Cael help ariannol gyda thâl statudol

Printable version

1. Yr hyn y gallwch ei adennill

Fel cyflogwr, fel arfer gallwch adennill 92% o Dâl Mamolaeth Statudol, Tadolaeth Statudol, Tâl Mabwysiadu, Tâl Rhieni Mewn Profedigaeth a Thâl Ar y Cyd i Rieni.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch adennill 103% os yw’ch busnes yn gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwr Bach. Cewch hyn os gwnaethoch dalu £45,000 neu lai mewn Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (gan anwybyddu unrhyw ostyngiadau fel Lwfans Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg)) yn y flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf cyn:

  • yr ‘wythnos gymhwysol’ - y 15fed wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) cyn wythnos y dyddiad disgwyl
  • yr ‘wythnos baru’ - yr wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) yr hysbyswyd eich cyflogai ei fod wedi cael ei baru â phlentyn gan yr asiantaeth fabwysiadu
  • y dyddiad ar yr hysbysiad swyddogol os yw’ch cyflogai yn mabwysiadu plentyn o wlad arall
  • yr ‘wythnos gymhwysol’ - yr wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) cyn marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn, ar gyfer Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Sut i adennill

Cyfrifwch faint fyddwch yn ei gael yn ôl gan ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres. I adennill y taliadau, dylech eu cynnwys mewn Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) (EPS) i Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Gallwch ysgrifennu i Swyddfa’r Cyflogwyr TWE i ofyn am ad-daliad os na allwch osod y taliadau yn erbyn rhwymedigaethau’r flwyddyn gyfredol. Ni allwch wneud hyn tan ddechrau’r flwyddyn dreth nesaf.

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

2. Os na allwch fforddio gwneud taliadau

Gallwch wneud cais am i Gyllid a Thollau EF (CThEF) eich talu ymlaen llaw os na allwch fforddio gwneud taliadau statudol.

Sut i wneud cais am daliad ymlaen llaw

Gwnewch gais ar-lein i gael eich talu ymlaen llaw (yn agor tudalen Saesneg) am y canlynol:

  • Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
  • Tâl Tadolaeth Statudol
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • Tâl Statudol ar y cyd i Rieni (ShPP)

Gallwch wneud cais hyd at 4 wythnos cyn eich bod am gael y taliad cyntaf - gall CThEF ddychwelyd eich cais os byddwch yn gwneud cais yn gynharach.

Gellir codi cosb arnoch (o hyd at £3,000 y cyflogai ar gyfer pob blwyddyn dreth) os ydych yn cynnwys gwybodaeth anghywir yn eich cais.

Ad-dalu’ch taliad ymlaen llaw

Anfonwch Grynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg) (EPS) ar gyfer pob cyfnod cyflog rydych yn adennill taliadau statudol - hyd yn oed os cawsoch daliad ymlaen llaw gan CThEF i dalu taliadau statudol i’ch cyflogeion.

Os yw’r taliadau statudol rydych yn eu hadennill yn fwy na’ch didyniadau TWE ar gyfer y mis hwnnw, bydd CThEF yn defnyddio’n awtomatig yr hyn sydd ar ôl i ostwng yr hyn sy’n ddyledus gennych ar eich taliad ymlaen llaw.

Enghraifft

Mae gennych £2,500 mewn didyniadau TWE i’w talu ar ôl anfon eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (yn agor tudalen Saesneg) (FPS).

Rydych yn adennill £3,000 mewn taliadau statudol yn eich Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr.

Bydd eich taliad ymlaen llaw yn gostwng £500 (£3,000 llai £2,500).

Os oes arnoch unrhyw beth o hyd i CThEF ar ddiwedd y cyfnod y mae’r taliad ymlaen llaw yn ei gwmpasu, talwch nhw erbyn dyddiad talu arferol y mis hwnnw.

Cyllid ymlaen llaw ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol

I wneud cais am daliad ymlaen llaw ar gyfer taliad statudol sy’n ymwneud â blwyddyn dreth flaenorol nad ydych wedi’i thalu eto, ysgrifennwch i CThEF.

Cyllid a Thollau EF / HM Revenue and Customs
Trysorlys Corfforaethol / Corporate Treasury
BX9 1BG

Yr hyn i’w gynnwys yn eich cais

Bydd angen yr wybodaeth arnoch ynghylch eich cyfrif CThEF, gan gynnwys eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon a’ch cyfeirnod TWE.

Gallwch ddod o hyd i’r rhain naill ai:

  • yn eich cyfrif CThEF ar-lein
  • ar y llythyr a anfonodd CThEF atoch pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr

Manylion eich cais:

  • enw a rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai rydych yn gwneud y taliadau statudol iddo
  • y dyddiad y dechreuodd y cyflogai gyflogaeth gyda chi (yn achosion TUPE (yn agor tudalen Saesneg) y dyddiad y dechreuodd gyflogaeth gyda’r busnes, nid y dyddiad y gwnaethoch gymryd drosodd)
  • y dyddiadau y mae eich cais yn ymwneud â hwy
  • manylion unrhyw ostyngiad i’ch taliadau misol neu chwarterol rydych wedi’i wneud
  • y cyfanswm y mae gennych hawl i’w adennill
  • y swm rydych yn hawlio cyllid ymlaen llaw ar ei gyfer

Gwybodaeth benodol ar gyfer y taliad statudol perthnasol:

  • ar gyfer tâl mamolaeth a thâl mabwysiadu, y dyddiad geni neu fabwysiadu disgwyliedig
  • ar gyfer tâl tadolaeth, y dyddiad geni neu fabwysiadu gwirioneddol
  • ar gyfer tâl mabwysiadu, p’un a yw’r mabwysiadu yn y DU neu dramor
  • ar gyfer Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol, y dyddiad y mae’r fam neu’r mabwysiadwr ar y cyd yn dychwelyd i’r gwaith ac yn rhoi’r gorau i gael Tâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol

Dylech hefyd gynnwys y canlynol:

  • y dyddiad y dechreuodd eich busnes (yn achosion TUPE (yn agor tudalen Saesneg), y dyddiad y dechreuodd y busnes, nid y dyddiad y gwnaethoch gymryd drosodd)
  • eich manylion cyswllt – er enghraifft enw, rhif ffôn
  • manylion y cyfrif banc yr hoffech i CThEF dalu iddo – dylech gynnwys cod didoli, enw a rhif cyfrif (neu rif rôl y gymdeithas adeiladu)

Os ydych yn ansolfent

Bydd CThEF yn talu Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth, Tâl Mabwysiadu neu Dâl Rhieni Mewn Profedigaeth os oedd eich cyflogeion yn cael y taliadau hyn pan fyddwch yn mynd yn fethdalwr.

Bydd CThEF hefyd yn talu tâl mamolaeth i gyflogeion beichiog sydd wedi pasio’r wythnos gymhwysol ond sydd heb ddechrau cael SMP.

Mae’n rhaid i chi (neu rywun arall fel y gweinyddwr neu’r ddatodwr) gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a rhoi gwybod iddynt eich bod yn fethdalwr.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Ffôn: 0300 200 1900
Dydd Llun i Dydd Gwener, 8:30am i 5pm

Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau

Mae’n rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich cyflogai i gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.