Rhoi gwybod i CThEF am newid i’ch manylion personol

Printable version

1. Newid enw neu gyfeiriad

Mae angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych wedi newid eich enw neu’ch cyfeiriad. Mae sut rydych yn cysylltu â CThEF er mwyn diweddaru’ch enw neu’ch cyfeiriad yn dibynnu ar eich sefyllfa.

Bydd hefyd angen i chi newid eich cofnodion busnes (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn rhedeg busnes.

Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd eich manylion yn cael eu diweddaru unwaith i chi roi gwybod am newid enw neu gyfeiriad.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Rhoi gwybod i CThEF eich bod wedi newid eich cyfeiriad.

Rhoi gwybod i CThEF fod eich enw wedi newid. Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn diweddaru’ch enw.

Gallwch hefyd roi gwybod i CThEF bod eich enw neu’ch cyfeiriad wedi newid drwy ddefnyddio ap CThEF.

Bydd eich enw’n cael ei ddiweddaru’n awtomatig os ydych yn newid rhywedd.

Asiantau treth

Os ydych yn asiant treth (er enghraifft, cyfrifydd), rhowch wybod i CThEF am newid i enw neu gyfeiriad:

2. Newidiadau incwm

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am newidiadau i’ch incwm trethadwy.

I wneud hyn, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallech dalu gormod o dreth neu gael bil treth ar ddiwedd y flwyddyn.

Yr hyn y mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF amdano

Mae’ch cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn yn rhoi gwybod i CThEF:

  • pan fyddwch yn dechrau neu’n gorffen eich swydd

  • pan fo newid yn yr arian yr ydych yn ei ennill o’ch swydd neu’n ei gael o’ch pensiwn

Ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau eraill, er enghraifft pan fyddwch yn dechrau neu’n gorffen cael y canlynol:

Os ydych yn cael credydau treth

Rhowch wybod i CThEF ar wahân am newidiadau sy’n effeithio ar eich credydau treth.

Os yw’ch priod neu’ch partner sifil yn marw

Rhowch wybod i CThEF am newidiadau i’ch incwm (yn agor tudalen Saesneg) ar ôl marwolaeth eich gŵr, gwraig neu bartner sifil.

Os ydych yn gwneud ‘taliadau ar gyfrif’ ar gyfer Hunanasesiad

Rhowch wybod i CThEF os ydych yn disgwyl gostyngiad mawr yn eich incwm a’ch bod yn talu’ch bil treth Hunanasesiad o flaen llaw (‘taliadau ar gyfrif’). Mae’n bosibl y bydd CThEF yn penderfynu gostwng eich taliadau.

Ar ôl i chi roi gwybod i CThEF

Gall CThEF wneud y canlynol:

  • newid eich cod treth ac anfon Hysbysiad Cod TWE atoch

  • dweud wrthych am anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad er mwyn iddynt allu anfon bil atoch ar gyfer y dreth sydd arnoch

  • anfon ad-daliad atoch os ydych wedi talu gormod o dreth

3. Newidiadau o ran perthynas neu deulu

Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych:

  • yn priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil

  • yn ysgaru, gwahanu neu’n rhoi’r gorau i fyw gyda’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil

Gallwch roi gwybod i CThEF ar-lein os ydych yn cael cyflog neu bensiwn drwy TWE. Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad hefyd, bydd eich manylion yn cael eu diweddaru ar gyfer y ddau beth.

Bydd angen:

  • Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth – os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un wrth i chi roi gwybod i CThEF ar-lein

  • rhif Yswiriant Gwladol (ni fydd cyfeirnod dros dro’n gweithio)

Rhowch wybod i CThEF ar unwaith – os na fyddwch yn gwneud hyn, gallech dalu gormod o dreth neu gael bil treth ar ddiwedd y flwyddyn.

Os ydych yn cael credydau treth neu Fudd-dal Plant

Rhowch wybod i CThEF ar wahân am newidiadau o ran eich perthynas neu deulu os ydych yn cael y canlynol:

Os yw’ch priod neu’ch partner sifil yn marw

Cysylltwch â CThEF i roi gwybod am y canlynol:

4. Newid rhywedd

Fel arfer, caiff Cyllid a Thollau EF (CThEF) wybod yn awtomatig pan fyddwch yn newid eich rhywedd yn gyfreithiol drwy wneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd (yn agor tudalen Saesneg).

Rhowch wybod i’ch cyflogwr ar yr un pryd – mae’n rhaid iddo ddiweddaru eich cofnodion cyflogres a’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd CThEF yn gwneud y canlynol:

  • diweddaru ei gofnodion i ddangos eich rhywedd ac unrhyw newid o ran eich enw

  • rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

  • cyfyngu’ch cofnodion fel mai dim ond staff arbenigol yn CThEF a DWP sy’n gallu cael mynediad atynt

  • rhoi eich materion treth yn nwylo Adran Gyhoeddus 1 CThEF (PD1)

Unwaith y cewch lythyr yn cadarnhau bod eich cofnodion wedi symud, gallwch gysylltu â PD1 gyda chwestiynau am eich treth neu’ch Yswiriant Gwladol.

Adran Gyhoeddus 1
Ffôn: 03000 534730
Dydd Llun – Dydd Gwener 8am tan 6pm
Dysgwch am gostau galwadau


CThEF
Tŷ William Morgan
Adran Gyhoeddus 1
6 Sgwâr Canolog
Caerdydd
CF10 1XS

Cael cyngor am y broses newid rhywedd

Os oes gennych gwestiynau ynghylch rhoi gwybod i CThEF am newid eich rhywedd yn gyfreithiol, gallwch ffonio Adran Arbennig D.

Ni allwch gadarnhau eich bod wedi newid eich rhywedd yn gyfreithiol dros y ffôn.

Adran Arbennig D / Special Section D
Ffôn: 03000 554344
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Dysgwch am gostau galwadau

Rhowch wybod i CThEF eich hun

Gallwch ysgrifennu at Adran Arbennig D i roi gwybod i CThEF:

  • eich bod wedi newid eich rhywedd yn gyfreithiol

  • eich bod wedi newid eich enw, dim ond os na wnaethoch newid eich rhywedd yn gyfreithiol

  • os nad ydych am iddynt gyfyngu’ch cofnodion

Dylech gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol, a’ch Tystysgrif Cydnabod Rhywedd wreiddiol os ydych wedi newid eich rhywedd yn gyfreithiol.


CThEF / HMRC
Adran Arbennig D / Special Section D
Ystafell / Room BP9207
Benton Park View
Newcastle upon Tyne
NE98 1ZZ