Treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr

Printable version

1. Trosolwg

Os ydych yn gyflogwr ac yn rhoi treuliau neu fuddiannau i gyflogeion neu gyfarwyddwyr, mae’n rhaid i chi fel arfer:

  • rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) amdanynt

  • talu treth ac Yswiriant Gwladol arnynt

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Mae enghreifftiau o dreuliau a buddiannau’n cynnwys:

  • ceir cwmni

  • yswiriant iechyd

  • treuliau teithio a gwesteia

  • gofal plant

Mae rheolau gwahanol ar gyfer yr hyn y mae’n rhaid i chi roi gwybod amdano a’i dalu yn dibynnu ar y math o draul neu fuddiant (yn Saesneg) rydych yn ei roi.

2. Rhoi gwybod a thalu

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am dreuliau neu fuddiannau trethadwy rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion. Gallwch wneud hyn naill ai drwy’ch cyflogres neu ar-lein ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Mae angen i chi hefyd roi gwybod faint o Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch ar yr holl dreuliau a buddiannau rydych wedi’u rhoi a thalu unrhyw Yswiriant Gwladol sydd heb ei dalu.

Beth i roi gwybod amdano

Mae pob traul neu fuddiant yn cael ei gyfrifo’n wahanol. Dewch o hyd i’r math o draul neu fuddiant (yn Saesneg) rydych wedi’i roi, i weld beth fydd angen i chi roi gwybod amdano a’i dalu.

Ar gyfer treuliau neu fuddiannau ‘bach’, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud taliad untro, a elwir yn Gytundeb Setliad TWE.

Os ydych chi’n talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres (‘talu drwy’r gyflogres’)

Rhowch wybod am dreuliau a buddiannau cyflogeion drwy eich meddalwedd cyflogres a thalu treth arnynt trwy gydol y flwyddyn.

Nid oes angen i chi roi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer pob cyflogai ar ddiwedd y flwyddyn dreth os yw eu holl dreuliau a buddiannau wedi’u talu drwy’r gyflogres.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, mae’n rhaid i chi roi gwybod am yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch trwy gyflwyno ffurflen ar-lein o’r enw P11D(b).

I ddechrau cyflogi drwy’r gyflogres, rhowch wybod i CThEF cyn dechrau’r flwyddyn dreth (6 Ebrill).

Os nad ydych yn talu treuliau a buddiannau drwy’r gyflogres

Mae’n rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein o’r enw P11D a’i chyflwyno i CThEF ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Llenwch P11D ar wahân i CThEF ar gyfer pob cyflogai rydych wedi rhoi treuliau neu fuddiannau trethadwy iddynt nad oeddent yn cael eu talu drwy’r gyflogres.

Mae’n rhaid i chi hefyd gyflwyno ffurflen ar-lein i CThEF ar ddiwedd y flwyddyn dreth ar gyfer unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch. Gelwir hyn yn P11D(b).

Sut i gyflwyno ffurflen P11D a P11D(b)

Os oes gennych lai na 500 o gyflogeion, llenwch a chyflwynwch y ffurflenni drwy gwasanaeth TWE ar-lein CThEF.

Os oes gennych fwy na 500 o gyflogeion, llenwch a chyflwynwch y ffurflenni drwy eich meddalwedd cyflogres (yn Saesneg).

Ni dderbynnir ffurflenni papur.

Cywiro gwall

I drwsio gwall neu roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau, llenwch y ddwy ffurflen gywiro ar-lein:

Enghraifft

Gwnaethoch gyflwyno ffurflen P11D yn dangos buddiant meddygol o £300 a buddiant car o £2,100. Mae’r buddiant car yn gywir, ond fe ddylai’r buddiant meddygol fod yn £500. Cyflwynwch Ffurflen cywiro P11D sy’n dangos y buddiant meddygol o £500 a’r buddiant car o £2,100.

Os ydych yn diwygio ffurflen cywiro P11D(b), dylech gynnwys cyfanswm yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y mae angen i chi ei dalu - nid y gwahaniaeth o’ch fersiwn flaenorol.

Enghraifft

Gwnaethoch gyflwyno ffurflen P11D(b) yn dangos bod angen i chi dalu £10,000 o Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, ac rydych yn sylweddoli eich bod wedi anghofio ychwanegu £500. Dylai’ch ffurflen P11D(b) diwygiedig ddangos y swm fel £10,500.

Cosbau

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir yn eich Ffurflen Dreth yn ddiofal neu’n fwriadol sy’n golygu eich bod:

  • yn peidio â thalu digon o dreth
  • yn gor-hawlio rhyddhadau treth

3. Dyddiadau cau

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud Dyddiad cau ar ôl diwedd y flwyddyn dreth
Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau 6 Gorffennaf
Rhoi copi o’r wybodaeth i’ch cyflogeion 6 Gorffennaf
Rhoi gwybod am gyfanswm yr Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch 6 Gorffennaf
Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A 22 Gorffennaf (19 Gorffennaf os ydych yn talu â siec)
Talu treth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B os oes gennych Gytundeb Setliad TWE 22 Hydref (19 Hydref os ydych yn talu â siec)
Talu treth TWE neu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 os ydych yn ’talu drwy’r gyflogres’ Misol drwy’r gyflogres

Codir cosb arnoch o £100 am bob 50 o gyflogeion ar gyfer pob mis neu ran o’r mis mae’ch P11D(b) yn hwyr. Hefyd, caiff cosbau a llog eu codi arnoch os ydych yn hwyr yn talu Cyllid a Thollau EF.

4. Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw cofnod o’r holl dreuliau a buddiannau a roddir gennych i’ch cyflogeion.

Mae angen i’ch cofnodion ddangos eich bod wedi rhoi gwybod yn gywir a bod eich ffurflenni diwedd blwyddyn yn gywir.

Gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) ofyn am dystiolaeth o sut yr oeddech yn cyfrif am bob traul neu fuddiant ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Beth y dylech ei gadw

Bydd angen i chi gadw cofnod o’r canlynol:

  • dyddiad a manylion pob traul neu fuddiant rydych yn ei roi

  • unrhyw wybodaeth sydd ei angen i gyfrifo’r symiau rydych yn eu rhoi ar eich ffurflenni diwedd blwyddyn

  • unrhyw daliad y mae’ch cyflogai’n ei gyfrannu at draul neu fuddiant

Dylech hefyd gadw unrhyw ohebiaeth sydd gennych gyda CThEF.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi.

Enghraifft

Rydych yn ad-dalu treuliau teithio cyflogai - bydd angen i chi gadw cofnod o bryd a pham y teithiodd y cyflogai, a lle bo’n bosibl cadw derbynebau fel tystiolaeth.

5. Eithriadau a goddefebau

Mae yna rhai treuliau arferol cyflogeion nad oes rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) amdanynt. Gelwir hyn yn ‘eithriad’.

Mae eithriadau wedi disodli goddefebau. Ni allwch wneud cais am oddefeb mwyach.

Treuliau sydd wedi’u cwmpasu gan eithriad

Nid oes rhaid i chi roi gwybod am rai treuliau busnes a buddiannau fel:

  • teithio busnes

  • biliau ffôn

  • treuliau busnes ar gyfer gwesteia

  • gwisg ac offer ar gyfer gwaith

I fod yn gymwys i gael eithriad, mae’n rhaid i chi fod naill ai:

  • yn talu cyfradd unffurf i’ch cyflogai fel rhan o’i enillion - mae’n rhaid i hyn fod naill ai’n gyfradd meincnod neu gyfradd arbennig (‘pwrpasol’) sydd wedi’i chymeradwyo gan CThEF

  • yn talu costau gwirioneddol y cyflogai yn ôl

Mae’n rhaid i chi ddidynnu a thalu treth ac Yswiriant Gwladol ar yr holl dreuliau a buddiannau eraill (yn Saesneg) rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion. Rhowch wybod i CThEF amdanynt yn ôl yr arfer.

Gwneud cais am eithriad

Nid oes angen i chi wneud cais am eithriad os ydych yn talu cyfraddau meincnod CThEF ar gyfer treuliau caniataol.

Mae ond angen i chi wneud cais am eithriad os ydych am dalu cyfraddau pwrpasol i’ch cyflogeion.

Bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth i CThEF fod y cyfraddau rydych yn eu hawgrymu yn seiliedig ar dreuliau gwirioneddol eich cyflogeion.

Os oedd gennych oddefeb gan CThEF

Ni fydd eich goddefeb yn berthnasol ar ôl 5 Ebrill 2016, ond dylai’r treuliau sydd wedi’u cwmpasu ganddi hefyd gael eu cwmpasu gan yr eithriad.

Os oedd eich goddefeb yn cynnwys cyfraddau pwrpasol, a chytunwyd arni ar ôl 6 Ebrill 2011, gallwch ofyn am ddefnyddio’r un cyfraddau pan fyddwch yn gwneud cais am eithriad.

Gallwch ond defnyddio’r cyfraddau pwrpasol am hyd at 5 mlynedd o’r dyddiad y cytunwyd arnynt ddiwethaf.

Gwirio treuliau

Mae’n rhaid i chi fod â system ar waith i wirio taliadau rydych yn eu gwneud ar gyfraddau meincnod neu bwrpasol.

Ni all eich cyflogeion wirio eu treuliau eu hunain.

Gofynnwch i’ch cyflogeion gadw tystiolaeth o’u treuliau, er enghraifft derbynebau neu filiau, rhag ofn bod angen i chi eu gwirio.