Dod â nwyddau i mewn i’r DU at ddefnydd personol

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch ddod â rhai nwyddau o dramor heb orfod talu treth neu doll yn y DU arnynt, os yw’r nwyddau naill ai:

  • at eich defnydd eich hun
  • yn nwyddau rydych am eu rhoi fel rhodd

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Yn aml, cyfeirir at faint o nwyddau y gallwch ddod â nhw i mewn fel eich ‘lwfans personol’. Mae’r rheolau lwfans personol yn berthnasol i unrhyw nwyddau rydych wedi eu prynu dramor ac yn dod â nhw i mewn i’r DU.

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i nwyddau, waeth ble y gwnaethoch eu prynu. Gallai hyn gynnwys:

  • siop ddi-doll neu siop ddi-dreth
  • ar y stryd fawr yn y wlad rydych wedi ymweld â hi

Mae’n rhaid i chi ddatgan pob un o’r nwyddau masnachol (yn agor tudalen Saesneg). Nid oes lwfansau personol ar nwyddau rydych yn dod â nhw i mewn er mwyn eu gwerthu neu eu defnyddio yn eich busnes.

Mae faint o nwyddau y gallwch ddod â nhw i mewn heb dalu treth neu doll arnynt yn dibynnu ar y canlynol:

Datgan nwyddau wrth y tollau

Cyn croesi ffin y DU, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r tollau (‘datgan’) am unrhyw nwyddau:

Os ewch dros lwfans, bydd yn rhaid i chi dalu treth a tholl ar yr holl nwyddau yn y categori hwnnw.

Gallwch ddatgan nwyddau ar-lein unrhyw bryd o 5 diwrnod (120 awr) cyn i chi ddisgwyl cyrraedd y DU.

Mae’n bosibl y bydd eich nwyddau ac unrhyw gerbyd a ddefnyddiwch i’w cludo yn cael eu hatafaelu (yn agor tudalen Saesneg) os byddwch yn torri’r rheolau. Mae’n bosibl y byddwch yn cael dirwy a’ch erlyn.

Gallwch roi gwybod am rywun sy’n torri’r rheolau (yn agor tudalen Saesneg) i Gyllid a Thollau EF (CThEF).

2. Cyrraedd Prydain Fawr

Os ydych yn teithio i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) o’r tu allan i’r DU, y gallwch ddod â swm penodol o nwyddau i mewn heb dalu treth na tholl arnynt. Yr enw ar hyn yw ‘eich lwfans personol’.

Pan fyddwch yn dod â nwyddau i mewn, mae’n rhaid:

  • eich bod yn eu cludo eich hun
  • i chi eu defnyddio eich hun neu’n eu rhoi i ffwrdd fel rhodd

Os byddwch yn mynd dros eich lwfans personol

Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

Mae’n bosibl y bydd eich nwyddau’n cael eu hatafaelu os na fyddwch yn eu datgan.

Ni allwch gyfuno’ch lwfans personol ag unrhyw un arall.

Lwfans alcohol

Mae faint y gallwch ddod ag ef i mewn yn dibynnu ar y math o alcohol. Gallwch ddod â’r ddau beth canlynol i mewn:

  • cwrw - 42 litr
  • gwin (llonydd) - 18 litr

Gallwch hefyd ddod â’r naill neu’r llall o’r canlynol i mewn:

  • gwirodydd dros 22% o alcohol - 4 litr
  • diodydd alcoholaidd hyd at 22% o alcohol (heb gynnwys cwrw na gwin llonydd) - 9 litr

Mae diodydd alcoholaidd hyd at 22% o alcohol yn cynnwys y canlynol:

  • gwin pefriog
  • gwin cadarn (er enghraifft port, sieri)
  • seidr

Gallwch rannu’r lwfans olaf hwn. Er enghraifft, gallech ddod â 2 litr o wirodydd a 4.5 litr o win cadarn (a’r naill a’r llall yn hanner o’ch lwfans).

Enghraifft

Os byddwch yn dod â 19 litr o win i mewn, mae’n rhaid i chi dalu treth a tholl ar y cyfan gan eich bod wedi mynd dros eich lwfans 18 litr am win

Lwfans tybaco

Gallwch ddod ag un o’r canlynol i mewn:

  • 200 sigarét
  • 100 sigarilo
  • 50 sigâr
  • 250g o dybaco
  • 200 darn o dybaco ar gyfer dyfeisiau electronig sy’n gwresogi tybaco

Gallwch rannu’r lwfans hwn – gallech ddod â 100 sigarét a 25 sigâr i mewn (a’r naill a’r llall yn hanner o’ch lwfans).

Enghraifft

Os byddwch yn dod â 200 sigarét a 50 sigâr i mewn, mae’n rhaid i chi dalu treth a tholl ar y sigaréts a’r sigarau gan eich bod wedi mynd dros eich lwfans yn y categori tybaco

Lwfansau alcohol a thybaco os ydych o dan 17 oed

Nid oes unrhyw lwfansau personol ar gyfer tybaco nac alcohol os ydych o dan 17 oed. Gallwch ddod ag alcohol a thybaco i’r DU at eich defnydd eich hun, ond mae’n rhaid i chi eu datgan cyn i chi gyrraedd y DU.

Lwfans ar gyfer nwyddau eraill

Gallwch ddod â nwyddau eraill gwerth hyd at £390 (neu hyd at £270 os byddwch yn cyrraedd mewn cwch neu awyren breifat).

Os ewch dros eich lwfans, byddwch yn talu treth a tholl ar gyfanswm gwerth y nwyddau, nid dim ond y gwerth dros y lwfans.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu TAW mewnforio a tholl dramor os ewch dros eich lwfans.

TAW mewnforio

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu TAW mewnforio ar gyfanswm gwerth y nwyddau ynghyd ag unrhyw doll. Byddwch yn talu hwn ar gyfradd TAW gyfredol y DU (yn agor tudalen Saesneg).

Datgan nwyddau a wneir neu a gynhyrchir yn yr UE

Nid oes angen i chi dalu unrhyw dreth na tholl ar nwyddau personol rydych yn dod â nhw i mewn i Brydain Fawr, cyn belled â’u bod o fewn eich lwfansau personol.

Os yw’r nwyddau dros eich lwfansau, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • eu datgan
  • talu unrhyw doll dramor sy’n ddyledus
  • talu unrhyw doll ecséis sy’n ddyledus (am dybaco neu alcohol)
  • talu unrhyw TAW mewnforio sy’n ddyledus

Pan fyddwch yn datgan eich nwyddau, mae angen i chi ddatgan pob eitem a brynoch. Pan fyddwch yn datgan eich eitemau, efallai na fydd angen i chi dalu toll dramor ar eitemau lle mae’r canlynol i gyd yn wir:

  • cawsant eu tyfu neu eu gwneud yn yr UE gan ddefnyddio cynhwysion neu ddeunyddiau o’r UE yn unig
  • gwnaethoch eu prynu yn yr UE
  • rydych yn dod â nhw i mewn o un o wledydd yr UE

Os yw’r rhain yn wir, gallwch hawlio toll dramor ar gyfradd sero ar gyfer pob eitem. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • meddu ar dystiolaeth bod y rhain yn wir am bob eitem rydych yn hawlio’r cyfraddau hyn amdani
  • gallu dangos y dystiolaeth hon os bydd swyddog Llu’r Ffiniau yn gofyn amdani

Mae lefel y dystiolaeth sydd ei hangen arnoch yn dibynnu ar gyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn hawlio’r cyfraddau hyn ar eu cyfer.

Os yw cyfanswm y gwerth yn llai na £1,000

Os yw cyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn eu datgan yn llai na £1,000, gall y dystiolaeth ar gyfer pob eitem fod ar ffurf:

  • label neu becyn yn dangos iddi gael ei thyfu neu ei gwneud yn yr UE
  • tystiolaeth iddi gael ei gwneud â llaw neu ei thyfu yn yr UE (er enghraifft, dogfen neu nodyn ysgrifenedig gan y person neu’r busnes y gwnaethoch ei phrynu oddi wrtho)

Efallai y bydd un o swyddogion Llu’r Ffiniau yn gofyn am gael gweld y dystiolaeth hon. Os na allwch ddangos hyn, bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw doll dramor sydd arnoch.

Os yw cyfanswm y gwerth dros £1,000

Os yw cyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn eu datgan dros £1,000, gallwch hawlio toll dramor ar gyfradd sero os gallwch brofi bod pob eitem wedi’i thyfu neu ei gwneud yn yr UE.

Gallai’r dystiolaeth hon fod yn anfoneb neu’n ddogfen gan y person neu’r busnes y gwnaethoch brynu’r eitemau oddi wrtho, sy’n cynnwys:

  • yr eitem rydych yn ei phrynu
  • ble a’r dyddiad y gwnaethoch ei phrynu
  • ‘datganiad tarddiad’

Mae’r ‘datganiad tarddiad’ yn eiriad ffurfiol gan y person neu’r busnes y gwnaethoch brynu’r eitemau oddi wrtho sy’n cadarnhau’r canlynol:

  • roedd y deunydd a ddefnyddiwyd i wneud yr eitem yn dod o’r UE
  • ei rif allforiwr cofrestredig (os yw cyfanswm gwerth yr holl eitemau rydych yn eu datgan dros £5,500)

Gallech hefyd brofi eich bod yn gwybod sut y gwnaed yr eitemau yn yr UE drwy ddefnyddio dogfennau neu gofnodion sy’n dangos bod yr eitem yn bodloni’r rheolau o ran tarddiad. Mae adran ‘gwybodaeth y mewnforiwr’ o’r canllaw tystiolaeth o darddiad (yn agor tudalen Saesneg) yn esbonio sut i wneud hyn. Mae hyn yn berthnasol os byddwch yn dod â’r eitemau hyn i mewn (eu mewnforio) naill ai at ddefnydd personol neu at ddefnydd masnachol.

Efallai y bydd un o swyddogion Llu’r Ffiniau yn gofyn am gael gweld y dystiolaeth hon. Os na allwch ddangos hyn, bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw doll dramor sydd arnoch.

3. Cyrraedd Gogledd Iwerddon

Mae’r rheolau a’ch lwfansau ar gyfer Gogledd Iwerddon yn dibynnu a ydych yn teithio o’r Undeb Ewropeaidd (yn agor tudalen Saesneg) (yr UE) neu wlad arall.

Teithio o un o wledydd yr UE

Nid oes angen i chi ddatgan na thalu treth na tholl ar unrhyw nwyddau y dewch â nhw i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE cyn belled â’ch bod yn gwneud y canlynol:

  • eich bod yn eu cludo eich hun

  • byddwch yn eu defnyddio eich hun neu’n eu rhoi i ffwrdd fel rhodd

  • rydych wedi talu treth a tholl yn y wlad lle roeddech wedi’u prynu

Os ydych yn dod â nwyddau o’r Ynysoedd Dedwydd, gogledd Cyprus, Gibraltar neu Ynysoedd y Sianel, bydd angen i chi ddilyn y rheolau ar gyfer gwledydd y tu allan i’r UE.

Gwiriadau tollau

Os yw swyddog tollau o’r farn eich bod, o bosibl, yn dod â nwyddau i mewn i’w gwerthu, gall wirio’ch nwyddau a gofyn cwestiynau i ddarganfod a yw’r nwyddau at ddefnydd personol.

Mae’r rheolau hyn yr un fath ag yr oeddent cyn 1 Ionawr 2021.

Er nad oes unrhyw derfynau i’r alcohol a’r tybaco y gallwch ddod â nhw i mewn o wledydd yr UE, mae’n fwy tebygol y gofynnir cwestiynau i chi os oes gennych fwy na’r symiau canlynol.

Math o nwyddau Swm
Sigaréts 800
Sigarau 200
Sigarilos 400
Tybaco 1kg
Darnau o dybaco ar gyfer dyfeisiau electronig sy’n gwresogi tybaco 800
Cwrw 110 litr
Gwin 90 litr
Gwirodydd 10 litr
Gwin cadarn (er enghraifft sieri, port) 20 litr

Teithio o’r tu allan i’r UE

Mae’ch lwfansau personol yn golygu y gallwch ddod â faint penodol o nwyddau i mewn heb dalu treth na tholl.

Pan fyddwch yn dod â nwyddau i mewn, mae’n rhaid:

  • eich bod yn eu cludo eich hun

  • eich bod yn eu defnyddio eich hun neu’n eu rhoi i ffwrdd fel rhodd

Os ewch dros eich lwfansau, mae’n rhaid i chi ddatgan eich holl nwyddau a thalu treth a tholl ar yr holl nwyddau yn y categori hwnnw.

Er enghraifft, os byddwch yn dod â 200 sigarét a 50 sigâr i mewn, mae’n rhaid i chi dalu treth a tholl ar y sigaréts a’r sigarau gan eich bod wedi mynd dros eich lwfans yn y categori tybaco. Neu os byddwch yn dod â 5 litr o win i mewn, mae’n rhaid i chi dalu treth a tholl ar y cyfan gan eich bod wedi mynd dros eich lwfans 4 litr am win.

Ni allwch gyfuno’ch lwfans personol â neb arall.

Os ewch dros eich lwfansau, mae’n rhaid i chi ddatgan eich nwyddau ar-lein cyn i chi deithio neu wrth y ffin pan gyrhaeddwch. Mae’n bosibl y bydd eich nwyddau’n cael eu hatafaelu os na fyddwch yn eu datgan.

Lwfans alcohol

Mae faint y gallwch ddod ag ef i mewn yn dibynnu ar y math o alcohol. Gallwch ddod â’r ddau beth canlynol i mewn:

  • cwrw - 16 litr
  • gwin (llonydd) - 4 litr

Gallwch hefyd ddod â’r naill neu’r llall o’r canlynol i mewn:

  • gwirodydd dros 22% o alcohol - 1 litr
  • diodydd alcoholaidd hyd at 22% o alcohol (heb gynnwys cwrw na gwin llonydd) - 2 litr

Diodydd alcoholaidd hyd at 22% o alcohol, yn cynnwys:

  • gwin pefriog
  • gwin cadarn (er enghraifft port, sieri)
  • seidr

Gallwch rannu’r lwfans olaf hwn. Er enghraifft, gallwch ddod â hanner litr o wirodydd a 1 litr o win cadarn (a’r naill neu’r llall yn hanner o’ch lwfans).

Lwfans tybaco

Gallwch ddod ag un o’r canlynol i mewn:

  • 200 sigarét
  • 100 sigarilo
  • 50 sigâr
  • 250g o dybaco
  • 200 darn o dybaco ar gyfer dyfeisiau electronig sy’n gwresogi tybaco

Gallwch rannu’r lwfans hwn – gallech ddod â 100 sigarét a 25 sigâr i mewn (a’r naill neu’r llall yn hanner o’ch lwfans yr un).

Lwfansau alcohol a thybaco os ydych o dan 17 oed

Nid oes unrhyw lwfansau personol ar gyfer tybaco nac alcohol os ydych o dan 17 oed. Gallwch ddod ag alcohol a thybaco i’r DU at eich defnydd eich hun, ond mae’n rhaid i chi dalu treth a tholl arnynt cyn i chi gyrraedd y DU.

Lwfans ar gyfer nwyddau eraill

Gallwch ddod â nwyddau eraill gwerth hyd at £390 (neu hyd at £270 os byddwch yn cyrraedd mewn cwch neu awyren breifat).

Os ewch dros eich lwfans, rydych yn talu treth a tholl ar gyfanswm gwerth y nwyddau, nid dim ond y gwerth dros eich lwfans.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu toll dramor os ewch dros eich lwfans.

TAW mewnforio

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu TAW mewnforio ar gyfanswm y nwyddau ynghyd ag unrhyw doll. Rydych yn talu TAW ar gyfradd TAW gyfredol y DU (yn agor tudalen Saesneg).

4. Teithio rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

Mae’r rheolau yn dibynnu a ydych yn teithio o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon neu o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr.

Teithio o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon

Os ydych yn teithio o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) i Ogledd Iwerddon, nid oes angen i chi ddatgan eich nwyddau os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn breswylydd yn y DU
  • rydych eisoes wedi talu TAW a tholl ecséis (alcohol a thybaco yn unig) ar y nwyddau ym Mhrydain Fawr

Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddatgan eich nwyddau os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych yn breswylydd yn y DU
  • rydych yn mynd ag alcohol neu dybaco i mewn dros eich lwfansau ar gyfer Gogledd Iwerddon ac ni thalwyd toll ecséis arnynt ym Mhrydain Fawr
  • rydych yn mynd â nwyddau i mewn sy’n werth mwy na £390 ac nid ydych wedi talu TAW arnynt ym Mhrydain Fawr

Gwirio a oes angen i chi ddatgan eich nwyddau.

Os ydych yn mynd â cherbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o Brydain Fawr

Bydd yn rhaid i chi ddatgan y cerbyd os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn mynd â fe i Ogledd Iwerddon yn barhaol – er enghraifft, rydych yn byw yna ac rydych yn mynd â’r cerbyd yn ôl gyda chi
  • gwnaethoch ei brynu ym Mhrydain Fawr at eich defnydd eich hun neu i’w roi fel rhodd
  • mae gwerth y cerbyd, ynghyd ag unrhyw nwyddau eraill rydych yn dod â nhw, dros £390
  • mae eisoes wedi’i gofrestru â DVLA
  • nid ydych wedi talu TAW arno ym Mhrydain Fawr – er enghraifft, fe brynoch y cerbyd gan berson neu werthwr nad yw wedi cofrestru ar gyfer TAW

Teithio o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr

Os ydych yn teithio o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) nid oes rhaid i chi ddatgan unrhyw nwyddau.

Bydd angen i chi dalu TAW Mewnforio ar unrhyw nwyddau rydych yn eu prynu yng Ngogledd Iwerddon o siopau sy’n cynnig siopa di-dreth o dan y Cynllun TAW ar gyfer Allforio Nwyddau Manwerthu.

5. Nwyddau wedi’u gwahardd a nwyddau o dan gyfyngiadau

Mae rhai nwyddau na allwch ddod â nhw i mewn i’r DU (yn agor tudalen Saesneg) - byddant yn cael eu hatafaelu gan y tollau (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cyffuriau rheoledig
  • arfau ymosodol, er enghraifft cyllyll clec
  • chwistrellau hunanamddiffyn, er enghraifft chwistrell pupur a nwy CS
  • anifeiliaid a rhywogaethau planhigion sydd mewn perygl
  • diemyntau bras
  • deunyddiau anweddus a masweddus, fel llyfrau, cylchgronau, ffilmiau a DVDau
  • mewnforion personol o gynnyrch cig a llaeth o’r mwyafrif o wledydd y tu allan i’r UE

Eitemau o dan gyfyngiadau

Mae rhai nwyddau o dan gyfyngiadau - fel arfau tanio, ffrwydron a bwledi. Mae angen trwydded arbennig arnoch i ddod â nhw i mewn i’r DU.

Mae rhai cynnyrch bwyd a phlanhigion (yn agor tudalen Saesneg) hefyd o dan gyfyngiadau os:

  • nad ydynt yn rhydd o blâu a chlefydau
  • nad ydynt at eich defnydd eich hun
  • na chawsant eu tyfu yn yr UE

Os dewch â nwyddau yr amheuir eu bod yn torri hawliau eiddo deallusol (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft copïau lladradol o ffilmiau neu gerddoriaeth) gellir eu hatafaelu a gallech gael eich erlyn.

Gwirio a oes angen trwydded CITES arnoch

Bydd yn rhaid i chi wneud cais am drwydded neu dystysgrif os ydych yn dod ag eitemau wedi’u gwarchod gan y Confensiwn ar gyfer Masnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt sydd mewn Perygl (CITES) i’r DU.

Mae hyn yn cynnwys rhai bwydydd a chynnyrch harddwch, nwyddau lledr egsotig, ffwr, offerynnau cerdd pren, hen drugareddau twristaidd a rhai meddyginiaethau.

Gwiriwch os oes angen trwydded CITES arnoch (yn agor tudalen Saesneg).

Darllenwch arweiniad manylach ar y ffurflenni y bydd yn rhaid i chi eu cwblhau (yn agor tudalen Saesneg) a pha borthladdoedd neu feysydd awyr y bydd yn rhaid i chi eu cyrraedd (yn agor tudalen Saesneg).

6. Pryd i ddatgan nwyddau i dollau’r DU

Mae’n rhaid i chi ddweud wrth (‘datgan’) y tollau am nwyddau:

Mae’n rhaid i chi ddatgan nwyddau os ydych yn pasio drwy reolaethau wrth y ffin y DU pan fyddwch yn teithio drwy faes awyr yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) ar y ffordd i wlad arall.

Gallwch ddatgan nwyddau ar-lein unrhyw bryd o 5 diwrnod (120 awr) cyn i chi ddisgwyl cyrraedd y DU.

Gallwch gyfrifo a thalu unrhyw dreth a tholl sydd arnoch pan fyddwch yn datgan eich nwyddau. Mae’r doll dramor a’r doll ecséis rydych yn eu talu ar-lein yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio cyfraddau symlach (yn agor tudalen Saesneg).

Gwiriwch y rheolau ar ddod ag arian parod i mewn i’r DU (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn dod â mwy na £10,000 (neu gyfwerth mewn unrhyw arian cyfred) i mewn.

Datgan nwyddau wrth y ffin

Gallwch ddatgan nwyddau gan ddefnyddio’r sianel goch neu’r ffôn pwynt coch pan fyddwch yn cyrraedd y DU os, er enghraifft:

Gallwch chi a’ch bagiau gael eu gwirio (yn agor tudalen Saesneg) am unrhyw beth y mae’n rhaid ei ddatgan.

Efallai y bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • talu treth neu doll
  • ildio nwyddau wedi’u gwahardd
  • dangos dogfennau am nwyddau o dan gyfyngiadau, er enghraifft trwyddedau a hawlenni

Os na wnewch yr hyn a ofynnir i chi, gall eich nwyddau ac unrhyw gerbyd a ddefnyddiwch i’w cludo gael eu hatafaelu (yn agor tudalen Saesneg).

7. Datgan nwyddau a thalu treth a tholl i dollau’r DU

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn cyn cyrraedd y DU er mwyn:

  • gwirio a oes angen i chi dalu treth neu doll ar unrhyw nwyddau rydych yn dod â nhw i mewn
  • datgan nwyddau os ewch dros eich lwfansau
  • talu unrhyw dreth neu doll sydd arnoch

Gallwch wneud hyn unrhyw bryd o 5 diwrnod (120 awr) cyn i chi ddisgwyl cyrraedd y DU.

Os byddwch yn datgan eich nwyddau ar-lein, bydd y doll dramor a’r doll ecséis yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio cyfraddau symlach.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • union bris eich nwyddau yn yr arian cyfred a ddefnyddioch i dalu amdanynt
  • nifer neu gyfaint eich nwyddau
  • y wlad lle y cafodd eich nwyddau eu gwneud neu eu cynhyrchu os ydych yn teithio o’r UE
  • eich rhif pasbort neu rif cerdyn adnabod yr UE
  • eich dyddiad ac amser cyrraedd
  • cerdyn credyd neu ddebyd os oes angen i chi dalu treth neu doll

Gallwch ddefnyddio’ch rhif trwydded yrru neu’ch rhif ffôn yn lle rhif pasbort os ydych yn teithio o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr neu’r Alban) i Ogledd Iwerddon.

Datgan a thalu unrhyw dreth neu doll

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • gwneud datganiad tollau ar-lein
  • diweddaru datganiad tollau ar-lein
  • talu unrhyw dreth neu doll sydd arnoch cyn i chi gyrraedd y DU

Dechrau nawr

Ar ôl i chi ddatgan eich nwyddau

Os ydych wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost, cewch e-bost mewn ymateb. Os na, gwnewch nodyn o’r cyfeirnod a roddir i chi.

Gall swyddogion tollau ofyn am yr e-bost mewn ymateb neu’r rhif cadarnhau wrth ffin y DU.

Gallwch ddefnyddio’r sianel werdd ‘dim i’w ddatgan’ wrth ddod i mewn i’r DU.

Os oes angen i chi ddatgan rhagor o nwyddau

Gallwch wneud newidiadau ar-lein ar ôl gwneud eich datganiad gwreiddiol.

I newid eich datganiad, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeirnod eich datganiad
  • union bris eich nwyddau yn yr arian cyfred a ddefnyddioch i dalu amdanynt
  • nifer yr eitemau neu gyfaint eich nwyddau
  • y wlad lle y cafodd eich nwyddau eu cynhyrchu os ydych yn teithio o’r UE

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth

Ffoniwch y llinell gymorth Gymraeg ar gyfer Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Llinell gymorth Gymraeg ar gyfer Ymholiadau TAW, Tollau ac Ecséis
Ffôn: 0300 200 3705
Dydd Llun - Dydd Gwener, 08:30 - 17:00
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau

Gwneud cais am ad-daliad

Llenwch ffurflen C82 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych wedi talu gormod o dreth neu doll ac mae angen i chi wneud cais am ad-daliad. Anfonwch hi i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

E-bostiwch CThEF os oes angen y ffurflen hon arnoch mewn fformat arall: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk