Pensiwn dros 80

Printable version

1. Trosolwg

Mae’r pensiwn dros 80 oed yn Bensiwn y Wladwriaeth ar gyfer pobl 80 oed neu hŷn.

I fod yn gymwys rhaid i chi gael naill ai Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth o lai na £101.55 yr wythnos, neu ddim Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth o gwbl.

Gall roi £101.55 yr wythnos i chi yn y flwyddyn dreth 2024 i 2025.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

2. Beth fyddwch yn ei gael

Mae beth fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth rydych yn ei gael, os ydych yn ei gael.

Os nad ydych yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth neu rydych yn cael llai na £101.55 yr wythnos, gallech gael y gwahaniaeth wedi’i dalu hyd at y swm hwn.

Er enghraifft, os ydych dros 80 oed ac rydych yn cael £43 yr wythnos am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, gall eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth cael ychwanegiad o £58.55 i £101.55 yr wythnos.

3. Cymhwysedd

Ni allwch gael y pensiwn dros 80 os wnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016.

Gallwch wneud cais am bensiwn dros 80 os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn 80 oed neu drosodd
  • nid ydych yn cael Pensiwn sylfaenol y wladwriaeth neu mae’ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £101.55 yr wythnos yn 2024 i 2025
  • roeddech yn breswylydd yn y DU am o leiaf 10 blynedd allan o 20 (nid oes angen i hwn fod yn 10 blynedd yn ganlynol) - rhaid i’r cyfnod hwn o 20 mlynedd gynnwys y diwrnod cyn i chi droi’n 80 oed neu unrhyw ddiwrnod ar ôl hynny
  • roeddech yn ‘preswylio fel arfer’ yn y DU, Ynys Manaw neu Gibraltar ar eich pen-blwydd yn 80 oed neu’r dyddiad y gwnaethoch gais am y pensiwn hwn, os yw’n hwyrach

Os ydych yn byw neu’n symud i wlad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir, darganfod pensiynau a budd-daliadau ar gyfer gwladolion y DU yn yr UE, AEE a’r Swistir

Nid yw’ch cymhwysedd ar gyfer pensiwn dros 80 yn seiliedig ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

4. Sut i wneud cais

Gallwch gael ffurflen gais o naill ai:

Y cynharaf y gallwch wneud cais yw 3 mis cyn eich pen-blwydd yn 80 oed.

Cael ffurflen gais gan y Gwasanaeth Pensiwn

Ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn i gael ffurflen gais wedi’i hanfon atoch.

Ffôn: 0800 731 7898
Ffôn testun: 0800 731 7339
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 7898
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Iaith Gymraeg: 0800 731 7936
Ffôn testun Iaith Gymraeg: 0800 731 7013

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (heblaw am wyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau

5. Gwybodaeth bellach

Effaith ar fudd-daliadau eraill

Mae’r pensiwn dros 80 oed yn cyfrif fel incwm trethadwy, felly gall effeithio ar fudd-daliadau eraill yr ydych yn eu cael.

Mae’n rhaid i chi gynnwys y pensiwn dros 80 oed fel incwm os ydych yn hawlio budd-daliadau eraill sy’n gysylltiedig ag incwm.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid

Rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn os yw’ch amgylchiadau’n newid. Er enghraifft, os ydych yn newid eich cyfeiriad neu fanylion banc.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch

Gallwch ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn os oes gennych fwy o gwestiynau am y pensiwn dros 80.

Gwasanaeth Pensiwn 
Ffôn: 0800 731 7898
Ffôn testun: 0800 731 7339
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 7898
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Iaith Gymraeg: 0800 731 7936
Ffôn testun Iaith Gymraeg: 0800 731 7013

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (heblaw am wyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os na allwch ffonio neu rydych yn byw dramor, mae yna ffyrdd gwahanol i gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn.