Gwybodaeth i asiantau –
cynigion ar gyfer Cymru:
canolfannau trefol Caerdydd ac Abertawe
Rhaglen newid Cyllid a Thollau EM
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn cynnwys gwybodaeth bellach ynglyn â’n cynlluniau i foderneiddio a thrawsnewid ein gwasanaethau i gwsmeriaid. Rydym yn cynnal cyfres o Adolygiadau Cynllunio Rhanbarthol a fydd yn unioni’r ddarpariaeth ystadau a lefelau staffio CThEM gyda’n cynlluniau i foderneiddio’r adran, gan wneud ein gweithrediadau’n fwy effeithlon wrth wella ein gwasanaeth i’n cwsmeriaid.
Bellach mae’r rhaglen honno dros flwydd oed ac rydym yn raddol wedi ymgynghori â’n staff yn ogystal â siarad ag Aelodau Seneddol yn ogystal â grwpiau allweddol sydd â diddordeb yn y pwnc.
Dyma’r penawdau allweddol:
Caerdydd
Bydd un adeilad allweddol yn gartref i weithrediadau’r adran yn y dyfodol yn ardal Caerdydd a byddwn yn gadael tair swyddfa arall gan ddechrau yn gynnar yn 2009. Bydd Canolfannau Ymholiadau yn parhau yn eu lleoliad presennol neu’n agos iawn iddynt.Yr adeilad i’w gadw yw:
- Adeiladau’r Llywodraeth Ty Glas, Llanisien, Caerdydd CF14 5YA
- Yr adeiladau y byddwn yn eu gadael o ddechrau 2009 ymlaen fydd:
- Ty Portcullis, 21 Cowbridge Road East, Caerdydd CF11 9SS
- Adeilad y Goron, 11 Chepstow Road, Casnewydd, Gwent
- Ty Taff Vale, Taff Street, Pontypridd CF37 4AJ
Abertawe
Bydd un adeilad allweddol yn gartref i weithrediadau dyfodol yr adran yn ardal Abertawe. Byddwn yn gadael dwy swyddfa arall gan symud allan dros gyfnod, gan ddechrau yn gynnar yn 2009. Bydd Canolfannau Ymholiadau yn parhau yn eu lleoliad presennol neu’n agos iawn iddynt.Yr adeilad i’w gadw yw:
- Ty Nant, 180 Y Stryd Fawr, Abertawe, Gorllewin Morgannwg SA1 5AP
- Yr adeiladau y byddwn yn eu gadael o ddechrau 2009 ymlaen fydd:
- Adeiladau’r Goron, Sgwâr Neuadd y Dref, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA15 1YE
- Ty Tollau, Pier Head, Dociau’r Brenin, Abertawe, Gorllewin Morgannwg SA1 8RY
Yn unol â’r hyn a amlinellwyd uchod, byddwn yn cynnal ein gwasanaethau wyneb yn wyneb yn ein Canolfannau Ymholiadau ym mhob un o’r lleoliadau hyn, ac wrth gwrs byddwn yn parhau i gynnal ein rhaglen arferol o archwiliadau.
Gwyddom fod rhai asiantau yn ei hystyried yn ddefnyddiol o hyd i gynnal perthynas
ar lefel leol gyda swyddogion treth, er bod eu portffolio gwaith yn cael ei
drin gan swyddfeydd CThEM ar draws y wlad erbyn hyn ac er gwaetha’r
ffaith bod gwasanaeth canolfannau cyswllt canolog ar gael bellach.
Cydnabyddwn y gallai’r syniad o symud staff i leoliadau gwahanol achosi
pryder yn y lle cyntaf i rai asiantau. Fodd bynnag, rydym yn edrych ar nifer
o ffyrdd i wella ein gwasanaethau i’r grwp hwn o gwsmeriaid sy’n
hynod bwysig i ni, yn arbennig drwy dargedu’n fwy manwl cynnwys ein
gwefan er mwyn diwallu eu hanghenion a thrwy adolygu sut gaiff galwadau eu
trin gan ein canolfannau gwasanaethau. Heblaw hynny, rydym yn gwneud trefniadau
priodol fel gallwn barhau i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid ac asiantau sydd
am ohebu yn Gymraeg.
