Tâl Salwch Statudol (SSP)

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch gael £116.75 o Dâl Salwch Statudol (SSP) yr wythnos os ydych yn rhy sâl i weithio. Fe’i telir gan eich cyflogwr am hyd at 28 o wythnosau.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Ni allwch gael llai na’r swm statudol. Gallwch gael rhagor os oes gan eich cwmni gynllun tâl salwch (neu ‘gynllun galwedigaethol’) - gwiriwch eich contract cyflogaeth.

Mae rheolau gwahanol o ran tâl salwch ar gyfer gweithwyr amaethyddol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae canllaw ar wahân ar gael ar Dâl Salwch Statudol os ydych yn gyflogwr.

2. Yr hyn y byddwch yn ei gael

Os ydych yn gymwys, gallwch gael £116.75 o Dâl Salwch Statudol (SSP) yr wythnos am hyd at 28 wythnos.

Cewch SSP wedi’i dalu i chi ar gyfer yr holl ddiwrnodau yr ydych i ffwrdd o’r gwaith yn sâl a byddech wedi’u gweithio fel arfer, oni bai am y 3 diwrnod cyntaf.

Dim ond os cawsoch SSP yn ystod yr 8 wythnos diwethaf y cewch SSP wedi’i dalu i chi ar gyfer y 3 diwrnod gwaith cyntaf y byddwch i ffwrdd o’r gwaith yn sâl. Mae’n rhaid i hwn gynnwys cyfnod aros o 3 diwrnod cyn y cafodd SSP ei dalu i chi.

Sut cewch eich talu

Telir SSP gan eich cyflogwr yn yr un ffordd ag y telir eich cyflog arferol, er enghraifft fesul wythnos neu fis.

Os oes gennych fwy nag un swydd, efallai y cewch SSP gan bob cyflogwr.

Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu.

Os ydych o’r farn nad ydych yn cael y swm cywir o SSP, dylech gael gair gyda’ch cyflogwr. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

3. Cymhwystra

Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol (SSP) mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:

  • mae’n rhaid i chi gael eich ystyried yn gyflogai (yn agor tudalen Saesneg) ac mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud rhywfaint o waith i’ch cyflogwr
  • mae’n rhaid i chi ennill, ar gyfartaledd, o leiaf £123 yr wythnos
  • mae’n rhaid i chi fod wedi bod yn sâl am fwy na 3 diwrnod yn olynol (gan gynnwys diwrnodau nad ydych yn gweithio)

Mae gan weithwyr asiantaeth hawl i Dâl Salwch Statudol.

Rhoi gwybod i’ch cyflogwr

Mae’n rhaid i chi fel arfer roi gwybod i’ch cyflogwr na allwch weithio cyn y dyddiad cau a osodir ganddo (neu cyn pen 7 diwrnod os na osodir un).

Gallech golli peth o’ch SSP os na rowch wybod i’ch cyflogwr mewn pryd.

Eithriadau

Ni fyddwch yn gymwys os ydych:

  • wedi cael uchafswm yr SSP (28 wythnos)
  • yn cael Tâl Mamolaeth Statudol

Gallwch fod yn gymwys o hyd os gwnaethoch ddechrau’ch swydd yn ddiweddar ac nid ydych wedi cael cyflog am 8 wythnos o waith hyd yma. I gael rhagor o wybodaeth, gofynnwch i’ch cyflogwr.

Cyfnodau cysylltiedig o salwch

Os oes gennych gyfnodau rheolaidd o salwch, gallent gael eu hystyried i fod ‘yn gysylltiedig’. I fod yn gysylltiedig, mae’n rhaid i’r cyfnodau:

  • fod am gyfnod hirach na 3 diwrnod yn olynol
  • bod 8 wythnos neu lai oddi wrth ei gilydd

Nid ydych yn gymwys mwyach i gael SSP os oes gennych gyfres barhaus o gyfnodau cysylltiedig sy’n para mwy na 3 blynedd.

Nodynnau ffitrwydd a gofyn am dystiolaeth

Mae’n rhaid i chi roi nodyn ffitrwydd i’ch cyflogwr os ydych i ffwrdd o’r gwaith am fwy na 7 diwrnod yn olynol (gan gynnwys diwrnodau nad ydych yn gweithio).

Gallwch gael nodyn ffitrwydd (a elwir weithiau’n nodyn salwch) gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:

  • Meddyg Teulu neu ddoctor yn yr ysbyty

  • nyrs gofrestredig

  • therapydd galwedigaethol

  • fferyllydd

  • ffisiotherapydd

Gall y nodyn fod yn gopi wedi’i argraffu neu’n gopi digidol.

Tystiolaeth arall o salwch

Os yw’ch cyflogwr yn cytuno, gallwch gael dogfen debyg gan ffisiotherapydd, podiatrydd neu therapydd galwedigaethol yn lle nodyn ffitrwydd. Adroddiad Iechyd a Gwaith ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (Allied Health Professional - AHP) yw’r enw a roddir ar hyn.

Bydd ffisiotherapydd neu therapydd galwedigaethol yn rhoi nodyn ffitrwydd neu Adroddiad Iechyd a Gwaith gan Weithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) yn dibynnu ar eich anghenion.

Os nad ydych yn gymwys neu os yw’ch SSP yn dod i ben

Efallai y gallwch hawlio Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Gallwch ddefnyddio ffurflen SSP1 i ategu’ch cais.

Os yw’ch SSP yn dod i ben, mae’n rhaid i’ch cyflogwr anfon ffurflen SSP1 atoch naill ai:

  • cyn pen 7 diwrnod i ddyddiad dod i ben eich SSP, os yw’n dod i ben yn annisgwyl tra’r ydych yn sâl
  • ar neu cyn dechrau y 23ain wythnos, os disgwylir bod eich SSP yn dod i ben cyn i’ch salwch ddod i ben

Os nad ydych yn gymwys i gael SSP, mae’n rhaid i’ch cyflogwr anfon ffurflen SSP1 atoch cyn pen 7 diwrnod i’r diwrnod cyntaf i chi fynd yn sâl.

4. Sut i hawlio

I hawlio Tâl Salwch Statudol (SSP), rhowch wybod i’ch cyflogwr erbyn y dyddiad cau.

Gwiriwch gyda’ch cyflogwr sut y dylech roi gwybod iddo. Os bydd eich cyflogwr am i rywbeth fod yn ysgrifenedig, gallwch ddefnyddio ffurflen SC2.

Os ydych yn anfodlon ar benderfyniad

Siaradwch â’ch cyflogwr os ydych o’r farn:

  • bod ei benderfyniad i beidio â thalu SSP i chi yn anghywir
  • nad ydych yn cael y swm cywir o SSP

Gallwch ofyn iddo am reswm.

Os nad yw hyn yn datrys y broblem, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.