Cael help gyda chostau angladd (Taliad Costau Angladd)

Printable version

1. Sut mae’n gweithio

Gallech gael Taliad Costau Angladd (a elwir hefyd yn Daliad Angladd) os ydych yn cael budd-daliadau penodol ac mae angen help arnoch i dalu am angladd rydych yn ei drefnu.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych yn byw yn Yr Alban

Gallwch wneud cais am Funeral Support Payment. Mae hwn wedi ailosod Funeral Expenses Payment yn Yr Alban.

Os ydych yn derbyn arian o ystâd yr ymadawedig

Bydd eich Taliad Costau Angladd yn cael ei ddidynnu o unrhyw arian a gewch o ystad yr ymadawedig.

Mae’r ystâd yn cynnwys unrhyw arian neu eiddo a oedd ganddynt ond nid tŷ neu bethau personol a adawyd i wraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi.

Beth fyddwch yn ei gael

Gall Taliad Costau Angladd helpu i dalu am rai o gostau’r canlynol:

  • ffioedd claddu am lain benodol
  • ffioedd amlosgiad, gan gynnwys cost tystysgrif y meddyg
  • teithio i drefnu neu fynd i’r angladd
  • y gost o symud y corff yn y DU, os yw’n cael ei symud dros 50 milltir
  • tystysgrifau marwolaeth neu ddogfennau eraill

Gallwch hefyd gael hyd at £1,000 am unrhyw gostau angladd eraill, fel ffioedd y trefnydd angladdau, blodau neu’r arch.

Ni fydd y taliad fel rheol yn cwmpasu holl gostau’r angladd.

Mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw arian arall sydd ar gael i dalu am y costau, er enghraifft o bolisi yswiriant neu ystâd yr ymadawedig.

Gwiriwch nodiadau’r ffurflen gais i gael manylion llawn am yr hyn mae Taliad Costau Angladd yn cwmpasu.

Os oedd gan yr ymadawedig gynllun angladd wedi’i dalu ymlaen llaw, dim ond hyd at £120 y gallwch ei gael i helpu i dalu am eitemau nad ydynt yn cael eu cwmpasu gan eu cynllun.

Sut mae’r arian yn cael ei dalu

Telir Taliad Costau Angladd i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd os ydych eisoes wedi talu am yr angladd.

Telir yr arian yn uniongyrchol i drefnydd yr angladd (er enghraifft, y trefnydd angladdau) os nad ydych wedi talu hyd yn hyn.

2. Cymhwyster

I gael Taliad Costau Angladd mae’n rhaid i chi:

  • cael budd-daliadau penodol neu gredydau treth
  • cwrdd â’r rheolau ar eich perthynas â’r ymadawedig
  • bod yn trefnu angladd yn y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir

Efallai y byddwch yn gallu cael help arall i dalu am yr angladd os nad ydych yn gymwys ar gyfer Taliad Costau Angladd.

Budd-daliadau sy’n rhaid i chi eu cael

Rhaid i chi (neu’ch partner) gael un neu fwy o’r canlynol:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • elfen anabledd neu anabledd difrifol Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant

Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn cael benthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais.

Gallwch barhau i hawlio Taliad Costau Angladd os ydych wedi gwneud cais am y budd-daliadau hyn ac rydych yn aros i glywed am eich cais.

Rheolau ar eich perthynas â’r ymadawedig

Efallai y gallwch gael Taliad Costau Angladd os ydych:

  • yn bartner yr ymadawedig
  • yn rhiant babi sydd yn marw-anedig ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd
  • yn rhiant neu’r person sy’n gyfrifol am blentyn ymadawedig o dan 16 oed (neu o dan 20 oed ac mewn addysg neu hyfforddiant cymeradwy)

Os yw perthynas agos i’r ymadawedig (fel brawd neu chwaer neu riant) mewn gwaith neu os nad yw’n cael budd-dal cymwys, efallai na fyddwch yn cael Taliad Costau Angladd.

Os rydych chi’n berthynas agos neu’n ffrind

Efallai y gallwch gael Taliad Costau Angladd os:

  • nad oedd gan yr ymadawedig bartner pan fu farw
  • ni all partner yr ymadawedig neu riant plentyn ymadawedig hawlio (er enghraifft, os yw’n byw dramor neu yn y carchar)

3. Gwneud cais

Rhaid i chi wneud cais o fewn 6 mis o’r angladd, hyd yn oed os ydych yn aros am benderfyniad ar fudd-dal cymwys.

Gallwch wneud cais cyn yr angladd os oes gennych anfoneb neu gontract wedi’i lofnodi gan y trefnydd angladdau. Ni all fod yn amcangyfrif.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, ni fyddwch yn cael penderfyniad ar eich cais tan ar ôl eich taliad nesaf.

Mae ffordd wahanol i wneud cais os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais dros y ffôn trwy ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth.

Llinell gymorth y Gwasanaeth Profedigaeth

Ffôn: 0800 731 0453
Llinell Saesneg: 0800 151 2012
Ffôn testun: 0800 731 0456
Ffôn testun Saesneg: 0800 731 0464
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 151 2012
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Bydd ymgynghorydd hefyd yn eich helpu i wneud cais am unrhyw fudd-daliadau profedigaeth arall y gallech fod â hawl iddynt.

Gallwch hefyd gwneud cais trwy’r post. Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais (SF200), yna anfonwch at y cyfeiriad ar y ffurflen.

Apelio penderfyniad Talu Costau Angladd

Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynhaliaeth Plant os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ynglŷn â Thaliad Costau Angladd.