posibl i’r anghydfod. Ni fydd y trafodaethau hynny’n cael eu hystyried yn gyfaddefiad os na fyddwch yn gallu dod i gytundeb yn ystod y cyfryngu. Fodd bynnag, nid yw’n cynnwys ‘ffaith treth’.

Ffeithiau Treth

Mae ‘ffaith treth’ yn ffaith sydd â goblygiadau cyfreithiol a thechnegol i rwymedigaeth treth cwsmer. Ni all fod heb ragfarn.

Mae enghreifftiau o ffeithiau treth yn cynnwys:

  • derbyn taliad
  • gwneud cyflenwad
  • man cyflenwi
  • hunaniaeth cwsmer

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Ar ôl i’ch achos gael ei derbyn i’r broses ADR, bydd y cyfryngwr yn penderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol o’ch helpu chi a CThEF i ddatrys yr anghydfod. Gallai hyn fod drwy e-bost, dros y ffôn, neu mewn cyfarfod.

Os bydd y cyfryngwr yn meddwl bod angen cyfarfod, bydd y canlynol yn eich helpu i baratoi.

Paratoi ar gyfer unrhyw gyfarfod cyfryngu

Wrth baratoi ar gyfer cyfarfod cyfryngu, bydd y cyfryngwr yn gofyn i chi am ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y mae anghydfod yn eu cylch, gan gynnwys eich safbwynt ar bob mater. Dylai’ch datganiad fod:

  • yn gryno — dim mwy na 2 ochr o bapur A4
  • yn nodi’r prif ffeithiau a, phan fo’n berthnasol, sut y credwch fod y gyfraith yn berthnasol i’r ffeithiau hyn

Ni ddylai’ch datganiad olrhain hanes y gwiriad cydymffurfio.

Bydd gofyn i’r swyddog sy’n delio â’ch gwiriad cydymffurfio wneud yr un peth.

Bydd y datganiadau hyn yn sail i’r drafodaeth ar y diwrnod cyfryngu, a byddant yn cael eu rhannu rhyngoch chi a’r swyddog cyn y cyfarfod cyfryngu.

Cyn y cyfarfod, bydd eich cyfryngwr yn rhoi o’i amser i drafod yr hyn fydd yn digwydd yn ystod y diwrnod, a bydd yn gwneud yr un peth ar gyfer y swyddog.

Ynghylch y cyfarfod cyfryngu

Bydd y cyfryngwr yn agor y cyfarfod ac yn gwahodd trafodaeth am y datganiadau. Drwy gydol y broses gyfryngu, bydd cyfleoedd i chi ofyn cwestiynau a mynegi’ch barn drwy drafodaeth ar y cyd a/neu drafodaeth breifat gyda’r cyfryngwr.

Bydd y cyfryngwr yn eich helpu chi a’r swyddog sy’n delio â’ch gwiriad i archwilio’r materion sy’n destun anghydfod ac i ystyried pob datrysiad posibl. Efallai y bydd y broses gyfryngu yn cynnwys trafodaethau ar y cyd a/neu drafodaethau ar wahân gyda chi a chyda’r swyddog yn CThEF, gan ddibynnu ar amgylchiadau penodol eich anghydfod.

Ni fydd y cyfryngwr yn awgrymu datrysiadau nac yn eu gorfodi arnoch. Yn lle hynny, bydd y cyfryngwr yn eich helpu chi a’r swyddog yn CThEF i weithio drwy’r materion sy’n destun anghydfod. Dim ond os gall y swyddog yn CThEF a chithau ddod i gytundeb sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr y bydd datrysiad.

Strategaeth Ymgyfreitha a Setlo

Wrth ddatrys anghydfodau, mae CThEF wedi’i rwymo gan y Strategaeth Ymgyfreitha a Setlo (LSS). Dyma’r fframwaith y mae CThEF yn ei ddefnyddio i ddatrys anghydfodau treth. Anogir y ddwy ochr i ddarllen yr LSS cyn y cyfarfod cyfryngu. Bydd hyn yn eich helpu chi a’r swyddog yn CThEF i ddeall y rheolau sylfaenol clir y mae’n rhaid i CThEF eu dilyn wrth geisio dod i gytundeb gyda’r cwsmer.

Darllenwch ragor am y strategaeth ymgyfreitha a setlo ar-lein. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘litigation and settlement strategy’.

Cymryd nodiadau yn ystod ADR

Gallwch gymryd nodiadau yn ystod y cyfryngu ond dylech gymryd cyn lleied o nodiadau ag sy’n bosibl. Os yw gwybodaeth a ddarparwyd gennych chi neu CThEF yn ystod y cyfryngu yn effeithio ar eich rhwymedigaeth treth, yna gallwch chi neu CThEF wneud nodyn o hyn. Gellir cyfeirio at hyn mewn unrhyw achos yn y dyfodol.

Gallwch ddewis gofyn i rywun gymryd rhan yn y cyfarfod gyda chi, er enghraifft, eich ymgynghorydd treth, ffrind, neu aelod o’r teulu. Gofynnir i chi gadarnhau eich bod yn hapus i’ch materion treth gael eu trafod yn fanwl o’i flaen.

Yr hyn sy’n digwydd ar ôl ADR

Ar ddiwedd y broses ADR, bydd y cyfryngwr yn esbonio’ch camau nesaf. Bydd y rhain yn dibynnu ar ganlyniad yr ADR. Mewn rhai achosion, bydd y cyfryngwr yn gofyn i chi a’r swyddog yn CThEF i helpu i ddrafftio dogfen sy’n manylu ar ganlyniad y cyfryngu. Er enghraifft, pan fo cyfarfod llawn wedi’i gynnal. Rydym yn galw’r ddogfen hon yn ‘Cofnod o ganlyniad ADR’. Unwaith y bydd y cofnod wedi’i ddrafftio, gofynnir i chi gadarnhau eich bod yn cytuno ag ef. Hwn fydd yr unig gofnod cytunedig o’r sefyllfa derfynol yr ydych wedi’i chyrraedd ar ddiwedd y cyfryngu. Os ydych wedi datrys yr anghydfod, gellir nodi hyn yn y ddogfen, yn ogystal ag unrhyw gamau yr ydych chi a’r swyddog yn bwriadu eu cymryd yn y dyfodol.

Gellir defnyddio’r ddogfen hefyd i gofnodi bod y broses ADR wedi dod i ben heb gytundeb.

Mewn rhai categorïau arbennig o achosion, dim ond ‘Bwrdd Datrys Anghydfodau’ neu banel tebyg sy’n gallu gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a all y swyddog yn CThEF gytuno â’r datrysiad a gynigiwyd yn ystod y cyfryngu. I ddarllen cod llywodraethu CThEF ar gyfer datrys anghydfodau treth, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘resolve tax disputes’.

Yn yr achosion hyn, mae unrhyw ddarpar gytundeb a drafodir yn ystod y cyfryngu yn gytundeb dros dro. Mae’n rhaid i’r panel neu fwrdd priodol ei gymeradwyo cyn i CThEF allu cytuno ag ef. Bydd hyn yn cael ei wneud yn glir i chi yn ystod y cyfryngu.

Sut i wneud cais am ADR

I wneud cais am ADR, mae angen i chi lenwi’r ffurflen gais. Gallwch ddod o hyd i’r ffurflen hon ar-lein — ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘use alternative dispute resolution to settle a tax dispute’. Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd a bod angen cymorth ychwanegol arnoch, ffoniwch ni ar 0300 200 1900.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am Adolygiadau Statudol a’ch hawl i apelio, ewch i www.gov.uk/anghytuno-phenderfyniad-treth

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae CThEF yn datrys anghydfodau treth, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘how HMRC resolves civil tax disputes’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â’r broses ADR, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu aelod o’r teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.