Tâl Salwch Statudol (SSP): arweiniad i gyflogwyr

Printable version

1. Trosolwg

Mae’n bosibl y bydd eich cyflogeion yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol (SSP), sef £116.75 yr wythnos am hyd at 28 wythnos.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch gynnig mwy na hyn os oes gan eich cwmni gynllun tâl salwch ond ni allwch gynnig llai na hyn. Mae cynlluniau cwmni hefyd yn cael eu galw yn dâl salwch ‘galwedigaethol’ neu ‘gontractiol’, ac mae’n rhaid eu cynnwys fel rhan o gontract cyflogaeth.

Mae canllaw ar wahân ynghylch Tâl Salwch Statudol os ydych yn gyflogai.

Gwyliau (neu ‘gwyliau blynyddol’)

Mae gwyliau blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) statudol yn cael eu cronni tra bo’r cyflogai i ffwrdd o’r gwaith yn sâl (waeth pa mor hir y mae i ffwrdd), ac mae modd eu cymryd yn ystod absenoldeb salwch.

2. Hawl

Y gyfradd wythnosol ar gyfer Tâl Salwch Statudol (SSP) yw £116.75 am hyd at 28 wythnos. Mae’n cael ei dalu:

  • ar gyfer y diwrnodau y mae cyflogai’n eu gweithio fel arfer – gelwir y rhain yn ‘ddiwrnodau cymhwysol’
  • yn yr un ffordd â chyflog, er enghraifft, ar y diwrnod cyflog arferol, gan ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol

Defnyddiwch y gyfrifiannell SSP (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cyfrifo’r swm gwirioneddol, er enghraifft ar gyfer y gyfradd ddyddiol.

Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl (yn agor tudalen Saesneg). Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu SSP o hyd, hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu (yn agor tudalen Saesneg).

Ni allwch orfodi’ch cyflogeion i gymryd gwyliau blynyddol pan fyddant yn gymwys i gael absenoldeb salwch.

Pryd i ddechrau talu SSP

Mae SSP yn cael ei dalu pan fo’r cyflogai’n sâl am fwy na 3 diwrnod yn olynol (gan gynnwys diwrnodau nad yw’n gweithio).

Ni allwch gyfrif diwrnod fel diwrnod o salwch os yw cyflogai wedi gweithio am funud neu fwy cyn iddo fynd adref yn sâl.

Os yw cyflogai’n gweithio sifft sy’n dod i ben y diwrnod ar ôl iddi ddechrau ac mae’n cael ei daro’n sâl yn ystod y sifft neu ar ôl iddi ddod i ben, bydd yr ail ddiwrnod yn cyfrif fel diwrnod o salwch.

Nid ydych yn talu SSP i gyflogai am y 3 diwrnod gwaith cyntaf y mae i ffwrdd yn sâl, oni bai bod y ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi talu SSP iddo yn ystod yr 8 wythnos ddiwethaf
  • ni wnaethoch dalu SSP iddo am y 3 diwrnod gwaith cyntaf ar yr adeg honno

Pryd i roi’r gorau i dalu SSP

Mae SSP yn dod i ben pan fydd y cyflogai’n dod yn ôl i’r gwaith, neu pan na fydd yn gymwys ar ei gyfer mwyach.

Cadw cofnodion

Nid oes rhaid cadw cofnod digidol o’r SSP a dalwyd i gyflogeion.

Gallwch ddewis sut rydych yn cadw cofnodion o absenoldeb salwch eich cyflogeion. Mae’n bosibl y bydd angen i CThEF weld y cofnodion hyn os oes dadlau ynghylch talu SSP.

3. Cymhwystra a ffurflen SSP1

Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Salwch Statudol (SSP) mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am eich cyflogai:

Mae cyflogeion, sydd wedi cael llai nag 8 wythnos o enillion, yn dal i fod yn gymwys ar gyfer SSP. Defnyddiwch y gyfrifiannell tâl salwch (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cyfrifo faint i’w dalu iddo.

Nid yw cymryd gwyliau blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) yn ystod yr amser hwnnw’n amharu ar gyfnod o analluogrwydd y cyflogai i weithio.

Gall cyflogeion fod yn gymwys i gael tâl salwch yn sgil mwy nag un swydd.

Gallai hefyd fod yn gymwys yn sgil un swydd ond bod yn iach i weithio mewn swydd arall, er enghraifft os yw un swydd yn waith corfforol na all ei wneud tra ei fod yn sâl ond bod y llall mewn swyddfa.

Eithriadau

Nid yw cyflogeion yn gymwys ar gyfer SSP os yw’r canlynol yn wir:

  • mae wedi cael uchafswm yr SSP (28 wythnos)
  • mae’n cael Tâl Mamolaeth Statudol neu Lwfans Mamolaeth – mae rheolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer menywod beichiog a mamau newydd nad ydynt yn cael y taliadau hyn
  • mae i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd yn ystod y 4 wythnos cyn yr wythnos (o ddydd Sul i ddydd Sadwrn) y mae disgwyl iddi gael ei babi
  • roedd yn y ddalfa neu ar streic (yn agor tudalen Saesneg) ar ddiwrnod cyntaf y salwch (gan gynnwys unrhyw gyfnodau cysylltiedig)
  • mae’n gweithio y tu allan i’r UE, ac nid chi sy’n gyfrifol am dalu ei gyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • cafodd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyn pen 12 wythnos ar ôl dechrau neu ddychwelyd i’r gwaith

Defnyddiwch y gyfrifiannell SSP (yn agor tudalen Saesneg) i wirio cymhwystra.

Cyfnodau cysylltiedig o salwch

Os yw’ch cyflogai i ffwrdd o’r gwaith yn rheolaidd oherwydd cyfnodau o salwch, gallai’r cyfnodau gael eu hystyried i fod ‘yn gysylltiedig’. I fod yn gysylltiedig, mae’n rhaid i’r cyfnodau:

  • fod am gyfnod hirach na 3 diwrnod yr un
  • fod 8 wythnos neu lai oddi wrth ei gilydd

Nid yw’ch cyflogai’n gymwys mwyach i gael SSP os oes ganddo gyfres barhaus o gyfnodau cysylltiedig sy’n para mwy na 3 blynedd.

Os nad yw cyflogai’n gymwys neu os yw ei SSP yn dod i ben

Efallai y gall cyflogeion wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). Mae’n defnyddio ffurflen SSP1 i ategu’r cais.

Os yw SSP eich cyflogai’n dod i ben, mae’n rhaid i chi anfon ffurflen SSP1 ato, naill ai:

  • cyn pen 7 diwrnod i’r dyddiad y daw ei SSP i ben, os yw’n dod i ben yn annisgwyl tra ei fod yn sâl
  • ar neu cyn dechrau’r 23ain wythnos, os disgwylir y bydd ei SSP yn dod i ben cyn i’w salwch ddod i ben

Os nad yw’ch cyflogai’n gymwys i gael SSP, mae’n rhaid i chi anfon ffurflen SSP1 ato cyn pen 7 diwrnod i’r diwrnod cyntaf iddo fynd yn sâl.

Os yw’ch cyflogai o’r farn bod hyn yn annheg, gall apelio i CThEF – mae’r ffurflen yn nodi sut i wneud hynny.

Salwch hirdymor

Gallwch lenwi ffurflen SSP1 cyn diwedd yr SSP os ydych yn gwybod y bydd cyflogai i ffwrdd o’r gwaith yn sâl am fwy na 28 wythnos. Mae hyn yn golygu y gall wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyn i’w SSP ddod i ben.

4. Rhoi rhybudd a nodynnau ffitrwydd

Dylai’r cyflogai roi gwybod i chi ei fod yn sâl cyn y terfyn amser a bennwyd gennych, neu 7 diwrnod os nad oes gennych un. Ni allwch fynnu ei fod yn rhoi gwybod i chi yn bersonol neu ar ffurflen arbennig.

Does dim rhaid i chi dalu Tâl Salwch Statudol (SSP) ar gyfer unrhyw ddiwrnod yr oedd y cyflogai’n hwyr yn rhoi gwybod i chi (oni bai bod rheswm da dros yr oedi).

Enghraifft

Mae cyflogai’n sâl o ddydd Llun, 3 Mehefin. Fel arfer, mae’n gweithio o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydych wedi gosod eich terfyn amser i fod yn 5 diwrnod o rybudd, ond dim ond ar ôl 7 diwrnod y mae’n rhoi gwybod i chi ei fod yn sâl (ar ddydd Llun, 10 Mehefin).

Does dim rhaid i chi dalu SSP iddo ar gyfer y 2 ddiwrnod yr oedd yn hwyr yn rhoi gwybod i chi.

Rydych yn dechrau talu SSP ar ddydd Iau, 13 Mehefin – ar y pedwerydd ‘diwrnod cymhwysol’ (diwrnodau y mae cyflogai fel arfer yn eu gweithio) ar ôl iddo roi gwybod i chi ei fod yn sâl.

Nodynnau ffitrwydd a gofyn am dystiolaeth

Gallwch ond gofyn am nodyn ffitrwydd os yw’ch cyflogai i ffwrdd o’r gwaith am fwy na 7 diwrnod yn olynol (gan gynnwys diwrnodau nad yw’n gweithio).

Ni allwch atal talu SSP os yw’r cyflogai’n hwyr yn anfon nodyn ffitrwydd atoch.

Os yw’ch cyflogai i ffwrdd o’r gwaith yn sâl yn aml, neu am amser hir, mae gan CThEF wybodaeth am gael cyngor meddygol (yn agor tudalen Saesneg).

Nodynnau ffitrwydd

Mae’n rhaid i nodyn ffitrwydd (a elwir weithiau’n nodyn salwch) gael ei gyhoeddi gan un o’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:

  • Meddyg Teulu neu ddoctor yn yr ysbyty

  • nyrs gofrestredig

  • therapydd galwedigaethol

  • fferyllydd

  • ffisiotherapydd

Gall y nodyn fod yn gopi wedi’i argraffu neu’n gopi digidol.

Tystiolaeth arall o salwch

Os ydych yn cytuno, gall y cyflogai roi dogfen debyg i chi oddi wrth ffisiotherapydd, podiatrydd neu therapydd galwedigaethol yn lle nodyn ffitrwydd. Adroddiad Iechyd a Gwaith ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (Allied Health Professional - AHP) yw’r enw a roddir ar hyn.

5. Help gyda thâl salwch

Os ydych yn ansolfent

Bydd CThEF yn talu SSP ar gyfer unrhyw gyflogai sy’n parhau i weithio i chi os oedd yn sâl pan y’ch gwnaethpwyd yn ansolfent. Gofynnwch i’ch cyflogai gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Ffôn: 0300 200 1900
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau.

Os bydd ei salwch yn parhau a’ch bod yn terfynu ei gontract, rhowch ffurflen SSP1 wedi’i llenwi iddo fel y gall hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle hynny.