Budd-dal Plant
Yr hyn y byddwch yn ei gael
Mae dwy gyfradd Budd-dal Plant.
Ar gyfer pwy mae’r lwfans | Cyfradd (wythnosol) |
---|---|
Y plentyn hynaf neu unig blentyn | £25.60 |
Plant ychwanegol | £16.95 y plentyn |
Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant os bydd gormod o Fudd-dal Plant yn cael ei dalu i chi neu os na fydd digon ohono’n cael ei dalu i chi.
Bydd unrhyw daliadau Budd-dal Plant a gewch yn cyfrif tuag at y cap budd-daliadau. Os yw’r cap yn effeithio arnoch chi, byddwch yn dal i gael swm llawn eich taliadau Budd-dal Plant, ond efallai y caiff eich budd-daliadau eraill eu gostwng.
Sut a phryd y caiff Budd-dal Plant ei dalu
Fel arfer, caiff Budd-dal Plant ei dalu bob 4 wythnos ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth.
Gall yr arian gael ei dalu yn wythnosol i chi os ydych yn rhiant sengl neu’n cael rhai budd-daliadau eraill, megis Credyd Cynhwysol.
Gallwch drefnu bod yr arian yn cael ei dalu i mewn i unrhyw gyfrif, ar wahân i’r canlynol:
- cyfrif cerdyn Swyddfa’r Post
- cyfrif CashBuilder Nationwide (cod didoli 07 00 30) yn enw rhywun arall
Gellir ond talu’r arian i mewn i un cyfrif.
Budd-dal Plant a diogelu’ch Pensiwn y Wladwriaeth
Byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol yn awtomatig os hawliwch Fudd-dal Plant a bod eich plentyn o dan 12 oed.
Mae’r credydau hyn yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth fel nad oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
-
nid ydych yn gweithio
-
nid ydych yn ennill digon i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Os nad oes angen y credydau Yswiriant Gwladol arnoch, mae’n bosibl y bydd eich teulu’n gymwys i gael y cymorth yn lle hynny. Naill ai:
- gall eich gŵr, eich gwraig neu’ch partner wneud cais i drosglwyddo’r credydau
- gall aelod gwahanol o’r teulu sy’n gofalu am eich plentyn wneud cais am gredydau Gofal Plant ar gyfer Oedolion Penodedig (yn Saesneg)
Os bydd teuluoedd yn gwahanu
Os bydd teulu’n gwahanu, cewch £25.60 yr wythnos ar gyfer y plentyn hynaf.
Os oes gennych ddau o blant a bod un yn aros gyda chi a’r llall yn aros gyda’ch cyn-bartner, bydd y ddau ohonoch yn cael £25.60 yr wythnos ar gyfer pob plentyn.
Os yw’r ddau ohonoch yn hawlio ar gyfer yr un plentyn, dim ond un ohonoch fydd yn cael Budd-dal Plant ar ei gyfer.
Os oes gennych blant eraill sydd â hawl i Fudd-dal Plant, cewch £16.95 ar gyfer pob plentyn.
Os bydd teuluoedd yn dod at ei gilydd
Os bydd dau deulu yn dod at ei gilydd, bydd y plentyn hynaf yn y teulu newydd yn gymwys ar gyfer y gyfradd o £25.60, a bydd unrhyw blant eraill sy’n gymwys yn cael y gyfradd o £16.95.
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill dros £60,000
Os yw’ch ‘incwm net addasedig’ chi neu’ch partner dros £60,000 y flwyddyn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.
Eich incwm net addasedig yw cyfanswm eich incwm trethadwy cyn unrhyw lwfansau personol a llai pethau megis Rhodd Cymorth. Mae cyfanswm eich incwm trethadwy yn cynnwys llog o gynilion a difidendau.
Os oes angen i chi dalu’r tâl, rydych yn dal i allu cael y manteision eraill o Fudd-dal Plant megis credydau Yswiriant Gwladol. Ni fydd y tâl yn fwy na’r swm a gewch o’r taliadau Budd-dal Plant.
Cyfrifwch a yw’ch incwm net addasedig dros £60,000 gan ddefnyddio’r gyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn Saesneg). Os ydyw, bydd y gyfrifiannell hefyd yn dweud wrthych faint o dâl y bydd angen i chi ei dalu.
Os oes gennych chi a’ch partner incwm unigol dros £60,000, yna bydd y sawl sydd â’r incwm net addasedig uchaf yn gyfrifol am dalu’r tâl.
Os oes gennych chi neu’ch partner incwm unigol o £80,000 neu fwy, codir yr un swm ag y byddwch yn ei wneud drwy daliadau Budd-dal Plant. Yn y pen draw, ni fydd gennych unrhyw arian ychwanegol o Fudd-dal Plant.
Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad bob blwyddyn dreth i dalu’r tâl.
Gallwch wneud hawliad ac optio allan o gael taliadau os nad ydych yn dymuno talu’r tâl. Byddwch yn dal i allu cael y manteision eraill a ddarperir gan Fudd-dal Plant, megis credydau Yswiriant Gwladol.