Cael taliad ymlaen llaw o’ch taliad budd-dal cyntaf

Printable version

1. Trosolwg

Efallai byddwch yn gallu cael taliad ymlaen llaw o’ch taliad budd-dal cyntaf os ydych mewn angen ariannol brys.

Fel arfer, byddwch yn ei ad-dalu trwy’ch budd-daliadau. Nid oes rhaid i chi dalu llog.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch wneud cais os ydych wedi gwneud cais yn ddiweddar am:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
  • Lwfans Gofalwr
  • Credyd Pensiwn
  • Pensiwn y Wladwriaeth

Byddwch yn cael gwybod pryd byddwch yn cael eich talu a faint. Fel arfer byddwch yn cael eich talu ar yr un diwrnod neu’r diwrnod gwaith nesaf. Bydd yn cael ei dalu i’ch cyfrif banc neu gyfrif swyddfa bost.

2. Sut i wneud cais

Mae canllawiau ar wahân os ydych wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac mae arnoch angen taliad ymlaen llaw.

Ffoniwch y rhif cywir ar gyfer y budd-dal rydych yn ei hawlio. Rhaid i chi ddweud wrth yr ymgynghorydd am eich amgylchiadau a faint rydych yn meddwl rydych angen ei benthyg.

ESA neu JSA
Rhif Ffôn: 0800 328 1744
Llinell Saesneg: 0800 169 0310
Ffôn Testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0310
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm

Lwfans Gofalwr
Rhif Ffôn: 0800 731 0297
Ffôn Testun: 0800 731 0317
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0297
Dydd Llun, 8.45am i 2pm
Dydd Mawrth i ddydd Gwener, 10am i 2pm

Credyd Pensiwn neu Bensiwn y Wladwriaeth
Rhif Ffôn: 0800 731 0453 
Llinell Saesneg: 0800 731 0469
Ffôn Testun: 0800 731 0464
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0469
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Darganfyddwch am gostau galwadau.

Os nad ydych yn gallu defnyddio’r ffôn

Gallwch ofyn i ddefnyddio’r ffôn yn eich Canolfan Gwaith leol os na allwch fforddio gwneud galwad ffôn.

Gofynnwch i ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith i’ch asesu a gwneud cais ar eich rhan os nad ydych yn gallu siarad dros y ffôn.

Cael taliad ymlaen llaw arall

Efallai y gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw arall yn syth ar ôl cael un neu gael eich gwrthod. Gallwch ond gwneud hyn os gallwch ddangos bod eich amgylchiadau wedi newid, sy’n golygu eich bod angen mwy o arian nag oeddech yn ei feddwl yn flaenorol.

Ei ad-dalu

Bydd yr ymgynghorydd yn dweud wrthych sut i ad-dalu’r taliad ymlaen llaw. Fel arfer, bydd ychydig yn cael ei gymryd o’ch budd-dal bob wythnos tan iddo gael ei ad-dalu. Nid oes rhaid i chi dalu llog.

Os nad ydych yn fodlon gyda phenderfyniad

Gallwch ofyn am ailystyriaeth o’r penderfyniad os nad ydych yn fodlon. Dywedwch hyn pan fyddwch yn cael eich hysbysu o’r penderfyniad.