TWE Ar-lein i Gyflogwyr
Printable version
1. Defnyddio TWE Ar-lein
Fel cyflogwr, mae angen i chi ddefnyddio gwasanaeth TWE ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i wneud y canlynol:
- gwirio’r hyn sydd arnoch i CThEF
- talu’ch bil
- bwrw golwg dros hanes eich taliadau
- cael mynediad at godau treth a hysbysiadau ynghylch eich cyflogeion
- apelio yn erbyn cosb
- cael rhybuddion gan CThEF pan fyddwch yn anfon adroddiad (yn Saesneg) neu’n talu (yn Saesneg) yn hwyr, neu pan na fyddwch yn anfon y nifer disgwyliedig o adroddiadau yn ystod y mis
- anfon datganiadau treuliau a buddiannau, megis P46 (car), P11D a P11D(b)
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cyn i chi ddechrau arni
Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr yn cael manylion mewngofnodi pan fyddant yn cofrestru fel cyflogwr (yn Saesneg) ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi gan i chi gofrestru mewn dull gwahanol bydd angen i chi ymrestru ar wahân ar gyfer TWE Ar-lein.
Codau treth a hysbysiadau
Mae CThEF yn anfon gwybodaeth ynghylch eich cyflogeion atoch drwy ddefnyddio TWE Ar-lein. Gallwch fewngofnodi i fwrw golwg dros y canlynol:
- hysbysiadau cod treth (P6 a P9)
- hysbysiadau benthyciadau myfyrwyr (SL1 a SL2)
- hysbysiadau gwirio Yswiriant Gwladol (NVR a NOT)
- rhybuddion am anfon gwybodaeth hwyr a thalu’n hwyr (yn Saesneg) (Mae CThEF yn galw’r rhain yn ‘hysbysiadau generig’)
Gallwch gyrchu’r rhain drwy ddefnyddio rhai mathau o feddalwedd cyflogres, neu drwy ddefnyddio’r Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE.
2. Ymrestru os nad ydych wedi cofrestru ar-lein
Bydd ond angen i chi ymrestru ar wahân ar gyfer gwasanaeth TWE Ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) os na chawsoch fanylion mewngofnodi wrth i chi gofrestru fel cyflogwr (yn Saesneg) - fel arfer mae hyn yn digwydd pan na wnaethoch gofrestru ar-lein.
Bydd angen eich cyfeirnod TWE a chyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon arnoch – mae’r rhain i’w gweld ar lythyr CThEF sy’n cadarnhau’ch cofrestriad.
Ymrestru ar gyfer TWE Ar-lein
Mae’r dull o ymrestru’n dibynnu a oes gennych gyfrif ar-lein eisoes ar gyfer trethi eraill, e.e. Treth Gorfforaeth neu Hunanasesiad.
Mae gennych gyfrif eisoes
Mewngofnodwch i’ch cyfrif a dewis ‘TWE i Gyflogwyr’ o’r rhestr.’
Os nad oes gennych gyfrif
Ymrestrwch fel deiliad newydd ar gyfer busnes a dewis ‘Ychwanegu treth i’ch cyfrif’ ar y dudalen ‘Crynodeb Treth Busnes’. Gallwch wedyn fynd ati i ychwanegu TWE i Gyflogwyr.
3. Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE
Mae’r Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE yn rhaglen gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) sy’n eich caniatáu i fwrw golwg dros chwilio am a threfnu nifer fawr o godau treth a hysbysiadau ynghylch eich cyflogeion.
Gallwch ei ddefnyddio hefyd i lawrlwytho hysbysiadau er mwyn edrych arnynt all-lein yn hytrach na’u cael mynediad drwy wasanaeth TWE Ar-lein CThEF, neu’ch meddalwedd cyflogres (yn Saesneg), os yw’n cynnwys y nodwedd hon.