Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth: arweiniad i gyflogwyr

Printable version

1. Trosolwg

Gall cyflogai fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • mae gan y cyflogai neu ei bartner blentyn o dan 18 oed sydd wedi marw

  • cafodd y cyflogai neu ei bartner farw-enedigaeth ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd

Rhaid i’r farwolaeth neu’r farw-enedigaeth fod wedi digwydd ar neu ar ôl:

  • 6 Ebrill 2020 os ydych yn gyflogedig yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

  • 6 Ebrill 2022 os ydych yn gyflogedig yng Ngogledd Iwerddon

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Absenoldeb Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Gall cyflogai gymryd absenoldeb o 2 wythnos o ddiwrnod cyntaf ei gyflogaeth ar gyfer pob plentyn sydd wedi marw neu a oedd yn farw-anedig.

Gall ddewis cymryd:

  • 2 wythnos gyda’i gilydd

  • 2 wythnos o absenoldeb ar wahân

  • un wythnos o absenoldeb yn unig

Mae’r absenoldeb:

  • yn gallu dechrau ar neu ar ôl dyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth

  • yn gorfod dod i ben cyn pen 56 wythnos i ddyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth

Cymryd absenoldeb gyda mathau eraill o absenoldeb statudol

Os oedd y cyflogai yn cymryd math arall o absenoldeb statudol pan ddigwyddodd y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth, mae’n rhaid i’r Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth ddechrau ar ôl i’r absenoldeb arall ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys os yw’r absenoldeb statudol ar gyfer plentyn arall.

Os yw dechrau math arall o absenoldeb statudol yn torri ar draws Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth cyflogai, gall gymryd ei hawl i’r Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth sy’n weddill ar ôl i’r absenoldeb arall hwnnw ddod i ben.

Rhaid cymryd yr Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth sy’n weddill cyn pen 56 wythnos i ddyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth.

Gellir cymryd Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth rhwng cyfnodau o absenoldeb ar y cyd i rieni a oedd eisoes wedi’u trefnu pan fu farw’r plentyn, hyd yn oed os yw’r absenoldeb ar y cyd i rieni ar gyfer plentyn arall.

Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Mae Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth ar gyfer cyflogai cymwys naill ai’n £184.03 yr wythnos neu’n 90% o’i enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sydd isaf). Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.

Cyfrifo Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth cyflogai gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol neu arweiniad ar sut i wneud cyfrifiad â llaw (yn agor tudalen Saesneg).

Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl (yn agor tudalen Saesneg).

Absenoldeb neu dâl ychwanegol

Gallwch gynnig mwy na’r symiau statudol os oes gennych gynllun cwmni ar gyfer absenoldeb a thâl statudol rhieni mewn profedigaeth. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich polisïau o ran absenoldeb a thâl yn glir ac ar gael i staff.

Adennill taliadau

Hyd yn oed os ydych yn talu mwy na’r swm statudol i gyflogai, fel arfer, gallwch ond adennill 92% o’r swm hwnnw. Efallai y gallwch adennill 103% os ydych yn gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwr Bach. Darllenwch ragor am adennill tâl statudol.

Hawliau cyflogaeth

Diogelir hawliau’r cyflogai (yn agor tudalen Saesneg) (fel yr hawl i godiad cyflog, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth.

Rydych yn dal i orfod talu Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.

2. Cymhwystra

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth, mae’n rhaid i gyflogai fodloni’r meini prawf fel rhiant (gan gynnwys os oedd ganddo gyfrifoldeb o ddydd i ddydd) ac fel cyflogai. Efallai na fydd yn gymwys ar gyfer y ddau.

Os oedd y cyflogai’n rhiant i’r plentyn neu’n bartner i’r rhiant

Bydd cyflogai yn gymwys os oedd, ar adeg marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn:

  • yn rhiant i’r plentyn neu’r baban – naill ai’n fiolegol, yn fabwysiadol, neu’n rhiant i blentyn a aned i fam fenthyg
  • yn bartner i riant y plentyn neu’r baban

Nid yw rhieni biolegol yn gymwys ar ôl i orchymyn mabwysiadu neu orchymyn rhiant gael ei wneud, oni bai bod gorchymyn cyswllt ar waith ar ôl y mabwysiadu.

Os nad y cyflogai oedd rhiant y plentyn, ond roedd ganddo gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am y plentyn

Gall cyflogai fod yn gymwys os oedd y canlynol yn wir amdano neu ei bartner:

  • roedd y plentyn neu’r baban yn byw gydag ef yn ei gartref am 4 wythnos barhaus, gan ddod i ben gyda dyddiad y farwolaeth
  • roedd ganddo gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ofal y plentyn neu’r baban yn ystod yr adeg honno

Os talwyd y cyflogai, neu ei bartner, i ofalu am y plentyn, nid oes ganddo hawl i absenoldeb na thâl oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • roedd yn rhiant maeth a oedd yn cael ffi neu lwfans gan gyngor lleol
  • cafodd ad-daliad am dreuliau sy’n ymwneud â gofal y plentyn neu’r baban
  • roedd yn cael taliadau o dan delerau ewyllys neu ymddiriedolaeth ar gyfer gofal y plentyn neu’r baban

Nid yw cyflogai yn gymwys os oedd un o rieni’r plentyn neu’r baban, neu rywun oedd â chyfrifoldeb rhiant (yn agor tudalen Saesneg) (cyfrifoldebau rhieni yn yr Alban) ar gyfer y plentyn, hefyd yn byw ar yr aelwyd.

Os oedd y cyflogai’n rhiant mabwysiadol

Os oedd y cyflogai, neu ei bartner, yn rhiant mabwysiadol, mae cyflogai yn gymwys:

  • ar ôl i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei roi
  • cyn i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei roi, os cafodd y plentyn ei leoli gydag ef i’w fabwysiadu ac nad amharwyd ar y lleoliad (er enghraifft, y plentyn yn cael ei leoli rywle arall dros dro) ac na stopiwyd y lleoliad chwaith

Os oedd y cyflogai yn rhiant mabwysiadol i blentyn o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig

Os oedd y cyflogai, neu ei bartner, yn mabwysiadu plentyn o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad oedd y gorchymyn llys eto wedi ei wneud, gallai fod yn gymwys o hyd. Rhaid i’r naill a’r llall o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • roedd y plentyn yn byw gydag ef ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig
  • mae ganddo’r ‘hysbysiad swyddogol’ sy’n cadarnhau ei fod yn cael mabwysiadu

Os cafodd y cyflogai faban gyda chymorth rhiant benthyg

Os oedd y cyflogai, neu ei bartner, yn rhiant i blentyn a aned i fam fenthyg, mae cyflogai yn gymwys:

  • ar ôl i orchymyn rhiant gael ei wneud
  • cyn i orchymyn rhiant gael ei wneud os oedd wedi gwneud cais – neu wedi bwriadu gwneud cais – am orchymyn rhiant cyn pen 6 mis i enedigaeth y plentyn a’i fod yn disgwyl i’r gorchymyn gael ei roi

Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth

I gael Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth, rhaid i’r cyflogai hefyd:

Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

I gael Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth, mae’n rhaid i’r cyflogai fod wedi’i gyflogi’n barhaus gennych (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at ddiwedd yr ‘wythnos berthnasol’. Yr ‘wythnos berthnasol’ yw’r wythnos (sy’n dod i ben gyda dydd Sadwrn) yn union cyn wythnos y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth.

Mae’n rhaid i’r cyflogai hefyd:

  • parhau i fod wedi’i gyflogi gennych hyd at y diwrnod y mae’r plentyn yn marw neu’n farw-enedigol
  • ennill, ar gyfartaledd, £123 yr wythnos (gros)
  • rhoi’r rhybudd cywir i chi ar gyfer Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Defnyddiwch yr arweiniad ar sut i wneud cyfrifiad â llaw (yn agor tudalen Saesneg) i wirio’r hawl ac i gyfrifo’r wythnos berthnasol.

Mae rheolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer rhai amgylchiadau, er enghraifft os yw’r cyflogai yn gadael neu’n mynd yn sâl.

3. Cyfnod rhybudd

Mae’n rhaid i gyflogai roi rhybudd ynghylch Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth yn ogystal â thystiolaeth ar gyfer Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth.

Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth

Mae gan gyflogai 56 wythnos i gymryd Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth. Mae hyn yn dechrau o ddyddiad marwolaeth y plentyn.

Rhennir y 56 wythnos yn 2 gyfnod:

  • o ddyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth hyd at 8 wythnos ar ôl hynny
  • 9 i 56 wythnos ar ôl dyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth

Gall cyflogai gymryd ei absenoldeb fel bloc unigol o bythefnos, neu fel 2 wythnos ar wahân.

Mae’n rhaid i chi gael rhybudd gan y cyflogai cyn iddo gymryd Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth. Mae faint o rybudd y mae’n rhaid iddo ei roi yn dibynnu ar ba bryd y mae’n cymryd yr absenoldeb.

0 i 8 wythnos ar ôl marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn

Mae’n rhaid i gyflogai roi rhybudd i chi cyn yr amser y byddai fel arfer yn dechrau’r gwaith ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod y mae’n dymuno ei gymryd i ffwrdd o’r gwaith.

9 i 56 wythnos ar ôl marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn

Mae’n rhaid i gyflogai roi o leiaf un wythnos o rybudd i chi cyn dechrau’r wythnos neu’r wythnosau y mae’n dymuno eu cymryd i ffwrdd o’r gwaith.

Sut y dylai cyflogeion roi rhybudd i chi

Dylent roi gwybod i chi am y canlynol:

  • dyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn
  • pryd yr hoffent i’w Habsenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth ddechrau
  • faint o absenoldeb maent yn ei gymryd – naill ai 1 neu 2 wythnos

Gall cyflogai roi rhybudd i chi yn anffurfiol, er enghraifft dros y ffôn, drwy neges destun neu e-bost.

Ni allwch ofyn am y canlynol:

  • rhybudd am absenoldeb yn ysgrifenedig (megis cadarnhad ysgrifenedig o absenoldeb mewn e-bost, llythyr neu ffurflen)
  • rhybudd i ganslo absenoldeb yn ysgrifenedig
  • tystiolaeth o hawl i absenoldeb
  • manylion am berthynas y cyflogai â’r plentyn neu’r baban

Canslo Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth

Gall cyflogai ganslo’i Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth os yw wedi rhoi mwy na’r rhybudd gofynnol i chi ar gyfer cymryd absenoldeb.

Os oedd yn dechrau’r absenoldeb cyn pen 8 wythnos i’r farwolaeth neu’r farw-enedigaeth, rhaid iddo roi gwybod i chi am y canslo – a hynny heb fod yn hwyrach na’r amser y byddai fel arfer yn dechrau’r gwaith ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb a gynlluniwyd.

Os oedd yn dechrau’r absenoldeb 9 wythnos neu’n hwyrach ar ôl y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth, rhaid iddo roi gwybod i chi ddim hwyrach nag un wythnos cyn dechrau’r absenoldeb a gynlluniwyd.

Gall y cyflogai aildrefnu wythnos arall o absenoldeb os yw’n canslo cyn bod yr absenoldeb i fod i ddechrau, ac os yw’n rhoi’r rhybudd cywir i chi.

Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Mae’n rhaid i gyflogai ofyn am Dâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth cyn pen 28 diwrnod, gan ddechrau gyda diwrnod cyntaf yr wythnos y mae’n dymuno hawlio tâl amdani.

Rhaid iddo roi i chi yn ysgrifenedig (er enghraifft, llythyr neu e-bost) bob tro:

  • dyddiadau’r cyfnod y mae’n dymuno hawlio Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth amdano
  • ei enw
  • dyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn

Bydd hefyd angen i’r cyflogai roi hunan-ddatganiad i chi i gadarnhau ei fod yn gymwys oherwydd ei berthynas â’r plentyn neu’r baban – dim ond pan fydd yn gofyn am dâl yn gyntaf y mae angen iddo roi hyn.

Canslo Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Gall cyflogai ganslo’i Dâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth os yw wedi rhoi mwy na’r rhybudd gofynnol i chi ar gyfer hawlio tâl.

Os oedd ei dâl i fod i ddechrau cyn pen 8 wythnos i farwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn, mae’n rhaid iddo roi rhybudd i chi ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos o dâl y mae’n dymuno ei chanslo.

Os oedd ei dâl i fod i ddechrau 9 wythnos neu’n hwyrach ar ôl marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn, mae’n rhaid iddo roi gwybod i chi ei fod am ganslo un wythnos cyn bod ei dâl i fod i ddechrau.

4. Ffurflen dim tâl

Gallwch wrthod Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth os nad yw’r cyflogai’n gymwys ar ei gyfer.

I wneud hyn, anfonwch ffurflen dim tâl (SPBP1) wedi’i llenwi ato, neu’ch ffurflen gyfatebol eich hun, cyn pen 28 diwrnod i’w gais am dâl ynghyd â thystiolaeth. Dylech gadw cofnod o’r wythnos a wrthodwyd a’r rheswm dros hynny.

Os yw cyflogai’n anfodlon ar eich penderfyniad, gall gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. Mae’n rhaid iddo wneud hyn cyn pen 6 mis i ddyddiad dechrau’r cyfnod Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth a hawliodd.

5. Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion ar gyfer Cyllid a Thollau EF (CThEF), gan gynnwys:

  • y dyddiad dechrau ar gyfer unrhyw gyfnod pan dalwyd Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth
  • y taliadau rydych wedi’u gwneud (gan gynnwys dyddiadau)
  • copi o’r dystiolaeth o hawl y cyflogai i Dâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth, gan gynnwys ei ddatganiad ysgrifenedig, enw a dyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn
  • manylion unrhyw wythnosau pan hawliodd y cyflogai Dâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth ond na wnaethoch ei dalu a’r rheswm dros hynny

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi.

Gallwch ddefnyddio ffurflen cadw cofnodion (SPBP2) CThEF, neu’ch ffurflen cadw cofnodion eich hun.

6. Cael help gyda thâl statudol

I gael cymorth ariannol gyda thâl statudol, gallwch:

Gwneud cais am daliad ymlaen llaw os na allwch fforddio taliadau

Gallwch wneud cais ar-lein am daliad ymlaen llaw er mwyn talu am Dâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth ar gyfer cyflogai.

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os oes gennych gwestiynau am daliadau ymlaen llaw.

Cyn i chi ddechrau, bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich cyfeirnod TWE y cyflogwr
  • eich cyfeirnod talu neu’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon – mae hwn i’w weld ar y llythyr a gawsoch ar ôl i chi gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf

  • swm y dreth neu’r Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus i CThEF
  • manylion banc neu gymdeithas adeiladu ar eich cyfer chi, neu ar gyfer y trydydd parti y mae’r taliad ymlaen llaw yn cael ei dalu iddo

  • ffurflen R38 (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i llenwi os yw’r taliad ymlaen llaw yn cael ei dalu i drydydd parti
  • eich cyfeiriad e-bost, neu eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth

Bydd angen gwybodaeth arnoch hefyd am y cyflogai, gan gynnwys y canlynol:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • enillion wythnosol cyfartalog
  • trefniadau o ran absenoldeb a thâl statudol rhieni mewn profedigaeth – gallwch gael yr wybodaeth hon o’i hunan-ddatganiad

Gwnewch gais nawr

Ar ôl i chi wneud cais

Os yw’r taliad ymlaen llaw yn cael ei dalu i drydydd parti, ac rydych yn anfon ffurflen R38 wedi’i llenwi drwy’r post, anfonwch hi i CThEF cyn pen 4 wythnos ar ôl gwneud cais am daliad ymlaen llaw.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo, bydd yr arian yn cael ei dalu i’r cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a roddwyd gennych, neu byddwn yn anfon siec (archeb talu) atoch, yn dibynnu ar y dull a ddewisoch.

Os oes unrhyw broblemau gyda’ch cais, bydd CThEF yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.

Ad-dalu’ch taliad ymlaen llaw

Bydd angen i chi ad-dalu’ch taliad ymlaen llaw drwy Grynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS).