Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Printable version
1. Trosolwg
Gallech chi gael gostyngiad o £150 ar eich bil trydan ar gyfer gaeaf 2023 i 2024 o dan y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes.
Dyw’r arian ddim yn cael ei dalu i chi – mae’n ostyngiad untro ar eich bil trydan, rhwng dechrau Hydref 2023 a 31 Mawrth 2024.
Fel arfer, byddwch chi’n cael y gostyngiad yn awtomatig os ydych chi’n gymwys. Dim ond os ydych chi ar incwm isel yn yr Alban y mae angen ichi wneud cais - cysylltwch â’ch cyflenwr ynni i wneud cais.
Os gallech chi fod yn gymwys, byddwch yn cael llythyr erbyn dechrau mis Ionawr 2024.
Os na chewch chi lythyr a’ch bod yn credu eich bod yn gymwys, rhaid ichi gysylltu â’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes cyn 29 Chwefror 2024.
Efallai y gallwch chi gael y gostyngiad ar eich bil nwy yn lle’r bil trydan os yw’ch cyflenwr yn darparu nwy a thrydan ichi a’ch bod yn gymwys. Cysylltwch â’ch cyflenwr i gael gwybod.
Mae’r canllaw yma ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Fydd y gostyngiad ddim yn effeithio ar eich Taliad Tywydd Oer na’ch Taliad Tanwydd Gaeaf.
Cymhwysedd
Mae gwahanol ffyrdd o fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes gan ddibynnu ble rydych chi’n byw.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru a Lloegr
Rydych chi’n gymwys os ydych chi naill ai:
- yn cael yr elfen Credyd Gwarant o Gredyd Pensiwn
- ar incwm isel a bod gennych chi gostau ynni uchel
Os ydych chi’n byw yn yr Alban
Rydych chi’n gymwys os ydych chi naill ai:
- yn cael yr elfen Credyd Gwarant o Gredyd Pensiwn
- ar incwm isel yn yr Alban ac yn bodloni meini prawf eich darparwr ynni ar gyfer y cynllun
Dyw’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes ddim ar gael yng Ngogledd Iwerddon. Rhagor o wybodaeth am y cynllun Gwres Fforddiadwy.
Mesuryddion talu ymlaen llaw neu dalu-wrth-fynd
Rydych chi’n dal yn gallu bod yn gymwys i gael y gostyngiad os ydych chi’n defnyddio mesurydd trydan ymlaen llaw neu fesurydd trydan talu-wrth-fynd.
Gall eich cyflenwr trydan ddweud wrthoch chi sut byddwch chi’n cael y gostyngiad os ydych chi’n gymwys, er enghraifft taleb y gallwch ei defnyddio i ychwanegu at eich mesurydd.
Cartrefi (symudol) mewn parciau
Rydych chi’n gwneud cais mewn ffordd wahanol os ydych chi’n byw mewn cartref mewn parc.
Gwneud cais am y Gostyngiad Cartrefi Cynnes i Gartrefi mewn Parc.
2. Os ydych yn cael yr elfen Gwarant Credyd o Gredyd Pensiwn
Rydych chi’n gymwys i gael y gostyngiad os oedd y cyfan o’r canlynol yn gymwys ar 13 Awst 2023:
- bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
- bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan
- eich bod chi neu’ch partner yn cael yr elfen Credyd Gwarant o Gredyd Pensiwn (hyd yn oed os ydych chi’n cael Credyd Cynilion hefyd)
Yr enw ar hyn yw ‘grŵp craidd 1’ yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban, dyma’r ‘grŵp craidd’.
Os nad ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o Gredyd Pensiwn, efallai y byddwch yn dal yn gymwys os ydych chi:
Sut i gael y gostyngiad
Fe gewch chi lythyr rhwng mis Hydref 2023 a dechrau mis Ionawr 2024:
- os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun
- os gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, ond bod angen ichi roi mwy o wybodaeth
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun, bydd eich llythyr yn cadarnhau nad oes angen ichi wneud dim byd. Fe gewch chi’r gostyngiad yn awtomatig.
Os oes angen ichi roi rhagor o wybodaeth, bydd eich llythyr yn dweud wrthoch chi am ffonio’r llinell gymorth erbyn 29 Chwefror 2024 i gadarnhau eich manylion.
Os ydych chi’n gymwys, bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil erbyn 31 Mawrth 2024.
Os na chewch chi lythyr
Cysylltwch â’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes os na chewch chi’r llythyr erbyn dechrau mis Ionawr 2024 a’ch bod yn credu eich bod yn gymwys.
Rhaid ichi gysylltu â nhw cyn 29 Chwefror 2024.
Llinell gymorth Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Ffôn: 0800 030 9322
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gwybodaeth am gostau galwadau\
110552 Warm Home Discount Scheme
PO Box 26965
Glasgow
G1 9BW
3. Os ydych chi ar incwm isel yng Nghymru a Lloegr
Os nad ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarant o Gredyd Pensiwn, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i gael y Gostyngiad Cartrefi Cynnes.
Fe allech chi fod yn gymwys os oedd y cyfan o’r canlynol yn gymwys ar 13 Awst 2023:
- bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
- eich bod chi (neu’ch partner) yn cael budd-daliadau penodol sy’n seiliedig ar brawf modd neu gredydau treth
- bod gan eich eiddo sgôr cost ynni uchel yn seiliedig ar ei nodweddion
- bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan
Yr enw ar hyn yw ‘grŵp craidd 2’.
Budd-daliadau a chredydau treth cymwys
Dyma’r budd-daliadau, wedi’u seilio ar brawf modd, sy’n gymwys:
- Budd-dal Tai
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm (ESA)
- Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm (JSA)
- Cymorth Incwm
- y rhan ‘Credyd Cynilion’ o Gredyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
Fe allech chi fod yn gymwys hefyd os yw incwm eich aelwyd o dan drothwy penodol a’ch bod chi’n cael naill ai:
- Credyd Treth Plant
- Credyd Treth Gwaith
Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i gael y gostyngiad ar-lein.
Eich sgôr cost ynni
I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid bod gan eich eiddo sgôr cost ynni uchel.
Nid yw hon wedi’i seilio ar gostau ynni gwirioneddol eich bil ynni. Mae’n cael ei chyfrifo ar sail eich math chi o eiddo, oedran eich eiddo a’i arwynebedd llawr.
Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i gael y gostyngiad ar-lein.
Sut i gael y gostyngiad
Fe gewch chi lythyr rhwng mis Hydref 2023 a dechrau mis Ionawr 2024:
- os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun
- os gallech chi fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, ond bod angen ichi roi mwy o wybodaeth
Os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun, bydd eich llythyr yn cadarnhau nad oes angen ichi wneud dim byd. Fe gewch chi’r gostyngiad yn awtomatig.
Os oes angen ichi roi rhagor o wybodaeth, bydd eich llythyr yn dweud wrthoch chi am ffonio’r llinell gymorth erbyn 29 Chwefror 2024 i gadarnhau eich manylion.
Os ydych chi’n gymwys, bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil erbyn 31 Mawrth 2024.
Os na chewch chi lythyr
Cysylltwch â’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes os na chewch chi’r llythyr erbyn dechrau mis Ionawr 2024 a’ch bod yn credu eich bod yn gymwys.
Rhaid ichi gysylltu â nhw cyn 29 Chwefror 2024.
Llinell gymorth Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Ffôn: 0800 030 9322
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
110552 Warm Home Discount Scheme
PO Box 26965
Glasgow
G1 9BW
4. Os ydych chi ar incwm isel yn yr Alban
Does dim angen ichi wneud cais os ydych chi’n cael yr elfen Credyd Gwarantedig o Gredyd Pensiwn. Byddwch yn cael llythyr yn awtomatig yn dweud wrthoch chi am y gostyngiad os ydych chi’n gymwys.
Fel arall, bydd angen ichi wneud cais yn uniongyrchol i’ch cyflenwr ynni.
Fe allech chi fod yn gymwys os yw’r cyfan o’r canlynol yn gymwys:
- bod eich cyflenwr ynni yn rhan o’r cynllun
- eich bod chi (neu’ch partner) yn cael budd-daliadau penodol sy’n seiliedig ar brawf modd neu gredydau treth
- bod eich enw chi (neu enw’ch partner) ar y bil trydan
Efallai y bydd gan eich cyflenwr trydan feini prawf cymhwysedd ychwanegol. Byddan nhw hefyd yn dweud wrthoch chi pa fudd-daliadau sy’n golygu eich bod yn gymwys.
Yr enw ar hyn yw bod yn y ‘grŵp ehangach’.
Sut i gael y gostyngiad
Cysylltwch â’ch cyflenwr trydan i wirio a ydych chi’n gymwys ac i wneud cais. Nhw fydd yn penderfynu pwy sy’n cael y gostyngiad yn yr Alban. Chewch chi ddim gwneud cais am y gostyngiad drwy gysylltu â’r Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes.
Cyfyngedig yw nifer y gostyngiadau y gall cyflenwyr eu rhoi. Cysylltwch â nhw cyn gynted â phosibl. Cysylltwch â nhw hyd yn oed os oeddech chi’n gymwys i gael gostyngiad y llynedd.
Os ydych chi’n gymwys, bydd eich cyflenwr trydan yn rhoi’r gostyngiad ar eich bil erbyn 31 Mawrth 2024. Bydd angen ichi aros gyda’ch cyflenwr nes iddo gael ei dalu.
5. Cyflenwyr ynni
Mae’r cyflenwyr canlynol yn rhan o’r cynllun:
- 100Green (Green Energy UK neu GEUK gynt)
- Affect Energy – gweler Octopus Energy
- Boost
- British Gas
- Bulb Energy – gweler Octopus Energy
- Co-op Energy - gweler Octopus Energy
- E – hefyd yn cael ei adnabod fel E (Gas and Electricity)
- Ecotricity
- E.ON Next
- EDF
- Good Energy
- London Power
- Octopus Energy
- Outfox the Market
- OVO
- Rebel Energy
- Sainsbury’s Energy
- Scottish Gas – gweler British Gas
- ScottishPower
- Shell Energy Retail
- So Energy
- Tomato Energy
- TruEnergy
- Utilita
- Utility Warehouse
Os nad yw’ch cyflenwr yn masnachu mwyach
Os yw’r cyflenwr trydan roeddech chi gyda nhw yn rhoi’r gorau i fasnachu, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i gael Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Bydd Ofgem yn penodi’ch cyflenwr newydd i chi.
Cysylltwch â’ch cyflenwr newydd os ydych chi’n gymwys i gael y gostyngiad.