Yswiriant Gwladol os ydych yn gweithio dramor

Efallai bydd angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU tra’ch bod yn gweithio dramor. Mae’n dibynnu ar ble a pha mor hir yr ydych yn gweithio.

Os nad oes gan y wlad rydych chi’n gweithio ynddi gytundeb nawdd cymdeithasol â’r DU, efallai y bydd angen i chi dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yno.

Os oes gan y wlad rydych chi’n gweithio ynddi gytundeb nawdd cymdeithasol â’r DU, byddwch fel arfer yn talu Yswiriant Gwladol yn y DU. Efallai y bydd angen i chi gael tystysgrif yn dangos eich bod wedi’ch eithrio rhag talu nawdd cymdeithasol yn y wlad rydych ynddi.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gwneud cais am dystysgrif

Gwiriwch a oes angen tystysgrif arnoch a sut i wneud cais.

Dechrau nawr

Rhesymau eraill y gallai fod angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU

Mae angen i chi dalu Yswiriant Gwladol yn y DU am y 52 wythnos gyntaf o weithio dramor os ydych yn bodloni pob un o’r amodau canlynol:

  • rydych yn gweithio dramor dros dro
  • mae gan eich cyflogwr leoliad busnes yn y DU
  • rydych yn breswylydd yn y DU gan amlaf
  • roeddech yn byw yn y DU yn union cyn dechrau gweithio dramor

Bydd eich cyflogwr yn tynnu eich Yswiriant Gwladol o’ch enillion.

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol

Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn y DU tra byddwch yn gweithio dramor.

Dysgwch sut i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol dramor (ffurflen CF83) (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd eich taliadau’n diogelu:

Nid yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn cynnwys eich yswiriant iechyd yn y wlad lle rydych yn byw.