Tâl ac absenoldeb mamolaeth

Printable version

1. Trosolwg

Pan fyddwch yn cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i gael babi, mae’n bosibl y byddwch yn gymwys ar gyfer y canlynol:

Gallwch wirio pa dâl ac absenoldeb mamolaeth yr ydych yn gymwys i’w gael.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae rheolau ar pryd i hawlio a sut i hawlio’ch absenoldeb â thâl ac os ydych am newid eich dyddiadau.

Gallwch gyfrifo’ch tâl ac absenoldeb mamolaeth ar-lein.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i gael Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni.

Hawliau cyflogaeth tra ydych ar absenoldeb

Mae’ch hawliau cyflogaeth yn cael eu diogelu tra byddwch ar Absenoldeb Mamolaeth Statudol. Mae hyn yn cynnwys eich hawl i’r canlynol:

  • cael codiadau cyflog
  • cronni gwyliau
  • dychwelyd i’r gwaith

2. Absenoldeb

Mae Absenoldeb Mamolaeth Statudol yn 52 wythnos. Mae’n cynnwys:

  • Absenoldeb Mamolaeth Arferol – 26 wythnos gyntaf
  • Absenoldeb Mamolaeth Ychwanegol – 26 wythnos diwethaf

Nid oes rhaid i chi gymryd 52 wythnos ond mae’n rhaid i chi gymryd pythefnos o absenoldeb ar ôl i’ch babi gael ei eni (neu 4 wythnos os ydych yn gweithio mewn ffatri).

Defnyddiwch y cynlluniwr mamolaeth i gyfrifo’r dyddiadau ar gyfer eich absenoldeb arferol a’ch absenoldeb ychwanegol.

Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gymryd rhan o’ch absenoldeb fel Absenoldeb ar y Cyd i Rieni.

Dyddiad dechrau a genedigaethau cynnar

Fel arfer, y cynharaf y gallwch ddechrau’ch absenoldeb yw 11 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i’r plentyn gael ei eni.

Bydd absenoldeb hefyd yn dechrau:

  • y diwrnod ar ôl yr enedigaeth, os yw’r babi’n cael ei eni’n gynnar
  • yn awtomatig, os ydych i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd yn ystod y 4 wythnos cyn yr wythnos (o ddydd Sul i ddydd Sadwrn) y disgwylir i’ch babi gael ei eni

Defnyddiwch y cynlluniwr mamolaeth i gyfrifo’r dyddiad cynharaf y gall eich absenoldeb mamolaeth ddechrau.

Newid eich dyddiad ar gyfer dychwelyd i’r gwaith

Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i’ch cyflogwr os ydych am newid eich dyddiad dychwelyd i’r gwaith.

3. Cyflog

Mae Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) yn cael ei dalu am hyd at 39 wythnos. Cewch:

  • 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (cyn treth) ar gyfer y 6 wythnos gyntaf
  • £184.03 neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (pa bynnag un sydd isaf) ar gyfer y 33 wythnos nesaf

Mae Tâl Mamolaeth Statudol yn cael ei dalu yn yr un ffordd â’ch cyflog (er enghraifft, yn fisol neu’n wythnosol). Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu.

Defnyddiwch y cynlluniwr mamolaeth i gyfrifo faint y gallech ei gael.

Os byddwch yn cymryd Absenoldeb ar y cyd i Rieni, cewch Dâl Statudol ar y cyd i Rieni (ShPP). Mae Tâl Statudol ar y cyd i Rieni yn £184.03 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog, pa bynnag un sydd isaf.

Dyddiad dechrau

Fel arfer, mae Tâl Mamolaeth Statudol yn dechrau pan fyddwch yn cymryd absenoldeb mamolaeth.

Mae’n dechrau’n awtomatig os ydych i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd yn ystod y 4 wythnos cyn yr wythnos (o ddydd Sul i ddydd Sadwrn) y disgwylir i’ch babi gael ei eni.

Problemau ac anghydfodau

Gofynnwch i’ch cyflogwr esbonio’ch Tâl Mamolaeth Statudol os ydych o’r farn ei fod yn anghywir. Os ydych yn anghytuno ynghylch y swm neu os na all eich cyflogwr ei dalu (er enghraifft, oherwydd ei fod yn ansolfent), cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM.

4. Cymhwystra

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

Rydych yn gymwys i gael Absenoldeb Mamolaeth Statudol os:

Does dim ots pa mor hir rydych wedi bod gyda’ch cyflogwr, faint o oriau rydych yn gweithio na faint rydych yn cael eich talu.

Ni allwch gael Absenoldeb Mamolaeth Statudol os ydych yn cael plentyn drwy fam fenthyg - gallech gael Absenoldeb a Thâl Mabwysiadu Statudol yn lle hynny.

Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)

Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:

Os ydych fel arfer yn ennill £123 yr wythnos ar gyfartaledd, a gwnaethoch ond ennill llai mewn rhai wythnosau oherwydd cawsoch eich talu ond nad oeddech yn gweithio (‘ar ffyrlo’) o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws, gallech fod yn gymwys o hyd.

Ni allwch gael Tâl Mamolaeth Statudol os ewch i ddalfa’r heddlu yn ystod eich cyfnod tâl mamolaeth. Ni fydd yn ailgychwyn pan fyddwch yn cael eich rhyddhau.

Genedigaethau cynnar neu os ydych yn colli’ch babi

Gallwch barhau i gael Absenoldeb Mamolaeth Statudol a Thâl Mamolaeth Statudol os:

  • mae’ch babi’n cael ei eni’n gynnar
  • mae’ch babi’n farw-enedigol ar ôl dechrau’ch 24ain wythnos o feichiogrwydd
  • mae’ch babi’n marw ar ôl cael ei eni

Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr roi ffurflen SMP1 i chi sy’n egluro pam na allwch gael Tâl Mamolaeth Statudol cyn pen 7 diwrnod ar ôl dod i’w benderfyniad. Efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth yn lle hynny.

5. Sut i hawlio

Absenoldeb Mamolaeth Statudol

O leiaf 15 wythnos cyn eich dyddiad disgwyl, rhowch wybod i’ch cyflogwr pryd y disgwylir i’r babi gael ei eni a phryd rydych am ddechrau’ch absenoldeb mamolaeth. Gall eich cyflogwr ofyn am hyn yn ysgrifenedig.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr ysgrifennu atoch cyn pen 28 diwrnod yn cadarnhau’ch dyddiadau dechrau a gorffen.

Defnyddiwch y cynlluniwr mamolaeth i gyfrifo pryd y mae’n rhaid i chi hawlio’ch absenoldeb mamolaeth.

Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)

Rhowch wybod i’ch cyflogwr eich bod am roi’r gorau i weithio i gael babi a’r diwrnod rydych am i’ch Tâl Mamolaeth Statudol ddechrau. Mae’n rhaid i chi roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i’ch cyflogwr (yn ysgrifenedig os yw’n gofyn am hyn) a thystiolaeth eich bod yn feichiog.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr gadarnhau cyn pen 28 diwrnod faint o Dâl Mamolaeth Statudol y byddwch yn ei gael a phryd y bydd yn dechrau ac yn dod i ben.

Os bydd eich cyflogwr yn penderfynu nad ydych yn gymwys, mae’n rhaid iddo roi ffurflen SMP1 i chi cyn pen 7 diwrnod ar ôl dod i benderfyniad ac egluro pam.

Tystiolaeth eich bod yn feichiog

Mae angen i chi roi tystiolaeth o’ch beichiogrwydd i’ch cyflogwr i gael Tâl Mamolaeth Statudol. Nid oes angen tystiolaeth arnoch ar gyfer absenoldeb mamolaeth.

Cyn pen 21 diwrnod i ddyddiad dechrau’ch Tâl Mamolaeth Statudol (neu cyn gynted â phosibl os yw’r babi wedi’i eni’n gynnar) rhowch y naill neu’r llall o’r canlynol i’ch cyflogwr:

  • llythyr gan eich meddyg neu fydwraig
  • eich tystysgrif MATB1 – bydd meddygon a bydwragedd yn rhoi hyn i chi ddim mwy nag 20 wythnos cyn y dyddiad disgwyl

Ni chewch Dâl Mamolaeth Statudol os nad ydych yn rhoi tystiolaeth o ddyddiad disgwyl eich babi i’ch cyflogwr.

6. Cymorth ychwanegol

Budd-daliadau mamolaeth

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i weld pa help y gallwch ei gael o’r canlynol:

  • Credyd Cynhwysol
  • Budd-dal Plant
  • Credyd Treth Plant
  • Credydau Treth Gwaith – gall hyn barhau am 39 wythnos ar ôl i chi fynd ar absenoldeb mamolaeth
  • Cymhorthdal Incwm – efallai y cewch hyn tra nad ydych yn gweithio

Gallech gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn gwerth £500 (fel arfer os mai dyma’ch plentyn cyntaf).

Os nad ydych yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, gallech gael Lwfans Mamolaeth gan y llywodraeth.

Cynlluniau mamolaeth cwmnïau

Efallai y cewch fwy na’r swm statudol o absenoldeb a thâl os oes gan eich cyflogwr gynllun mamolaeth cwmni. Ni all gynnig llai na’r swm statudol i chi.

Absenoldeb ychwanegol

Gallech gael 18 wythnos o absenoldeb di-dâl i rieni ar ôl yr enedigaeth – gall hyn gael ei gyfyngu i 4 wythnos y flwyddyn.