Tâl ac absenoldeb tadolaeth

Printable version

1. Trosolwg

Pan fyddwch yn cymryd amser i ffwrdd am fod eich partner yn cael baban, am eich bod yn mabwysiadu plentyn neu am eich bod yn cael baban drwy drefniant mam fenthyg, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael y canlynol:

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Efallai na chewch absenoldeb a thâl gyda’i gilydd, ac mae rheolau o ran sut i hawlio a phryd y cewch ddechrau’ch absenoldeb.

Hawliau cyflogaeth tra ydych ar absenoldeb

Mae’ch hawliau cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) wedi’u diogelu tra yr ydych ar absenoldeb tadolaeth. Mae hyn yn cynnwys eich hawl i’r canlynol:

  • cael codiadau cyflog
  • cronni gwyliau
  • dychwelyd i’r gwaith

Cewch amser i ffwrdd i fynd gyda’ch partner (neu’r fam fenthyg) i ddau apwyntiad cynenedigol.

Os ydych yn mabwysiadu plentyn, cewch amser i ffwrdd i fynychu dau apwyntiad mabwysiadu ar ôl i chi gael eich paru gyda phlentyn.

2. Absenoldeb

Absenoldeb Tadolaeth

Mae faint o absenoldeb y gallwch ei gymryd yn dibynnu ar ddyddiad disgwyl eich baban.

Os yw dyddiad disgwyl y baban ar neu cyn 6 Ebrill 2024, neu cyn 6 Ebrill 2024 ar gyfer mabwysiadu

Gallwch ddewis cymryd naill ai 1 wythnos neu 2 wythnos o absenoldeb. Mae’n rhaid i chi gymryd eich cyfnod o absenoldeb ar un tro. Cewch yr un faint o absenoldeb hyd yn oed os ydych yn cael mwy nag un plentyn (er enghraifft, gefeilliaid).

Mae wythnos o absenoldeb yn hafal i nifer y diwrnodau yr ydych fel arfer yn gweithio mewn wythnos. Er enghraifft, os ydych dim ond yn gweithio ar ddydd Llun a dydd Mawrth, bydd wythnos o absenoldeb yn hafal i 2 ddiwrnod.

Ni all eich absenoldeb ddechrau cyn y dyddiad geni. Mae’n rhaid i’r absenoldeb ddod i ben cyn pen 56 diwrnod i’r enedigaeth (neu’r dyddiad disgwyl, os daw’r baban yn gynnar). Mae rheolau gwahanol ar waith os ydych yn mabwysiadu.

Mae’n rhaid i chi roi rhybudd o 28 diwrnod i’ch cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dechrau.

Nid oes rhaid i chi roi union ddyddiad pan fyddwch am gymryd yr absenoldeb. Yn lle hynny, gallwch roi amser cyffredinol, megis diwrnod yr enedigaeth neu wythnos ar ôl yr enedigaeth.

Os yw dyddiad disgwyl y baban ar ôl 6 Ebrill 2024, neu ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024 ar gyfer mabwysiadu

Gallwch ddewis cymryd naill ai 1 wythnos neu 2 wythnos o absenoldeb. Os ydych yn dewis cymryd 2 wythnos, gallwch gymryd yr amser hwn fel pythefnos neu fel 2 wythnos ar wahân. Cewch yr un faint o absenoldeb hyd yn oed os ydych yn cael mwy nag un plentyn (er enghraifft, gefeilliaid).

Mae wythnos o absenoldeb yn hafal i nifer y diwrnodau yr ydych fel arfer yn gweithio mewn wythnos. Er enghraifft, os ydych dim ond yn gweithio ar ddydd Llun a dydd Mawrth, bydd wythnos o absenoldeb yn hafal i 2 ddiwrnod.

Ni all eich absenoldeb ddechrau cyn y dyddiad geni. Mae’n rhaid i’r absenoldeb ddod i ben cyn pen 52 wythnos i’r enedigaeth (neu’r dyddiad disgwyl, os daw’r baban yn gynnar). Mae rheolau gwahanol ar waith os ydych yn mabwysiadu.

Mae’n rhaid i chi roi rhybudd o 28 diwrnod i’ch cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dechrau.

Nid oes rhaid i chi roi union ddyddiad pan fyddwch am gymryd yr absenoldeb. Yn lle hynny, gallwch roi amser cyffredinol, megis diwrnod yr enedigaeth neu wythnos ar ôl yr enedigaeth.

Absenoldeb ar y Cyd i Rieni

Gallech hefyd fod yn gymwys i gael Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL). Ni allwch gymryd Absenoldeb Tadolaeth ar ôl i chi gymryd SPL.

Absenoldeb ar gyfer apwyntiadau cynenedigol

Gallwch gymryd absenoldeb di-dâl i fynd gyda menyw feichiog i ddau apwyntiad cynenedigol os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn dad i’r baban

  • rydych yn briod neu’n bartner sifil i’r fam sy’n disgwyl

  • rydych mewn perthynas hirdymor â’r fam sy’n disgwyl

  • chi yw’r rhiant bwriadedig (os ydych yn cael baban drwy drefniant mam fenthyg)

Gallwch gymryd hyd at 6 awr a hanner ar gyfer pob apwyntiad. Gall eich cyflogwr ddewis rhoi mwy o amser i chi.

Gallwch wneud cais am absenoldeb ar unwaith os ydych yn gyflogai parhaol. Os ydych yn weithiwr asiantaeth, bydd angen i chi fod wedi bod yn gwneud swydd am 12 wythnos cyn i chi fod yn gymwys.

3. Cyflog

Y gyfradd wythnosol statudol ar gyfer Tâl Tadolaeth yw £184.03, neu 90% o’ch enillion wythnosol ar gyfartaledd (pa un bynnag sydd isaf).

Mae unrhyw arian a gewch yn cael ei dalu yn yr un ffordd â’ch cyflog, er enghraifft yn fisol neu’n wythnosol. Bydd treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu.

Dyddiadau dechrau a dyddiadau dod i ben

Mae’r arian fel arfer yn cael ei dalu tra ydych ar absenoldeb. Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gadarnhau’r dyddiadau dechrau a’r dyddiadau dod i ben ar gyfer eich Tâl Tadolaeth pan fyddwch yn ei hawlio.

I newid y dyddiad dechrau, mae’n rhaid i chi roi 28 diwrnod o rybudd i’ch cyflogwr cyn i’r cyfnod o absenoldeb â thâl ddechrau.

Gallech gael mwy o dâl os oes gan eich cyflogwr gynllun tadolaeth cwmni – ni all gynnig llai na’r symiau statudol i chi.

4. Cymhwystra

Mae’n rhaid i chi fod yn cymryd amser i ffwrdd i ofalu am y plentyn a bod yn un o’r canlynol: 

  • y tad
  • gŵr neu bartner i’r fam (neu’r mabwysiadwr) – mae hyn yn cynnwys partneriaid o’r un rhyw
  • mabwysiadwr y plentyn
  • y rhiant bwriadedig (os ydych yn cael baban drwy drefniant mam fenthyg)

Mae amodau ychwanegol y mae’n rhaid i chi eu bodloni i fod yn gymwys i gael tâl ac absenoldeb. 

Ni allwch gael Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth os ydych wedi cymryd amser i ffwrdd â thâl i fynychu apwyntiadau mabwysiadu.

Absenoldeb Tadolaeth

Mae’n rhaid eich bod:

Yr ‘wythnos gymhwysol’ yw’r 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r baban gael ei eni. Mae hyn yn wahanol os ydych yn mabwysiadu.

Tâl Tadolaeth 

Mae’n rhaid eich bod:

Yr ‘wythnos gymhwysol’ yw’r 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r baban gael ei eni. Mae hyn yn wahanol os ydych yn mabwysiadu.

Os byddwch yn colli’ch baban

Gallwch gael Tâl neu Absenoldeb Tadolaeth o hyd os yw’ch baban:

  • yn farw-anedig o 24ain wythnos y beichiogrwydd ymlaen
  • yn cael ei eni’n fyw ar unrhyw adeg yn ystod y beichiogrwydd

Os nad ydych yn gymwys

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi gwybod i chi cyn pen 28 diwrnod os nad ydych yn gymwys a’r rheswm pam, gan ddefnyddio ffurflen SPP1.

5. Sut i hawlio

Gallwch hawlio Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth drwy’ch cyflogwr. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 15 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr.

Gallwch wneud hyn drwy lenwi’r ffurflen ar-lein (a elwir yn ‘ffurflen SC3’ yn flaenorol). Unwaith i chi lenwi’r ffurflen, bydd angen i chi ei lawrlwytho, neu ei hargraffu, a’i hanfon i’ch cyflogwr.

Gwirio a oes gan eich cyflogwr ei ffurflen ei hun. Os oes gan eich cyflogwr ei ffurflen ei hun, defnyddiwch y ffurflen honno yn lle.

Mae’r rheolau a’r ffurflenni’n wahanol os ydych yn mabwysiadu.

Bydd angen i chi gynnwys:

  • y dyddiad disgwyl
  • pryd rydych am i’ch absenoldeb ddechrau, er enghraifft, diwrnod yr enedigaeth neu’r wythnos ar ôl yr enedigaeth
  • os ydych am gael 1 wythnos neu 2 wythnos o absenoldeb

Nid oes angen i chi roi tystiolaeth o’r beichiogrwydd na’r enedigaeth.

Defnyddiwch y cynlluniwr tadolaeth (yn agor tudalen Saesneg) i ddysgu erbyn pryd y mae angen i chi hawlio Absenoldeb Tadolaeth. 

6. Mabwysiadu a threfniadau mam fenthyg

Cymhwystra

Mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos erbyn yr ‘wythnos baru’. Ar gyfer mabwysiadu mae hyn yn golygu naill ai:

  • diwedd yr wythnos y cewch eich paru â’r plentyn (mabwysiadau’r DU)
  • y dyddiad y mae’r plentyn yn dod i mewn i’r DU, neu pryd rydych am i’ch tâl ddechrau (mabwysiadau tramor)

Mae’n rhaid i chi hefyd fodloni’r amodau cymhwystra eraill ar gyfer Tâl neu Absenoldeb Tadolaeth.

Dyddiadau dechrau a dyddiadau dod i ben – Absenoldeb Tadolaeth

Gall eich cyfnod o Absenoldeb Tadolaeth ddechrau:

  • ar y dyddiad lleoli
  • ar y dyddiad y mae’r plentyn yn dod i mewn i’r DU, os ydych yn mabwysiadu o dramor
  • y dyddiad y mae’r baban yn cael ei eni (neu’r diwrnod wedyn os ydych yn gweithio’r diwrnod hwnnw) os ydych yn rhiant benthyg
  • ar ddyddiad o’ch dewis chi ar ôl y dyddiad geni neu’r dyddiad lleoli

Mae’n rhaid i chi roi rhybudd o 28 diwrnod i’ch cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dechrau.

Ar gyfer mabwysiadau’r DU a mabwysiadau tramor

Os oes disgwyl i’r plentyn gael ei leoli, neu os oes disgwyl iddo gyrraedd yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban:

  • cyn 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 56 diwrnod i’r dyddiad lleoli neu’r dyddiad cyrraedd
  • ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 52 wythnos i’r dyddiad lleoli neu’r dyddiad cyrraedd

Mae rheolau gwahanol ar waith ar gyfer mabwysiadu os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).

Ar gyfer rhieni benthyg

Os oes disgwyl i’r baban gael ei eni:

  • ar neu cyn 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 56 diwrnod i’r dyddiad geni
  • ar ôl 6 Ebrill 2024, mae’n rhaid i’ch absenoldeb ddod i ben cyn pen 52 wythnos i’r dyddiad geni

Sut i hawlio – Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth

Gallwch ddefnyddio ffurflen SC4 (neu fersiwn eich cyflogwr) ar gyfer:

  • absenoldeb – cyn pen 7 diwrnod i’r dyddiad y mae’ch cyd-fabwysiadwr neu’ch partner yn cael ei baru â phlentyn
  • tâl – 28 diwrnod, neu cyn gynted ag y gallwch, cyn i chi eisiau i’ch tâl ddechrau

Mae’r ffurflen a’r cyfnod rhybudd yn wahanol ar gyfer mabwysiadau tramor. Mae’r broses yn cael ei hesbonio ar ffurflen SC5.

Tystiolaeth o fabwysiadu

Mae’n rhaid i chi roi tystiolaeth o fabwysiadu i’ch cyflogwr er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Tâl Tadolaeth. Does dim angen tystiolaeth ar gyfer Absenoldeb Tadolaeth oni bai bod eich cyflogwr yn gofyn am hyn.

Gall tystiolaeth fod yn llythyr gan eich asiantaeth fabwysiadu neu’n dystysgrif baru.

Bydd angen i chi roi’r wybodaeth hon cyn pen 28 diwrnod.

Trefniadau mam fenthyg

I fod yn gymwys i gael Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth os defnyddiwch fam fenthyg i gael baban, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:

Gallwch hawlio Tâl ac Absenoldeb Tadolaeth drwy’ch cyflogwr. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 15 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr er mwyn hawlio Tâl Tadolaeth. Mae’n rhaid i chi roi 28 diwrnod o rybudd er mwyn hawlio Absenoldeb Tadolaeth.

Mae’n bosibl y bydd eich cyflogwr yn gofyn am ddatganiad ysgrifenedig sy’n cadarnhau eich bod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn rhiant (yn agor tudalen Saesneg) yn y 6 mis ar ôl genedigaeth y baban. Mae’n rhaid i chi lofnodi hyn ym mhresenoldeb gweithiwr cyfreithiol proffesiynol.

Mae rheolau gwahanol ar gyfer trefniadau mam fenthyg os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).