Lwfans Mamolaeth

Printable version

1. Trosolwg

Mae Lwfans Mamolaeth yn daliad allwch ei gael os ydych yn cymryd amser i ffwrdd i gael babi.

Gallwch ei gael os ydych:

  • yn gyflogedig ond methu cael Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
  • yn hunangyflogedig
  • wedi stopio gweithio yn ddiweddar
  • yn cymryd rhan mewn gwaith di-dâl ym musnes eich cymar neu bartner sifil

Gallwch gael Lwfans Mamolaeth am hyd at 39 wythnos.

Gallwch wneud cais am Lwfans Mamolaeth ar ôl i chi fod yn feichiog am 26 wythnos. Gall taliadau ddechrau unrhyw bryd rhwng yr 11 wythnos cyn y disgwylir eich babi a’r diwrnod ar ôl i’r babi gael ei eni.

Gall unrhyw arian rydych yn ei gael effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

2. Cymhwyster

Gallwch gael Lwfans Mamolaeth am hyd at 39 wythnos os oeddech naill ai wedi bod:

  • wedi cofrestru’n hunangyflogedig am o leiaf 26 wythnos yn y 66 wythnos cyn dyddiad disgwyl eich babi
  • wedi’ch cyflogi am o leiaf 26 wythnos yn y 66 wythnos cyn dyddiad disgwyl eich babi

Os ydych wedi bod yn gyflogedig, rhaid eich bod wedi ennill (neu’n cael eich trin fel eich bod yn ennill) £30 yr wythnos neu fwy mewn o leiaf 13 wythnos o’ch cyflogaeth. Nid oes rhaid i’r wythnosau fod gyda’i gilydd

Efallai y byddwch yn parhau i fod yn gymwys os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio yn ddiweddar. Nid oes gwahaniaeth os oedd gennych wahanol swyddi neu gyfnodau o ddiweithdra.

Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiannell hawliau mamolaeth i wirio eich cymhwyster.

Os ydych yn gwneud gwaith di-dâl ar gyfer busnes eich cymar neu bartner sifil

Efallai y cewch Lwfans Mamolaeth am hyd at 14 wythnos os, am o leiaf y 26 wythnos o’r 66 wythnos cyn y disgwylir eich babi, os oeddech:

  • wedi cymryd rhan mewn gwaith di-dâl ar gyfer busnes eich cymar neu bartner sifil
  • heb fod yn gyflogedig neu hunangyflogedig

Yn yr un 26 wythnos, mae’n rhaid bod eich cymar neu bartner sifil:

  • wedi eu cofrestru â CThEF yn hunangyflogedig
  • yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gradd 2

Os ydych yn colli’r babi

Efallai y byddwch yn parhau i fod yn gymwys naill ai os yw’r babi:

  • yn farw-anedig o ddechrau’r 24ain wythnos o feichiogrwydd
  • yn cael ei eni’n fyw ar unrhyw adeg yn ystod y beichiogrwydd

3. Beth fyddwch yn ei gael

Defnyddiwch y cyfrifiannell hawliau mamolaeth i gyfrifo faint y gallech ei gael.

Os ydych yn gyflogedig neu wedi gorffen gweithio yn ddiweddar

Byddwch yn cael £184.03 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sy’n llai) am hyd at 39 wythnos os ydych chi’n gyflogedig neu wedi gorffen gweithio yn ddiweddar.

Gallwch gael Lwfans Mamolaeth am hyd at 39 wythnos. Mae hyn yn golygu os cymerwch y 52 wythnos lawn o Absenoldeb Mamolaeth Statudol, bydd eich 13 wythnos olaf yn ddi-dâl.

Os ydych chi’n hunangyflogedig

Gallwch gael rhwng £27 a £184.03 yr wythnos am hyd at 39 wythnos os ydych chi’n hunangyflogedig.

Mae faint rydych chi’n ei gael yn dibynnu ar faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 rydych chi wedi’u gwneud yn ystod y 66 wythnos cyn y disgwylir eich babi.

I gael £184.03 yr wythnos mae’n rhaid eich bod:

  • wedi’ch cofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (HMRC) am o leiaf 26 wythnos yn y 66 wythnos cyn y disgylir eich babi
  • wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 am o leiaf 13 o’r 66 wythnos cyn y disgwylir eich babi

Efallai y cewch £27 am rai wythnosau tra bod eich cyfraniadau yn gysylltiedig â’ch cais am Lwfans Mamolaeth. Bydd eich taliadau’n cael eu cynyddu a’u hôl-ddyddio os oes angen. Gall hyn gymryd sawl wythnos.

Os ydych wedi talu llai na 13 wythnos o gyfraniadau

Bydd eich Lwfans Mamolaeth yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar sawl wythnos o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a wnaethoch.

Os nad ydych wedi talu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, bydd gennych hawl i £27 yr wythnos Lwfans Mamolaeth.

Gallwch ychwanegu at eich cyfraniadau i gynyddu eich Lwfans Mamolaeth ar ôl i chi wneud cais.

Cynyddu eich Lwfans Mamolaeth

Ar ôl i chi wneud cais, bydd CThEF yn cysylltu â chi os ydych wedi talu llai na 13 wythnos o Yswiriant Gwladol Dosbarth 2. Byddant yn dweud wrthych faint o gyfraniadau ychwanegol sydd eu hangen arnoch i gael swm llawn y Lwfans Mamolaeth.

Yn dibynnu ar faint o gyfraniadau ychwanegol rydych yn eu talu, gallwch gael rhwng £27 a £184.03 yr wythnos am hyd at 39 wythnos.

Unwaith y bydd eich cyfraniadau ychwanegol wedi’u cysylltu â’ch cais am Lwfans Mamolaeth, bydd eich taliadau’n cael eu cynyddu a’u hôl-ddyddio os oes angen. Gall hyn gymryd sawl wythnos.

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn £3.45 yr wythnos.

Os ydych chi’n gwneud gwaith di-dâl i fusnes eich cymar neu’ch partner sifil

Gallwch gael £27 yr wythnos am hyd at 14 wythnos os ydych chi’n gwneud gwaith di-dâl i fusnes eich cymar neu’ch partner sifil.

Sut byddwch yn cael eich talu

Mae Lwfans Mamolaeth yn cael ei dalu bob 2 neu 4 wythnos.

Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans fel arfer yn cael eu talu’n syth i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.

Effaith ar fudd-daliadau eraill

Pan fyddwch yn gwneud cais am Lwfans Mamolaeth, gall rhai o’ch budd-daliadau eraill newid, ond fel arfer bydd cyfanswm eich budd-daliadau naill ai’n cynyddu neu’n aros yr un peth.

Y budd-daliadau sy’n cael eu heffeithio yw:

  • Credyd Cynhwysol
  • budd-daliadau profedigaeth
  • Lwfans Gofalwr
  • Taliad Cymorth Gofalwr
  • Rhyddhad Treth Cyngor
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) - bydd hyn yn dod i ben os ydych yn cael Lwfans Mamolaeth

Efallai y byddwch hefyd yn cael eich effeithio gan y cap ar fudd-daliadau, sy’n cyfyngu’r cyfanswm o fudd-daliadau y gallwch eu cael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu’n hŷn sydd heb gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i gyfrifo sut y bydd eich budd-daliadau eraill yn cael eu heffeithio.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Caiff eich taliad Credyd Cynhwysol ei leihau gan swm sy’n hafal i’ch taliad Lwfans Mamolaeth.

Efallai y byddwch yn cael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer eich plant (p’un a ydych chi’n cael lwfans mamolaeth ai peidio).

Rhowch wybod am newid ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol os ydych yn dechrau cael Lwfans Mamolaeth.

Bydd pa fudd-daliadau a gewch yn effeithio ar y credydau Yswiriant Gwladol rydych yn gymwys ar eu cyfer. Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol:

  • gyda thaliadau Lwfans Mamolaeth gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1, sy’n eich helpu i fod yn gymwys am rai budd-daliadau eraill.
  • heb daliadau Lwfans Mamolaeth gallwch ond cael credydau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3, sy’n cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth yn unig.

Os ydych chi wedi cael eich talu gormod

Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:

  • heb roi gwybod am newid ar unwaith
  • wedi rhoi gwybodaeth anghywir
  • wedi cael eich gordalu trwy gamgymeriad

Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.

4. Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am Lwfans Mamolaeth unwaith y byddwch wedi bod yn feichiog am 26 wythnos.

Gall taliadau ddechrau unrhyw bryd rhwng yr 11 wythnos cyn y disgwylir eich babi a’r diwrnod ar ôl i’r babi gael ei eni.

I gael y swm llawn y mae gennych hawl iddo, gwnewch gais o fewn 3 mis i ddyddiad dechrau eich Lwfans Mamolaeth.

I wneud cais, bydd angen ffurflen gais Lwfans Mamolaeth (MA1) arnoch. Gallwch naill ai:

  • ei hargraffu a’i llenwi
  • ei llenwi ar-lein a’i hargraffu
  • archebu ffurflen gais os na allwch ei hargraffu

Mae gan y ffurflen nodiadau i’ch helpu i’w llenwi.

Byddwch angen rhoi gwybodaeth am eich cyflogaeth yn y 66 wythnos cyn disgwylir eich babi (gelwir hyn ‘y Cyfnod Prawf’). Gallwch ddefnyddio’r cyfrifiannell cyfnod Prawf i weithio allan y dyddiadau yma.

Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.

Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith i ofyn am fformatau gwahanol, fel braille, print bras neu CD sain.

Beth i’w anfon gyda’ch ffurflen gais

Bydd angen i chi gynnwys dogfennau eraill pan fyddwch yn anfon eich ffurflen gais.

Tystiolaeth o incwm

Mae angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch incwm, fel:

  • slipiau cyflog gwreiddiol
  • Tystysgrif Eithriad Enillion Bach (os yw’n berthnasol ar gyfer blwyddyn dreth 2014 i 2015)

Prawf o’r dyddiad geni a’r dyddiad geni disgwyliedig

Mae angen i chi ddarparu prawf o ddyddiad geni disgwyliedig eich babi, hyd yn oed os yw’r babi eisoes wedi’i eni. Gallai hyn fod yn:

  • llythyr gan dy feddyg neu fydwraig ar bapur pengron

  • eich tystysgrif MATB1

Os yw’ch babi eisoes wedi cael ei eni, mae angen i chi hefyd ddarparu tystiolaeth o hynny. Gallai hyn fod yn:

  • tystysgrif geni

  • llythyr gan eich meddyg neu fydwraig ar bapur pennawd - gall hwn fod yr un llythyr â’r un sy’n profi’r dyddiad geni disgwyliedig

  • eich tystysgrif MATB1, os yw’r adran am y dyddiad geni gwirioneddol wedi ei llenwi gan feddyg neu fydwraig

Gwybodaeth ychwanegol

Efallai y bydd angen i chi ddarparu hefyd:

  • eich ffurflen SMP1, os gwrthodwyd tâl Mamolaeth Statudol (SMP) gan eich cyflogwr

  • mwy o wybodaeth am fusnes hunangyflogedig eich partner a’r gwaith di-dâl rydych yn ei wneud iddynt, os ydych chi’n gwneud cais am Lwfans Mamolaeth am hyd at 14 wythnos

Pryd fyddwch yn clywed am eich cais

Dylech gael penderfyniad ar eich cais o fewn 20 diwrnod gwaith.

Os ydych yn gymwys, bydd ffurflen yn cael ei hanfon i gadarnhau’ch hawl a gofyn i chi gadarnhau eich diwrnod olaf o’ch cyflogaeth cyn i chi adael.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio’r penderfyniad am eich cais. Mae hyn yn cael ei adnabod fel gofyn am ailystyriaeth orfodol.

5. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Mae angen i chi roi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau sy’n digwydd tra’ch bod chi’n derbyn Lwfans Mamolaeth, er enghraifft os ydych yn mynd yn ol i’r gwaith.

Gall eich Lwfans Mamolaeth stopio neu leihau os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith. Os ydych chi wedi cael eich talu gormod efallai y bydd yn rhaid i chi dalu peth o’r arian yn ôl. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy o £50 hefyd.

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newidiadau yn fwriadol, rydych yn cyflawni twyll budd-dal.

Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdano

Rhowch wybod am newid mewn amgylchiadau os ydych chi’n:

  • dychwelyd i’r gwaith (gan gynnwys ‘diwrnodau cadw mewn cysylltiad’)
  • dechrau neu stopio gweithio
  • dechrau swydd newydd
  • dod â hawl i Dâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr
  • dychwelyd i waith di-dâl i fusnes eich priod neu’ch partner sifil
  • newid eich cyfeiriad
  • newid eich enw
  • newid eich manylion banc
  • symud dramor
  • mynd i’r carchar neu eich dal yn nalfa’r heddlu
  • ddim eisiau hawlio Lwfans Mamolaeth mwyach

Os penderfynwch beidio â dychwelyd i’r gwaith ar ôl i’ch Lwfans Mamolaeth ddod i ben, nid oes angen i chi roi gwybod am hyn. Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i wirio a allwch chi gael cymorth ariannol arall.

Rhoi gwybod am ‘ddyddiau cadw mewn cysylltiad’

Mae angen i chi roi gwybod am unrhyw ddyddiau rydych chi’n gweithio i’ch cyflogwr wrth dderbyn Lwfans Mamolaeth. Gelwir y rhain yn ‘ddyddiau cadw mewn cysylltiad’.

Gallwch gymryd hyd at 10 diwrnod cadw mewn cysylltiad heb effeithio ar faint o Lwfans Mamolaeth rydych chi’n ei dderbyn.

Sut i roi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am newidiadau dros y ffôn neu trwy’r post.

Os nad ydych yn siŵr a oes angen i chi roi gwybod am newid, gallwch ffonio am gyngor.

Rhoi gwybod am newidiadau dros y ffôn

Mae angen eich rhif Yswiriant Gwladol arnoch pan fyddwch chi’n ffonio.

Llinell gymorth Lwfans Mamolaeth
Ffôn: 0800 169 0283
Ffôn testun: 0800 169 0286
Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 169 0283
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 5pm
Cymraeg: 0800 169 0296
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch fwy am daliadau galwadau

Rhoi gwybod am newidiadau trwy’r post

Mae angen i chi gynnwys eich rhif Yswiriant Gwladol ar unrhyw lythyrau.

Anfonwch fanylion eich newidiadau i:

DWP Maternity Allowance
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2GL