Lwfans Gweini
Printable version
1. Trosolwg
Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gennych anabledd sy’n ddigon difrifol bod angen rhywun arnoch i helpu i ofalu amdanoch.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) a fformat hawdd i’w ddarllen.
Mae’n cael ei dalu ar 2 gyfradd wahanol wahanol ac mae faint a gewch yn dibynnu ar lefel y gofal sydd ei angen arnoch oherwydd eich anabledd.
Gallech gael £72.65 neu £108.55 yr wythnos i helpu gyda chymorth personol os yw’r ddau ohonoch:
- ag anabledd corfforol neu feddyliol
- Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn
Nid yw’n cynnwys anghenion symudedd.
Gallech gael Credyd Pensiwn ychwanegol, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor os ydych yn cael Lwfans Gweini.
Nid oes rhaid i chi gael rhywun yn gofalu amdanoch er mwyn gwneud cais.
Os oes gennych ofalwr, efallai y gallent cael Lwfans Gofalwr os oes gennych anghenion gofal sylweddol.
2. Beth fyddwch yn ei gael
Mae Lwfans Gweini yn cael ei dalu bob wythnos ar 2 gyfradd wahanol - mae’r un a gewch yn dibynnu ar lefel yr help sydd ei angen arnoch.
Nid yw Lwfans Gweini yn amodol ar brawf modd - ni fydd yr hyn rydych yn ei ennill na faint sydd gennych mewn cynilion yn effeithio ar yr hyn rydych yn ei gael.
Cyfraddau Lwfans Gweini
Cyfradd | Lefel y cymorth sydd ei angen arnoch |
---|---|
Cyfradd is - £72.65 | Cymorth aml neu oruchwyliaeth gyson yn ystod y dydd, neu oruchwyliaeth gyda’r nos |
Cyfradd uwch - £108.55 | Cymorth neu oruchwyliaeth trwy gydol y dydd a’r nos, os ydy gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud gall bod gennych 12 mis neu’n llai i fyw. |
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, fe allech chi gael cyfradd wahanol. Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau.
Gallech gael Credyd Pensiwn ychwanegol, Budd-dal Tai neu Ostyngiad mewn Treth Cyngor os ydych yn cael Lwfans Gweini - gwiriwch gyda’r llinell gymorth neu’r swyddfa sy’n delio â’ch budd-dal.
Os ydych yn cael Lwfans Gweini Cyson ar yr un pryd, bydd eich Lwfans Gweini yn cael ei leihau gan swm y Lwfans Gweini Cyson a gewch.
Sut rydych yn cael eich talu
Mae’r holl fudd-daliadau yn cael eu talu i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
3. Cymhwyster
Gallwch gael Lwfans Gweini os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac mae’r canlynol yn berthnasol (oni bai y gallech fod â 12 mis neu’n llai i fyw):
- mae gennych anabledd corfforol (gan gynnwys anabledd synhwyraidd, er enghraifft dallineb), anabledd meddwl (gan gynnwys anawsterau dysgu), neu’r ddau
- mae eich anabledd yn ddigon difrifol bod angen help arnoch i ofalu amdanoch chi’ch hun neu rywun i’ch goruchwylio, er eich diogelwch chi neu ddiogelwch rhywun arall
- rydych chi wedi bod angen yr help hwnnw am o leiaf 6 mis
Mae’n rhaid i chi hefyd:
- bod ym Mhrydain Fawr pan fyddwch yn gwneud cais - mae rhai eithriadau, fel aelodau ac aelodau teulu’r lluoedd arfog
- wedi bod ym Mhrydain Fawr am o leiaf 2 o’r 3 blynedd diwethaf (nid yw hyn yn berthnasol os ydych chi’n ffoadur neu os oes gennych statws amddiffyn dyngarol)
- bod yn preswylio’n arferol yn y DU, Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
- ddim yn destun i reolaeth mewnfudo (oni bai eich bod yn fewnfudwr noddedig)
- ddim yn cael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Daliad Anabledd Oedolion (ADP)
Os gallech fod â 12 mis neu lai i fyw
Gallwch gael Lwfans Gweini yn gyflymach ac ar y gyfradd uwch os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw. Mae hyn weithiau’n cael ei alw’n ‘reolau arbennig’.
Os ydych yn byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
Efallai y byddwch yn dal i allu cael Lwfans Gweini os ydych yn ddinesydd yn y DU a’ch bod yn byw neu’n symud i’r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir.
Darllenwch ganllaw i ddarganfod a allwch chi gael budd-daliadau yn yr UE, yr AEE neu’r Swistir.
Os ydych mewn cartref gofal
Fel rheol ni allwch gael Lwfans Gweini os ydych chi’n byw mewn cartref gofal a bod eich awdurdod lleol yn talu am eich gofal. Gallwch barhau i hawlio Lwfans Gweini os ydych chi’n talu am eich holl gostau cartref gofal eich hun.
Os oes angen asesiad arnoch
Dim ond os yw’n aneglur sut mae’ch salwch neu anabledd yn effeithio arnoch y bydd angen i chi fynd i asesiad i wirio’ch cymhwysedd.
Os oes angen asesiad arnoch, byddwch yn cael llythyr yn dweud pam a ble mae’n rhaid i chi fynd. Yn ystod yr asesiad, bydd angen i weithiwr meddygol proffesiynol eich archwilio.
4. Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Lwfans Gweini ar-lein neu drwy’r post.
I wneud cais, byddwch angen:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfeiriad a manylion cyswllt
- manylion o’r cyflyrau iechyd neu anabledd rydych angen cymorth ychwanegol gyda hwy
- manylion meddygfa eich Meddyg Teulu neu ganolfan meddygol
Gwneud cais ar-lein
Bydd y gwasanaeth newydd yn derbyn nifer cyfyngedig o geisiadau pob wythnos.
NI allwch wneud cais ar-lein os ydych naill ai’n benodai neu mae gennych bwer atwrnai, neu rydych wedi cael gwybod eich bod yn cwrdd â’r ‘rheolau arbennig ar gyfer diwedd bywyd’.
Gwneud cais trwy’r post
Gallwch wneud cais drwy naill ai:
- argraffu a chyflwyno’r ffurflen gais Lwfans Gweini
- Cysylltu â’r llinell gymorth i ofyn am ffurflen gais
Mae proses wahanol ar gyfer Lwfans Gweini yng Ngogledd Iwerddon.
Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau i:
Freepost
DWP Attendance Allowance
Nid oes angen cod post na stamp arnoch. Daw’r ffurflen gyda nodiadau yn dweud wrthych sut i’w chwblhau.
Llinell gymorth Lwfans Gweini
Ffôn: 0800 731 0122
Ffôn testun: 0800 731 0317
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0122
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau
Ar ôl i chi wneud cais
Ar ôl i chi anfon eich cais, byddwch yn derbyn neges testun neu llythyr o fewn 3 wythnos sy’n esbonio pryd gallwch ddisgwyl cael penderfyniad.
Pan mae penderfyniad wedi cael ei wneud, byddwch yn derbyn llythyr yn esbonio’r canlyniad.
Pryd y byddwch yn cael eich talu
Os ydych yn cael dyfarniad o Lwfans Gweini, bydd y llythyr penderfyniad yn dweud wrthych pryd y byddwch yn cael eich taliad cyntaf.
Os ydych yn gwneud cais ar-elin, bydd eich cais yn dechrau ar y dyddiad rydych yn gwneud eich cais.
Os ydych yn argraffu ac yn anfon y ffurflen drwy’r post, bydd eich cais yn dechrau ar y dyddiad mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ei derbyn.
Os ydych yn ffonio’r llinell gymorth i gael ffurflen, bydd eich cais yn dechrau ar ddyddiad eich galwad ffôn (os byddwch yn dychwelyd y ffurflen o fewn 6 wythnos).
Os gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw
Ni allwch wneud cais ar-lein. Gallwch gael Lwfans Gweini yn gyflymach os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu’n llai i fyw. Weithiau gelwir hyn yn ‘reolau arbennig’.
Mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais Lwfans Gweini. Dylech hefyd gofyn i feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall am ffurflen SR1 - byddant naill ai’n ei llenwi ac yn rhoi’r ffurflen i chi neu’n ei hanfon yn uniongyrchol i’r DWP.
Gallwch wneud hyn ar ran rhywun arall heb eu caniatâd. Ni fydd y llythyr am yr arian a ddyfarnwyd yn sôn am ‘reolau arbennig’.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penerfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.
Cwynion
Gallwch gwyno i’r DWP os ydych yn anfodlon gyda’r gwasanaeth a gawsoch.
5. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, gall y swm a gewch o’r Lwfans Gweini godi neu ostwng.
Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r llinell gymorth Lwfans Gweini ar unwaith os:
- mae lefel y cymorth sydd ei angen arnoch neu’ch cyflwr yn newid - bydd angen i chi ddarparu manylion fel a yw’r amseroedd y mae angen help arnoch bob dydd wedi newid
- rydych yn mynd i’r ysbyty neu gartref gofal - bydd angen i chi ddarparu’r cyfeiriad, y dyddiadau rydych wedi bod yno, a sut y telir am eich arhosiad
- mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw
- rydych yn bwriadu gadael y wlad am fwy na 4 wythnos
- rydych yn mynd i’r carchar
- rydych yn newid eich enw, cyfeiriad neu fanylion banc
- rydych am roi’r gorau i dderbyn eich budd-dal
- mae manylion eich meddyg yn newid
- mae eich statws mewnfudo yn newid, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig
Gallech gael eich cymryd i’r llys neu orfod talu cosb os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.
Llinell Gymorth Lwfans Gweini
Ffôn: 0800 731 0122
Ffôn testun: 0800 731 0317
Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0122
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau
Os ydych wedi cael eich talu gormod
Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:
- heb roi gwybod am newid ar unwaith
- wedi rhoi gwybodaeth anghywir
- wedi cael eich gordalu trwy gamgymeriad
Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.