Treth ar ddifidendau

Printable version

1. Sut mae difidendau yn cael eu trethu

Efallai y cewch daliad difidend os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmni.

Gallwch ennill rhywfaint o incwm difidend bob blwyddyn heb dalu treth.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Nid ydych yn talu treth ar unrhyw incwm difidend sy’n cael ei gwmpasu gan eich Lwfans Personol (faint o incwm y gallwch ei ennill bob blwyddyn heb dalu treth).

Rydych hefyd yn cael lwfans difidend bob blwyddyn. Dim ond ar unrhyw incwm difidend uwchlaw’r lwfans difidend rydych yn talu treth.

Nid ydych yn talu treth ar ddifidendau o gyfranddaliadau mewn ISA.

Lwfans difidend

Blwyddyn dreth Lwfans difidend
6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025 £500
6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 £1,000
6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023 £2,000
6 Ebrill 2021 i 5 Ebrill 2022 £2,000
6 Ebrill 2020 i 5 Ebrill 2021 £2,000
6 Ebrill 2019 i 5 Ebrill 2020 £2,000
6 Ebrill 2018 i 5 Ebrill 2019 £2,000
6 Ebrill 2017 i 5 Ebrill 2018 £5,000
6 Ebrill 2016 i 5 Ebrill 2017 £5,000

Mae’r rheolau yn wahanol ar gyfer difidendau cyn 6 Ebrill 2016.

Cyfrifo’r dreth ar ddifidendau

Mae faint o dreth rydych yn ei thalu ar ddifidendau uwchlaw’r lwfans difidend yn dibynnu ar eich haen Treth Incwm.

Haen dreth Cyfradd dreth ar ddifidendau uwchlaw’r lwfans
Cyfradd sylfaenol 8.75%
Cyfradd uwch 33.75%
Cyfradd ychwanegol 39.35%

I gyfrifo’ch haen dreth, ychwanegwch gyfanswm eich incwm difidend at eich incwm arall. Gallwch dalu treth ar fwy nag un gyfradd.

Enghraifft

Rydych yn cael £3,000 o ddifidendau ac yn ennill cyflog o £29,570 yn ystod blwyddyn dreth 2022 i 2023.

Mae hyn yn rhoi cyfanswm incwm o £32,570.

Mae gennych Lwfans Personol o £12,570. Tynnwch hwn oddi ar gyfanswm eich incwm i adael incwm trethadwy o £20,000.

Mae hyn yn cael ei gwmpasu gan yr haen dreth gyfradd sylfaenol, felly byddech yn talu:

  • treth o 20% ar £17,000 o gyflog
  • dim treth ar £2,000 o ddifidendau, oherwydd y lwfans difidend
  • 8.75% o dreth ar £1,000 o ddifidendau

Talu treth ar hyd at £10,000 o ddifidendau

Rhowch wybod i CThEM drwy wneud y canlynol:

Does dim rhaid i chi roi gwybod i CThEM os yw’ch difidendau yn cael eu cwmpasu gan y lwfans difidend ar gyfer y flwyddyn dreth.

Talu treth ar dros £10,000 o ddifidendau

Bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Os nad ydych fel arfer yn anfon Ffurflen Dreth, mae angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth pan gawsoch yr incwm.

Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Cewch lythyr yn rhoi gwybod am yr hyn i’w wneud nesaf ar ôl i chi gofrestru.

Cofrestrwch nawr

Gwerthu’ch cyfranddaliadau

Efallai y bydd angen i chi dalu treth os ydych yn gwerthu’ch cyfranddaliadau.

2. Treth ar ddifidendau cyn 6 Ebrill 2016

Roedd rheolau gwahanol ar gyfer treth ar ddifidendau cyn 6 Ebrill 2016.

Cyfraddau treth ar ddifidendau

Mae’r dreth a dalwch yn dibynnu ar yr haenau Treth Incwm sy’n berthnasol i’ch difidendau.

Ychwanegwch eich incwm trethadwy arall at eich difidendau i gyfrifo’r band dreth sy’n berthnasol. Gallwch dalu treth ar fwy nag un gyfradd.

Haen dreth Cyfradd dreth sy’n berthnasol i’r difidendau
Cyfradd sylfaenol (a’r rhai nad ydynt yn drethdalwyr) 0%
Cyfradd uwch 25%
Cyfradd ychwanegol 30.56%
Cyfradd ychwanegol – difidendau a dalwyd cyn mis Ebrill 2013 36.11%

Cyfrifo’r hyn sydd arnoch

Dylech fod wedi cael taleb ddifidend. Mae hyn fel arfer yn dangos:

  • swm y difidend
  • ‘credyd treth’, sef un rhan o naw o’r difidend

Cyfrifwch y dreth sydd arnoch drwy luosi swm y difidend â’r gyfradd dreth sy’n berthnasol. Anwybyddwch y credyd treth.

Sut rydych yn talu’r dreth

Os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth, llenwch yr adran ‘Difidendau’ ar eich Ffurflen Dreth. Os nad oes angen i chi anfon un, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM.

Bydd Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch, yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddir gennych a’r cyfraddau treth ar ddifidendau.