Credyd Pensiwn

Printable version

1. Trosolwg

Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i helpu gyda’ch costau byw os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Gall Credyd Pensiwn hefyd helpu gyda chostau tai fel rhent daear neu daliadau gwasanaeth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.

Efallai y cewch gymorth ychwanegol os ydych yn ofalwr, yn ddifrifol anabl, neu’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc.

Mae Credyd Pensiwn ar wahân i’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch gael Credyd Pensiwn hyd yn oed os oes gennych incwm arall, cynilion neu os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun.

Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â Chredyd Pensiwn yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.Darganfyddwch fwy am Gredyd Pensiwn yng Ngogledd Iwerddon.

Cymorth arall os ydych yn cael Credyd Pensiwn

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn gallwch hefyd gael help arall, fel:

2. Cymhwyster

Rhaid i chi fyw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban a bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn.

Os ydych o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, fel rheol mae angen statws sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog i chi a’ch teulu o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE i gael Credyd Pensiwn. Y dyddiad cau i wneud cais i’r cynllun oedd 30 Mehefin 2021 i’r mwyafrif o bobl, ond efallai y byddwch chi’n dal i allu gwneud cais. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.

Os oes gennych bartner

Rhaid i chi gynnwys eich partner ar eich cais.

Byddwch yn gymwys os naill ai:

  • rydych chi a’ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • mae un ohonoch yn cael Budd-dal Tai ar gyfer pobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Mae partner yn naill ai:

  • eich gŵr, gwraig neu bartner sifil - os ydych yn byw gyda nhw
  • rhywun rydych yn byw gyda nhw fel cwpl, heb fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Eich incwm

Pan rydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn mae eich incwm yn cael ei weithio allan. Os oes gennych bartner mae eich incwm yn cael ei weithio allan gyda’i gilydd.

Mae Credyd Pensiwn yn cynyddu:

  • eich incwm wythnosol i £218.15 os ydych yn sengl
  • eich incwm wythnosol ar y cyd i £332.95 os oes gennych bartner

Os yw’ch incwm yn uwch, efallai y byddwch dal yn gymwys i gael Credyd Pensiwn os oes gennych chi anabledd, rydych yn gofalu am rywun, mae gennych gynilion neu os oes gennych gostau tai.

Beth sy’n cyfrif fel incwm

Mae eich incwm yn cynnwys:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • pensiynau eraill
  • enillion o gyflogaeth a hunangyflogaeth
  • y rhan fwyaf o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, er enghraifft Lwfans Gofalwr

Beth sydd ddim yn cyfrif fel incwm

Nid yw pob budd-dal yn cael ei gyfrif fel incwm. Er enghraifft, nid yw’r canlynol yn cyfrif:

  • Taliad Anabledd Oedolion
  • Lwfans Gweini
  • Bonws y Nadolig
  • Budd-dal Plant
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • taliadau cronfa gymdeithasol fel Lwfans Tanwydd Gaeaf
  • Budd-dal Tai
  • Gostyngiad Treth Cyngor

Os ydych wedi gohirio eich pensiwn

Os oes gennych hawl i gael pensiwn personol neu bensiwn y gweithle ac nad ydych wedi ei hawlio eto, mae’r swm y byddwch yn disgwyl ei gael yn dal i gyfrif fel incwm.

Os ydych chi wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth, mae swm y Pensiwn y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael yn cael ei gyfrif fel incwm.

Ni allwch gronni symiau ychwanegol gan ohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych chi neu eich partner yn cael Credyd Pensiwn.

Eich cynilion a’ch buddsoddiadau

Os oes gennych £10,000 neu lai mewn cynilion a buddsoddiadau ni fydd hyn yn effeithio ar eich Credyd Pensiwn.

Os oes gennych fwy na £10,000, mae pob £500 dros £10,000 yn cyfrif fel incwm o £1 yr wythnos. Er enghraifft, os oes gennych £11,000 mewn cynilion, mae hyn yn cyfrif fel incwm o £2 yr wythnos.

Cysylltwch â llinell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn os bydd eich amgylchiadau’n newid.

Os ydych chi i ffwrdd o Brydain Fawr

Gallwch barhau i gael Credyd Pensiwn os ydych chi i ffwrdd o Brydain Fawr am 4 wythnos neu lai - er enghraifft, ar wyliau.

Rhaid i chi:

Gallwch gael Credyd Pensiwn am hyd at 4 wythnos arall os:

  • rydych i ffwrdd o Brydain Fawr oherwydd marwolaeth perthynas agos
  • mae perthynas agos yn marw tra byddwch i ffwrdd ac nid yw’n rhesymol i chi ddychwelyd i’r DU

Ni allwch wneud cais am Gredyd Pensiwn os ydych eisoes y tu allan i Brydain Fawr.

Ni allwch gael Credyd Pensiwn os ydych yn symud i ffwrdd o Brydain Fawr yn barhaol.

Gadael Prydain Fawr am driniaeth feddygol

Gallwch barhau i gael Credyd Pensiwn am hyd at 26 wythnos os:

  • rydych wedi gadael Prydain Fawr am driniaeth feddygol
  • rydych wedi gadael Prydain Fawr am gyfnod o adferiad sydd wedi ei gymeradwyo gan weithiwr meddygol proffesiynol (a elwir hefyd yn ‘adferiad cymeradwy’)
  • mae eich partner neu’ch plentyn yn gadael Prydain Fawr am driniaeth feddygol neu ‘adferiad cymeradwy’ ac rydych yn mynd gyda hwy

3. Beth fyddwch yn ei gael

Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at:

  • eich incwm wythnosol i £218.15 os ydych yn sengl
  • eich incwm wythnosol ar y cyd i £332.95 os oes gennych bartner

Efallai y cewch symiau ychwanegol os oes gennych gyfrifoldebau a chostau eraill.

Mae’r ychwanegiad a symiau ychwanegol yn cael eu hadnabod fel ‘Credyd Gwarantedig’.

Os oes gennych anabledd difrifol

Efallai y gallwch gael £81.50 yr wythnos yn ychwanegol os cewch unrhyw un o’r canlynol:

  • Lwfans Gweini
  • cydran gofal cyfradd ganol neu uchaf y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • cydran bywyd bob dydd y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Taliad Anabledd Oedolion - elfen bywyd bob dydd ar y gyfradd safonol neu uwch

Os ydych yn gofalu am oedolyn arall

Gallwch gael £45.60 yr wythnos yn ychwanegol os:

  • rydych yn cael Lwfans Gofalwr
  • rydych yn cael Taliad Cymorth Gofalwr
  • rydych wedi cael Lwfans Gofalwr ond nid ydych yn cael eich talu oherwydd eich bod eisoes yn cael budd-dal arall sy’n talu swm uwch

Os ydych chi a’ch partner wedi hawlio neu’n cael Lwfans Gofalwr, gall y ddau ohonoch gael y swm ychwanegol yma

Os ydych yn gyfrifol am blant neu bobl ifanc

Gallwch gael £66.29 yr wythnos yn ychwanegol ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc rydych yn gyfrifol amdano. Mae hyn yn cynyddu i £76.79 yr wythnos ar gyfer y plentyn cyntaf os cafodd ei eni cyn 6 Ebrill 2017.

Fel rheol rhaid i’r plentyn neu’r person ifanc fyw gyda chi a bod o dan 20 oed.

Os ydynt yn 16 oed neu’n hŷn ac o dan 20 oed, mae’n rhaid iddynt fod ar (neu wedi cael eu derbyn am):

  • hyfforddiant a gymeradwywyd, fel Prentisiaethau Sylfaenol
  • cwrs addysg nad yw’n addysg uwch (er enghraifft, maent yn astudio ar gyfer TGAU neu Safon Uwch)

Os ydynt mewn addysg, rhaid iddo fod am fwy na 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Os ydych yn cael Credydau Treth, ni allwch gael yr ychwanegiad yma o Gredyd Pensiwn am ofalu am blentyn. Ond efallai y byddwch yn gymwys i gael Credydau Treth Plant.

Os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn anabl

Os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn anabl, gallwch hefyd gael swm ychwanegol o naill ai:

  • £35.93 yr wythnos os ydynt yn cael DLA, PIP neu ADP
  • £112.21 yr wythnos os ydynt yn ddall neu os ydynt yn cael y gydran gofal cyfradd uchaf o DLA, neu’r gydran byw bob dydd uwch o PIP

Os oes gennych gostau tai

Gallech gael swm ychwanegol i dalu am eich costau tai, fel:

  • rhent daear os yw’ch eiddo yn brydlesol
  • rhai taliadau am wasanaeth
  • taliadau am bebyll a rhenti safle

Mae’r swm y gallech ei gael yn dibynnu ar eich costau tai.

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, fe allwch hefyd fod yn gymwys ar gyfer:

Os oes gennych gynilion neu ail bensiwn

Gallech gael y rhan ‘Credyd Cynilo’ o Gredyd Pensiwn os yw dau o’r canlynol yn berthnasol:

  • gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
  • gwnaethoch gynilo rhywfaint o arian ar gyfer ymddeol, er enghraifft pensiwn personol neu bensiwn y gweithle

Byddwch yn cael hyd at £17.01 o Gredyd Cynilo yr wythnos os ydych yn sengl. Os oes gennych bartner, byddwch yn cael hyd at £19.04 yr wythnos.

Efallai y byddwch yn dal i gael rhywfaint o Gredyd Cynilo hyd yn oed os na chewch y rhan Credyd Gwarantedig o’r Credyd Pensiwn.

Cymorth arall os ydych yn cael Credyd Pensiwn

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, byddwch yn cael taliadau tywydd oer yn awtomatig.

Byddwch hefyd yn gymwys i:

Gall costau GIG gynnwys pethau fel presgripsiynau, triniaeth ddeintyddol, sbectol a chostau cludiant ar gyfer apwyntiadau ysbyty.

Darganfyddwch faint y gallwch ei gael

Defnyddiwch y gyfrifiannell Credyd Pensiwn i weithio allan faint y gallwch ei gael.

Cysylltwch â llinell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn os nad ydych yn siŵr os ydych yn gymwys i gael symiau ychwanegol.

Llinell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn
Ffôn: 0800 731 0469
Ffôn testun: 0800 169 0133
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0469
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau

Sut rydych yn cael eich talu

Fel arfer, telir yr holl fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau i gyfrif, er enghraifft cyfrif banc.

4. Sut i wneud cais

Gallwch wneud eich cais hyd at 4 mis cyn i chi gyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch wneud cais unrhyw amser ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond gall eich cais ddim ond cael ei ôl-ddyddio am 3 mis. Mae hyn yn golygu y gallwch gael hyd at 3 mis o Gredyd Pensiwn yn eich taliad cyntaf pe byddech yn gymwys yn ystod yr amser hynny.

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch chi a’ch partner os oes gennych un:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • gwybodaeth am unrhyw incwm, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych
  • gwybodaeth am eich incwm, cynilion a buddsoddiadau ar y dyddiad yr ydych am ôl-ddyddio’ch cais iddo (fel arfer 3 mis yn ôl neu’r dyddiad y gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth)

Bydd hefyd angen manylion eich cyfrif banc arnoch. Yn dibynnu ar sut rydych yn gwneud cais, efallai y gofynnir i chi hefyd am enw eich banc neu gymdeithas adeiladu, cod didoli a rhif cyfrif.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Gwneud cais nawr

Gwneud cais dros y ffôn

Gall ffrind neu aelod o’r teulu ffonio i chi os na allwch ddefnyddio’r ffôn.

Llinell gais Credyd Pensiwn
Ffôn: 0800 99 1234
Ffôn testun: 0800 169 0133
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 99 1234
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Gwneud cais drwy’r post

I wneud cais trwy’r post, argraffwch a chwblhewch ffurflen gais Credyd Pensiwn neu ffoniwch y llinell gais i ofyn am ffurflen.

Anfonwch y ffurflen gais at y Gwasanaeth Pensiwn, neu gofynnwch i rywun ei wneud ar eich rhan.

The Pension Service 8
Post Handling Site B
Wolverhampton
WV99 1AN

Cysylltwch â sefydliad gwirfoddol fel Cyngor ar Bopeth neu Age UK os ydych angen help gyda’r ffurflen.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais Credyd Pensiwn. Gelwir hwn yn ailystyriaeth orfodol.

5. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau personol ac eich amgylchiadau ariannol chi a’ch partner.

Efallai y bydd eich cais yn cael ei atal neu ei leihau os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith. Bydd rhai newidiadau yn cynyddu faint o Gredyd Pensiwn y gallech ei gael.

Newidiadau i’ch amgylchiadau personol

Gall newid i’ch amgylchiadau personol gynnwys:

  • symud i gyfeiriad newydd
  • dechrau neu roi’r gorau i fyw gyda phartner
  • marwolaeth partner a enwir ar eich cais
  • dechrau neu roi’r gorau i weithio
  • mynd i mewn i’r ysbyty neu gartref gofal
  • pobl yn symud i mewn neu allan o’ch tŷ
  • newid eich enw
  • newid eich cyfrif banc
  • newidiadau i’ch cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post
  • yn gadael Cymru, Lloegr a’r Alban am unrhyw gyfnod (er enghraifft, mynd ar wyliau)
  • rydych yn dechrau neu’n rhoi’r gorau i ofalu am blentyn neu berson ifanc o dan 20 oed
  • newidiadau i’ch statws mewnfudo, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig

Newidiadau i’ch amgylchiadau ariannol

Mae angen i chi hefyd roi gwybod os yw’ch incwm neu’ch treuliau’n newid. Gall hyn gynnwys newidiadau i:

  • costau tai, er enghraifft rhent daear neu daliadau gwasanaeth
  • budd-daliadau y mae unrhyw un sy’n byw yn eich cartref yn ei gael - gan gynnwys cael budd-dal newydd neu fudd-dal yn cael ei atal
  • pensiynau galwedigaethol neu bersonol - gan gynnwys os ydych yn dechrau cael -ensiwn newydd neu’n cymryd cyfandaliad allan o’ch cronfa pensiwn
  • incwm arall, er enghraifft pensiynau tramor neu Gredydau Treth Gwaith
  • cynilion, buddsoddiadau neu eiddo

Ffoniwch y llinell gymorth Credyd Pensiwn os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi roi gwybod am newid.

Gellid mynd â chi i’r llys neu bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol os rhowch wybodaeth anghywir neu beidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.

Sut i roi gwybod am newid

Llinell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn
Ffôn: 0800 731 0453
Ffôn testun: 0800 169 0133
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0469
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau

Gallwch hefyd roi gwybod trwy’r post. Mae’r cyfeiriad ar y llythyrau a gewch am eich Credyd Pensiwn.

Byw gyda phartner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Byddwch yn rhoi’r gorau i gael Credyd Pensiwn os byddwch chi’n dechrau byw gyda phartner sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch chi ddechrau ei gael eto pan fydd eich partner yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os oeddech chi’n byw gyda phartner o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 15 Mai 2019 ac yn cael Credyd Pensiwn, byddwch chi’n dal i’w gael oni bai eich bod chi’n rhoi’r gorau i fod yn gymwys. Os bydd hyn yn digwydd, fel arfer ni fyddwch yn gallu cael Credyd Pensiwn eto nes eich bod chi a’ch partner yn gymwys.

Os na allwch gael Credyd Pensiwn, efallai y bydd gennych hawl i Gredyd Cynhwysol, ond ni allwch chi a’ch partner gael y ddau ar yr un pryd. Os bydd un ohonoch yn dechrau cael Credyd Cynhwysol, byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn.

Os oes gennych Gyfnod Asesu Incwm (AIP)

Mae AIP yn gyfnod o amser pan nad oes raid i chi roi gwybod am newidiadau i’ch pensiynau, cynilion neu fuddsoddiadau.

Os oes gennych AIP mae’n rhaid i chi roi gwybod am bob newid arall i’ch amgylchiadau personol.

Mae eich llythyr dyfarniad Credyd Pensiwn yn dweud wrthych a oes gennych AIP. Efallai bod gennych chi un os ydych yn 75 oed neu’n hŷn ac wedi dechrau cael Credyd Pensiwn cyn 6 Ebrill 2016.

Bydd eich AIP yn dod i ben os bydd amgylchiadau eich cartref yn newid, er enghraifft os ydych yn symud i gartref gofal neu os ydych yn dod yn aelod o gwpl.

Fe gewch lythyr yn dweud bod eich AIP wedi dod i ben. O hynny ymlaen, rhaid i chi roi gwybod am bob newid i’ch amgylchiadau, gan gynnwys newidiadau i’ch pensiynau, cynilion neu fuddsoddiadau.

Ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi roi gwybod am newid.

Os ydych wedi cael eich gordalu

Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:

  • ddim wedi rhoi gwybod am newid ar unwaith
  • wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • wedi eich gordalu mewn camgymeriad

Gwybodaeth am sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.