Taliad Niwed Trwy Frechiad

Printable version

1. Trosolwg

Os oes gennych anabledd difrifol o ganlyniad i frechiad yn erbyn afiechydon penodol, gallwch gael taliad di-dreth untro o £120,000. Gelwir hwn yn Daliad Niwed Trwy Frechiad.

Gallwch hefyd wneud cais am y taliad hwn ar ran rhywun sydd wedi marw ar ôl cael anabledd difrifol o ganlyniad i frechiadau penodol. Rhaid eich bod yn rheoli eu hystâd i wneud cais.

Gallwch gymryd gweithred gyfreithiol o hyd i wneud cais am iawndal, hyd yn oed os ydych yn cael Taliad Niwed Trwy Frechiad.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (Saesneg).

2. Beth fyddwch yn ei gael

Taliad untro, di-dreth o £120,000 yw Taliad Niwed Trwy Frechiad.

Sut byddwch yn cael eich talu

Byddwch yn cael eich talu’n uniongyrchol os ydych dros 18 oed ac mae’r gallu gennych i reoli materion eich hun. Os ydych o dan 18 oed neu’n methu rheoli materion eich hun, bydd y taliad yn cael ei wneud i’ch ymddiriedolwyr.

Os ydych yn byw gyda theulu, efallai caiff eich rhieni eu penodi fel ymddiriedolwyr.

Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans yn cael eu talu i gyfrif, er enghraifft i’ch cyfrif banc.

3. Cymhwyster

Gallwch gael taliad os oes gennych anabledd difrifol a chafodd eich anabledd ei hachosi gan frechiad yn erbyn un o’r afiechydon canlynol:

  • coronafeirws (COVID-19)
  • diphtheria
  • haemophilus influenzae math b (Hib)
  • human papillomavirus
  • ffliw, heblaw am ffliw a achosir gan feirws ffliw pandemig
  • y frech goch
  • meningococal grŵp B (llid yr ymennydd B)
  • meningococal grŵp C (llid yr ymennydd C)
  • meningococal grŵp W (llid yr ymennydd W)
  • clwy’r pennau
  • ffliw pandemig A (H1N1) 2009 (ffliw moch) – hyd at 31 Awst 2010
  • pertwsis (y pas)
  • haint niwmococol
  • poliomyelitis
  • rotavirus
  • rwbela (brech goch yr Almaen)
  • y frech wen – hyd at 1 Awst 1971
  • tetanws
  • twbercwlosis (TB)

Efallai eich bod wedi cael brechiad cyfun yn erbyn nifer o afiechydon sydd wedi’u rhestri. Er enghraifft, efallai eich bod wedi cael brechiad yn erbyn DTP (diptheria, tetanws a pertwsis) neu MMR (y frech goch, clwy’r pennau a rwbela).

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael taliad os oes gennych anabledd difrifol oherwydd:

  • bod eich mam wedi cael brechiad yn erbyn un o afiechydon sydd wedi’u rhestri tra’r oedd hi’n feichiog

  • rydych wedi bod mewn cyswllt corfforol agos â rhywun sydd wedi cael brechiad drwy’r geg yn erbyn poliomyelitis

Gallwch hefyd wneud cais am y taliad hwn ar ran rhywun sydd wedi marw ar ôl cael anabledd difrifol o ganlyniad i frechiadau penodol. Rhaid eich bod yn rheoli eu hystâd i wneud cais.

Beth sy’n cyfri fel ‘anabledd difrifol’

Mae anabledd yn cael ei chyfrifo fel canran, ac mae ‘anabledd difrifol’ yn meddwl anabledd o leiaf 60%.

Gall hwn fod yn anabledd meddyliol neu gorfforol a bydd yn seiliedig ar dystiolaeth o ddoctoriaid neu ysbytai sydd ynghlwm â’ch triniaeth.

Pryd a ble mae’n rhaid bod y brechiad wedi’i gynnal

Fel arfer mae’n rhaid eich bod wedi cael y brechiad cyn eich pen-blwydd yn 18 oed, oni bai bod y brechiad yn ystod brigiad o afiechyd yn y DU neu Ynys Manaw, neu roedd yn erbyn:

  • coronafeirws (COVID-19)

  • poliomyelitis

  • rwbela

  • meningococal group C

  • human papillomavirus

  • pandemig ffliw A (H1N1) 2009 (ffliw moch)

  • meningococal grŵp W cyn eich penblwydd yn 26

  • ffliw

Mae’n rhaid bod y brechiad wedi cael ei rhoi yn y DU neu Ynys Manaw, oni bai eich bod wedi cael brechiad fel rhan o’ch triniaeth feddygol y lluoedd arfog.

4. Sut i wneud cais

Gwnewch gais trwy lenwi ffurflen gais. Gallwch wneud cais ar ran rhywun os:

  • maent o dan 16 oed a chi yw eu rhiant neu warcheidwad
  • nid ydynt yn gallu rheoli eu materion eu hunain ac rydych chi’n gweithredu fel eu cynrychiolydd
  • maent wedi marw ac rydych chi’n rheoli ei hystâd.

Anfonwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau i:

Vaccine Damage Payment Scheme
Unit 5 Greenfinch Way
Newburn Business Park
Newcastle-upon-Tyne
NE15 8NX

Gallwch hefyd gysylltu â Chynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad i ofyn am ffurflen gais:

Cynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad
nhsbsa.vdps@nhs.net
Ffôn: 0300 330 0013
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 4:30pm Darganfyddwch am gostau galwadau

Terfynau amser ar wneud cais

Gallwch ond wneud cais am blentyn pan maent yn 2 mlwydd oed.

I wneud cais am oedolyn, gwnewch gais erbyn pa un bynnag yw’r hwyraf o’r dyddiadau canlynol:

  • ar neu cyn eu pen-blwydd yn 21 oed (neu os ydynt wedi marw, y dyddiad y byddent wedi troi’n 21 oed)
  • o fewn 6 mlynedd o’r brechiad

Cymorth arall y gallwch ei gael

Efallai y byddwch yn gallu:

5. Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad am eich cais Taliad Niwed Trwy Frechiad. Gelwir hyn yn gofyn am ‘wrthdroad gorfodol’.

Os cafodd y penderfyniad ei wneud ar ôl 27 Hydref 2013

Ysgrifennwch at Gynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad. Mae’n rhaid i chi:

  • esbonio pam rydych yn meddwl bod y penderfyniad yn anghywir
  • cynnwys unrhyw dystiolaeth newydd i gefnogi’ch cais – tystiolaeth nad ydych wedi ei hanfon yn barod

Vaccine Damage Payment Scheme
Unit 5 Greenfinch Way
Newburn Business Park
Newcastle-upon-Tyne
NE15 8NX

Rhaid i chi gynnwys:

  • dyddiad y penderfyniad talu gwreiddiol
  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif Yswiriant Gwladol

Os cafodd y penderfyniad ei wneud ar neu cyn 27 Hydref 2013

Cysylltwch â Chynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad am gyngor ar herio’r penderfyniad.

Cynllun Taliad Niwed Trwy Frechiad
nhsbsa.vdps@nhs.net
Ffôn: 0300 330 0013
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 4:30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd y penderfyniad gwreiddiol yn cael ei adolygu. Bydd Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHSBSA) yn anfon penderfyniad newydd i chi os ydynt yn meddwl y dylid ei newid.

Os nad ydynt yn meddwl y dylid newid y penderfyniad, byddwch yn cael ‘hysbysiad gwrthdroad gorfodol’ a fydd yn esbonio’r rhesymau pam. Bydd hyn yn cynnwys y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i allu apelio.

Os ydych yn anghytuno â’r canlyniad

Gallwch ofyn am wrthdroad gorfodol eto – nid oes cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gallwch wneud y cais hwn, ac nid oes terfyn amser.

Gallwch hefyd apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynhaliaeth Plant. Mae’r tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol o’r llywodraeth.

Nid oes terfyn amser ar wneud cais am apêl.

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen SSCS7 ac anfonwch i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.

Bydd angen i chi ddewis os ydych am fynd i’r gwrandawiad tribiwnlys i esbonio’ch cais. Os nad ydych yn mynychu, bydd eich apêl yn cael ei phenderfynu yn seiliedig ar eich ffurflen apêl ac unrhyw dystiolaeth ategol.

Ar ôl anfon eich cais, gallwch ddarparu tystiolaeth. Bydd eich apêl a’r dystiolaeth yn cael eu trafod mewn gwrandawiad gan farnwr ac un neu ddau arbenigwr, er enghraifft meddyg. Bydd y barnwr wedyn yn gwneud penderfyniad.

Fel arfer bydd yn cymryd tua 6 mis i’ch apêl gael ei chlywed gan y tribiwnlys.