Os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd

Printable version

1. Trosolwg

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) cyn gynted â phosibl os ydych:

  • wedi methu dyddiad cau ar gyfer talu bil treth
  • yn gwybod na fyddwch yn gallu talu bil treth mewn pryd

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os na allwch dalu’ch bil treth yn llawn, mae’n bosibl y gallwch drefnu cynllun talu er mwyn ei dalu fesul rhandaliad. Yr enw ar hyn yw trefniant ‘Amser i Dalu’.

Ni fyddwch yn gallu trefnu cynllun talu os nad yw CThEF yn meddwl y byddwch yn cynnal yr holl ad-daliadau. Os na all CThEF gytuno ar gynllun talu gyda chi, bydd gofyn i chi dalu’r swm sydd arnoch yn llawn.

2. Trefnu cynllun talu

Er mwyn trefnu cynllun talu, bydd angen y canlynol arnoch:

  • y cyfeirnod perthnasol ar gyfer y dreth na allwch ei thalu, megis eich cyfeirnod unigryw y trethdalwr
  • manylion eich cyfrif banc yn y DU – mae’n rhaid i chi fod wedi’ch awdurdodi i sefydlu Debyd Uniongyrchol
  • manylion unrhyw daliadau blaenorol rydych wedi’u methu

Mae’n bosibl y gallwch drefnu cynllun talu ar-lein, yn dibynnu ar y math o dreth sydd arnoch a faint o dreth sydd arnoch.

Os oes arnoch dreth o Hunanasesiad

Gallwch drefnu cynllun talu Hunanasesiad ar-lein os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth ddiweddaraf
  • mae arnoch £30,000 neu lai
  • rydych o fewn 60 diwrnod i’r dyddiad cau ar gyfer talu
  • nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF

Bydd CThEF yn gofyn i chi am eich incwm a’ch gwariant pan fyddwch yn trefnu’ch cynllun.

Os oes arnoch gyfraniadau TWE y Cyflogwr

Gallwch  drefnu cynllun talu TWE y Cyflogwr ar-lein os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi methu’r dyddiad cau i dalu bil TWE y Cyflogwr
  • mae arnoch £50,000 neu lai
  • rydych yn bwriadu talu’ch dyled cyn pen y 12 mis nesaf
  • mae gennych ddyledion sy’n 5 blynedd oed neu lai
  • nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF
  • rydych wedi anfon unrhyw gyflwyniadau TWE y Cyflogwr a datganiadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) sy’n ddyledus

Gallwch drefnu cynllun talu TAW ar-lein os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi methu’r dyddiad cau i dalu bil TAW
  • mae arnoch £50,000 neu lai
  • rydych yn bwriadu talu’ch dyled cyn pen y 12 mis nesaf
  • mae gennych ddyled am gyfnod cyfrifyddu a ddechreuodd yn 2023 neu’n hwyrach
  • nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEF
  • rydych wedi cyflwyno’ch holl Ffurflenni TAW

Ni allwch drefnu cynllun talu TAW ar-lein os ydych yn defnyddio’r Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod, y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol, neu os ydych yn gwneud taliadau ar gyfrif.

Os na allwch drefnu cynllun talu ar-lein

Bydd angen i chi gysylltu â CThEF.

Bydd CThEF yn gofyn y canlynol i chi:

  • a allwch dalu’n llawn
  • faint y gallwch ei ad-dalu bob mis
  • a oes unrhyw drethi eraill y mae angen i chi eu talu
  • faint o arian rydych yn ei ennill
  • faint yr ydych yn ei wario fel arfer bob mis
  • pa gynilion neu fuddsoddiadau sydd gennych

Os oes gennych gynilion neu asedion, bydd CThEF yn disgwyl i chi ddefnyddio’r rhain i ostwng eich dyled cymaint â phosibl.

Os ydych wedi cael cyngor annibynnol ar ddyledion, er enghraifft gan y ganolfan Cyngor ar Bopeth, efallai y bydd gennych ‘Ddatganiad Ariannol Safonol’. Bydd CThEF yn derbyn hyn fel tystiolaeth o’r hyn rydych yn ei ennill a’i wario bob mis.

Os yw’ch cwmni mewn dyled treth

Bydd CThEF yn gofyn i chi gynnig sut y byddwch yn talu’ch bil treth cyn gynted ag y gallwch. Byddant yn gofyn cwestiynau am eich cynnig er mwyn sicrhau ei fod yn realistig ac yn fforddiadwy.

Mae’n rhaid i chi ostwng eich dyled cymaint â phosibl cyn trefnu cynllun talu. Gallwch wneud hyn drwy ryddhau asedion fel stoc, cerbydau a chyfranddaliadau.

Efallai y bydd CThEF yn gofyn i gyfarwyddwyr y cwmni wneud y canlynol:

  • rhoi arian personol yn y busnes
  • derbyn benthyciadau
  • ymestyn credyd

3. Faint y byddwch yn ei dalu

Bydd y swm y gofynnir i chi ei dalu bob mis yn seiliedig ar faint o arian sydd gennych dros ben ar ôl i chi dalu unrhyw rent, biliau bwyd neu gyfleustodau a chostau sefydlog sydd gennych, fel tanysgrifiadau.

Fel arfer, bydd gofyn i chi dalu tua hanner yr hyn sydd gennych dros ben bob mis tuag at y dreth sydd arnoch.

Gallwch hefyd gytuno i dalu mwy na hyn os hoffech wneud hynny. Mae talu’ch dyled yn gynt yn golygu y byddwch yn talu llai yn y pen draw oherwydd y byddwch yn talu llai o log.

Os ydych yn cael pensiwn, bydd CThEF yn cyfrif hwnnw fel incwm, ond ni fyddant yn cyfrif y swm yn eich cronfa bensiwn fel cynilion.

Am faint mae’ch cynllun talu yn para

Nid oes terfyn amser ar ba mor hir y gall cynllun talu bara. Bydd yn dibynnu ar y swm sydd arnoch a faint y gallwch fforddio ei dalu bob mis.

Dylech gysylltu â CThEF os bydd unrhyw beth yn newid a allai effeithio ar eich cynllun talu. Gallwch ymestyn neu gwtogi’r cynllun talu.

Os bydd CThEF yn cael gwybod bod eich amgylchiadau wedi newid, efallai y byddant yn cysylltu â chi i drafod newid eich ad-daliadau.

Os byddwch yn methu taliad

Bydd CThEF yn cysylltu â chi i gael gwybod pam. Lle bo’n bosibl, byddant yn ceisio aildrefnu neu ailnegodi’r cynllun talu gyda chi.

Os na allwch dalu bil treth arall, cysylltwch â CThEF. Efallai y byddwch yn gallu cynnwys y bil treth newydd yn eich trefniant Amser i Dalu.

4. Os na fyddwch yn cysylltu â CThEF neu os byddwch yn gwrthod talu

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) bob amser yn ceisio cysylltu â chi os byddwch yn methu taliad treth. Gall hyn gynnwys anfon llythyrau a negeseuon testun atoch, ac ymweld â chi gartref neu yn y gwaith.

Os na fyddwch yn cysylltu â CThEF, neu os na allwch gytuno ar gynllun rhandaliadau, efallai y bydd CThEF yn:

  • gofyn i asiantaeth casglu dyledion gasglu’r arian
  • casglu’r hyn sydd arnoch yn uniongyrchol o’ch cyflog (yn Saesneg) neu o unrhyw daliadau pensiwn misol a gewch
  • cymryd eich eiddo a’u gwerthu (os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)
  • mynd ag arian yn uniongyrchol o’ch cyfrif banc neu’ch cynilion cymdeithas adeiladu (os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon)
  • mynd â chi i’r llys
  • eich gwneud yn fethdalwr (yn Saesneg)
  • cau eich cwmni (yn Saesneg) os mai treth busnes yw’r dreth

Ychwanegir unrhyw gostau, fel costau ocsiwn, at eich dyled fel arfer. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi cyn cymryd y camau hyn ac yn esbonio’ch hawliau, y costau a’r opsiynau sydd ar gael i chi.

Gweler rhagor o wybodaeth am y camau gweithredu y gall CThEF eu cymryd i adennill y dreth.

5. Help a chyngor

Os ydych yng Nghymru neu Loegr, gall Helpwr Arian roi rhagor o wybodaeth i chi am reoli dyledion a lle i gael cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn yr Alban, gallwch gael cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim gan Scotland Debt Solutions.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael cyngor ar ddyledion yn rhad ac am ddim gan Advice NI.

Gwneud cwyn

Ni allwch apelio yn erbyn penderfyniad Cyllid a Thollau EF (CThEF), ond gallwch wneud cwyn os ydych yn anfodlon ar sut y cawsoch eich trin.