Gwneud cais am brofiant

Printable version

1. Beth yw profiant

Mae profiant yn rhoi hawl gyfreithiol ichi ddelio ag eiddo, arian a meddiannau (‘ystad’) unigolyn ar ôl iddynt farw.

Ni ddylech wneud unrhyw gynlluniau ariannol neu roi eiddo ar y farchnad hyd nes eich bod wedi cael profiant.

Mae’r cyfarwyddyd a’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae yna reolau gwahanol ynglŷn â phrofiant yn Yr Alban a phrofiant yng Ngogledd Iwerddon.

Sut i gael profiant

Mae’n rhaid i chi wneud cais i gael profiant. Cyn gwneud cais, rhaid i chi wirio:

  • eich bod angen profiant
  • eich bod yn gymwys i wneud cais
  • a oes Treth Etifeddiant i’w thalu

Gwirio a oes angen profiant

Cysylltwch â’r sefydliadau ariannol yr oedd yr unigolyn a fu farw yn eu defnyddio (er enghraifft, banc a chwmni morgais) i gael gwybod a oes angen profiant arnoch i gael mynediad at ei asedau. Mae gan bob sefydliad ei reolau ei hun.

Efallai na fydd arnoch angen profiant:

  • os mai cynilion yn unig oedd gan y sawl a fu farw
  • os oedd y sawl a fu farw yn berchen ar gyfranddaliadau neu arian gydag eraill - bydd y rhain yn trosglwyddo’n awtomatig i’r perchnogion sydd wedi goroesi oni bai eu bod wedi cytuno fel arall
  • os oedd y sawl a fu farw yn berchen ar dir neu eiddo fel ‘tenantiaid ar y cyd’ gydag eraill - bydd y rhain yn trosglwyddo’n awtomatig i’r perchnogion sydd wedi goroesi

Gwirio a allwch wneud cais am brofiant

Dim ond rhai pobl all wneud cais am brofiant. Mae pwy all wneud cais yn dibynnu ar p’un a oes ewyllys ai peidio.

Os oes ewyllys, gall yr ysgutorion a enwir ynddi wneud cais.

Os nad oes ewyllys, gall y perthynas byw agosaf wneud cais.

Penderfynu gwerth yr ystad a chyfrifo Treth Etifeddiant

Cyn gwneud cais am brofiant, mae’n rhaid ichi ganfod a oes angen ichi dalu Treth Etifeddiant.

I wneud hyn, bydd angen ichi amcangyfrif gwerth ystad yr ymadawedig. Hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu, byddwch angen gwybod gwerth yr ystad fel rhan o’ch cais am brofiant.

Gwneud cais am brofiant

Gallwch wneud cais am brofiant ar-lein neu drwy’r post ar ôl i chi benderfynu gwerth yr ystad.

Cymorth a chyngor

Os nad ydych wedi gwneud cais eto a bod gennych gwestiwn ynghylch gwneud cais am brofiant, cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Ar gau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Atal cais am brofiant a wnaed gan rywun arall

Gallwch herio cais am brofiant (‘cyflwyno cafeat’), cyn iddo gael ei ganiatáu. Er enghraifft, os oes anghydfod ynghylch pwy all wneud cais am brofiant neu a oes ewyllys.

2. Os oes ewyllys

Gallwch wneud cais am brofiant os cewch eich enwi’n ysgutor naill ai yn yr ewyllys neu mewn diweddariad iddi (‘codisil’).

Fel arfer, bydd y sawl a fu farw wedi dweud wrthych os ydych chi’n ysgutor.

Dim ond os cewch eich enwi fel buddiolwr yn yr ewyllys hefyd y byddwch yn etifeddu asedau (er enghraifft, arian neu eiddo).

Cyn ichi wneud cais am brofiant, mae angen ichi amcangyfrif gwerth ystad yr ymadawedig. Byddwch angen yr amcangyfrif hwn pan fyddwch yn gwneud cais.

Dod o hyd i’r ewyllys wreiddiol

Bydd angen i chi anfon yr ewyllys wreiddiol gyda’ch cais am brofiant - ni allwch ddefnyddio llungopi. Bydd y gofrestrfa brofiant yn cadw’r ewyllys a bydd yn dod yn gofnod cyhoeddus.

Dylai’r sawl a fu farw fod wedi dweud wrth yr holl ysgutorion ble i ddod o hyd i’r ewyllys wreiddiol ac unrhyw ddiweddariadau, er enghraifft:

Ceisiwch gymorth gan Gyngor ar Bopeth neu ymarferydd profiant (megis cyfreithiwr) os na allwch ddeall ewyllys.

Os oes mwy nag un ewyllys, anfonwch y ddiweddaraf. Peidiwch â dinistrio unrhyw gopïau o ewyllysiau cynharach cyn ichi gael profiant.

Os yw’r ewyllys wreiddiol wedi mynd ar goll, efallai y gallwch wneud cais am brofiant drwy ddefnyddio ffurflen PA13.

Os oes mwy nag un ysgutor

Os oes mwy nag un unigolyn wedi’i enwi’n ysgutor, rhaid i bob un ohonoch gytuno pwy sy’n gwneud y cais am brofiant.

Gellir enwi hyd at 4 ysgutor ar y cais.

Os mai dim ond un ysgutor sydd wedi’i enwi ar y cais bydd angen iddynt brofi eu bod wedi ceisio cysylltu â’r holl ysgutorion a enwir yn yr ewyllys cyn gwneud cais.

Os ydych chi’n cael trafferth dod o hyd i’r ysgutorion eraill, gallwch gysylltu â Chanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd.

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Ar gau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Ni all Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd helpu gydag anghydfod rhwng ysgutorion. Bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd arall o ddod i gytundeb - gallai hyn olygu cael cyngor cyfreithiol.

Os nad ydych eisiau bod yn ysgutor

Gallwch ildio’ch hawl i wneud cais am brofiant neu gallwch benodi rhywun arall i wneud cais ar eich rhan.

Cadw’r hawl i wneud cais yn nes ymlaen

Os enwir mwy nag un ysgutor yn yr ewyllys, gallwch ddewis peidio â gwneud cais nawr ond dal gafael ar yr hawl i wneud cais yn nes ymlaen. Gelwir hyn yn ‘cadw’r hawl’.

Dywedwch wrth yr unigolyn sy’n gwneud y cais am brofiant eich bod yn cadw’r hawl. Bydd angen ichi wneud hynny’n ysgrifenedig.

Rhoi’r gorau i’ch hawl i wneud cais

Llenwch ffurflen PA15 i roi’r gorau i’ch hawl i wneud cais yn barhaol. Gelwir hyn yn ‘ymwrthod’.

Penodi rhywun i wneud cais ar eich rhan

Gallwch benodi rhywun i wneud cais ar eich rhan:

  • os mai chi yw’r unig ysgutor a enwir yn yr ewyllys
  • os oes ysgutorion eraill wedi’u henwi yn yr ewyllys, ond mae pob un ohonynt naill ai’n ‘cadw’r hawl’ neu wedi rhoi’r gorau i’w hawl i wneud cais yn barhaol

Llenwch ffurflen PA11 i benodi rhywun i wneud cais ar eich rhan.

Fel arall, gallwch benodi atwrnai i wneud cais ar eich rhan gan ddefnyddio atwrneiaeth barhaus wedi’i llofnodi (EPA) neu atwrneiaeth arhosol gofrestredig (LPA).

Os nad yw ysgutor yn gallu gwneud cais

Gwiriwch pwy all wneud cais am brofiant os oes ysgutor wedi marw neu os nad yw’n gallu gwneud cais am fod ganddo gyflwr neu nam iechyd meddwl.

Os na all yr ysgutor wneud cais oherwydd bod ganddynt gyflwr neu nam iechyd meddwl, bydd angen i chi gael gweithiwr meddygol proffesiynol, fel meddyg, i lenwi ffurflen PA14 cyn i unrhyw un wneud cais.

Darllenwch yr ewyllys i wirio:

  • a yw’r ysgutor wedi enwi rhywun arall
  • a yw’r amodau wedi’u bodloni er mwyn iddynt allu enwi rhywun arall

Yna gall y sawl dan sylw wneud cais ynghyd ag unrhyw ysgutorion eraill.

Os nad oes rhywun arall dan sylw ond bod ysgutorion eraill a all wneud cais, gall yr ysgutorion eraill wneud cais ar unwaith.

Os nad oes unrhyw ysgutorion eraill ac nad oes unrhyw un arall dan sylw

Bydd angen i unigolyn arall ‘sydd â hawl’ wneud cais. Os bu farw’r ysgutor, gall unrhyw fuddiolwr o’r ewyllys wneud cais.

Os oes gan yr ysgutor gyflwr neu nam iechyd meddwl, gall un o’r canlynol wneud cais:

  • dirprwy a benodwyd gan y llys ar gyfer yr ysgutor
  • rhywun sydd ag atwrneiaeth dros yr ysgutor, os nad oes dirprwy
  • buddiolwr yr ewyllys, os nad oes dirprwy neu unrhyw un sydd ag atwrneiaeth

Dylech gael cyngor cyfreithiol os nad ydych yn siŵr pwy all wneud cais.

3. Os nad oes ewyllys

Os na adawodd yr unigolyn a fu farw ewyllys, gall yr etifedd sydd â’r hawl gryfaf wneud cais i fod yn weinyddwr yr ystad.

Dyma’r perthynas byw agosaf - fel arfer gŵr, gwraig neu bartner sifil (gan gynnwys os ydych wedi gwahanu) ac yna unrhyw blant sy’n 18 oed neu’n hŷn (gan gynnwys plant a fabwysiadwyd yn gyfreithiol ond nid llys-blant).

Defnyddiwch y gyfrifiannell etifeddiant i benderfynu pwy yw’r perthynas agosaf os nad oes gŵr, gwraig, partner sifil na phlant.

Ni allwch wneud cais os mai chi oedd partner y sawl a fu farw ond nad oeddech yn briod neu’n bartner sifil iddo/iddi pan fu farw.

Cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd os oes angen mwy o help arnoch i benderfynu pwy all weinyddu’r ystad.

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am i 4.30pm
Ar gau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Y gyfraith sy’n penderfynu pwy fydd yn etifeddu asedau (er enghraifft, arian neu eiddo) os nad oes ewyllys. Defnyddiwch y gyfrifiannell etifeddiaeth i gyfrifo pwy fydd yn etifeddu.

Cyn i chi wneud cais am brofiant, bydd angen i chi amcangyfrif gwerth ystad yr unigolyn a fu farw. Byddwch angen nodi hwn pan fyddwch yn gwneud y cais.

Os nad ydych eisiau gwneud cais

Os mai chi yw’r sawl sydd â’r hawl fwyaf i weinyddu’r ystad ond nad ydych eisiau gwneud hynny, gallwch naill ai benodi rhywun arall i weithredu ar eich rhan neu roi’r gorau i’ch hawl yn barhaol i weinyddu’r ystad.

Penodi rhywun i weinyddu’r ystad ar eich rhan

Llenwch ffurflen PA12 i ganiatáu i hyd at 4 unigolyn gael ‘atwrneiaeth’. Mae hyn yn golygu y gallant wneud cais am brofiant ar eich rhan a gweinyddu’r ystad ar eich rhan. Gallwch wneud cais o hyd am brofiant eich hun yn nes ymlaen os ydych eisiau cymryd atwrneiaeth yn ôl.

Gallwch hefyd benodi rhywun sy’n defnyddio atwrneiaeth arhosol gofrestredig (LPA) neu atwrneiaeth barhaus wedi’i llofnodi (EPA).

Rhoi’r gorau i’ch hawl i weinyddu’r ystad

Os oes gan y sawl a fu farw blant a’ch bod yn ŵr, yn wraig neu’n bartner sifil iddo/iddi, llenwch ffurflen PA16. Ar ôl hynny:

  • os yw’r plant i gyd yn 18 oed neu’n hŷn, bydd angen i o leiaf un ohonynt wneud cais i fod yn weinyddwr
  • os yw rhai neu bob un o’r plant o dan 18 oed, bydd angen i bobl eraill wneud cais - cysylltwch â Chofrestrfa Brofiant Dosbarth Lerpwl i gael gwybod pwy fydd angen gwneud cais

Ym mhob sefyllfa arall, siaradwch ag ymarferydd profiant (fel cyfreithiwr) yn lle hynny. Darllenwch ganllawiau gan Money Helper am ddefnyddio ymarferydd profiant.

4. Cyn ichi wneud cais

Cyn gwneud cais am brofiant bydd angen i chi wneud y canlynol.

  1. Gwirio bod angen profiant a’ch bod yn gallu gwneud cais.

  2. Amcangyfrif gwerth yr ystad at bwrpas Treth Etifeddiant. Hyd yn oed os nad oes Treth Etifeddiant yn ddyledus, bydd angen ichi amcangyfrif gwerth yr ystad fel rhan o’ch cais am brofiant.

  3. Canfod a ydych angen riportio manylion llawn yr ystad i Gyllid a Thollau EF (HMRC). Os nad oedd rhaid i chi anfon y manylion llawn, gelwir hyn yn ‘ystad eithriedig’.

  4. Os oes angen ichi dalu Treth Etifeddiant, dechreuwch wneud y taliadau angenrheidiol. Bydd HMRC yn anfon llythyr atoch gyda chod y mae’n rhaid ichi ddefnyddio i wneud cais am brofiant. Gallwch wneud cais am brofiant ar unwaith os yw’n ystad eithriedig.

Prisio ‘ystad eithriedig’ ar gyfer profiant

Bydd angen i chi amcangyfrif gwerth yr ystad fel rhan o’ch cais am brofiant.

Defnyddiwch y gyfrifiannell Treth Etifeddiant (IHT) ar-lein i amcangyfrif gwerth yr ystad. Bydd yn rhoi 3 o’r 5 darn o wybodaeth rydych eu hangen ar gyfer eich cais am brofiant:

  • gwerth gros yr ystad ar gyfer IHT
  • gwerth net yr ystad ar gyfer IHT
  • gwerth net cymwys ar gyfer IHT

Defnyddiwch y gwerthoedd hyn i gyfrifo’r 2 darn arall o wybodaeth fydd ei hangen arnoch:

  • gwerth gros ar gyfer profiant
  • gwerth net ar gyfer profiant

Sut i gyfrifo’r gwerth gros ar gyfer profiant

Cyfrifwch beth yw gwerth gros yr ystad at ddibenion Treth Etifeddiant ac yna tynnwch bob un o’r gwerthoedd sy’n dilyn o’r swm hwnnw:

  • asedau yr oedd y sawl a fu farw yn berchen arnynt gyda rhywun arall (‘asedau ar y cyd’) ac sy’n cael eu trosglwyddo i’r perchennog sy’n goroesi
  • rhoddion a wnaed yn y 7 mlynedd cyn iddynt farw
  • asedau yr oedd ganddynt dramor (er enghraifft, eiddo mewn gwlad dramor neu arian mewn cyfrifon banc tramor)
  • asedau mewn ymddiriedolaeth

Sut i gyfrifo’r gwerth net ar gyfer profiant

Tynnwch werth unrhyw ddyledion a oedd gan yr unigolyn a fu farw a chost yr angladd o’r gwerth gros ar gyfer profiant.

Peidiwch â chynnwys y dyledion a oedd ganddynt ar y cyd â rhywun arall, er enghraifft morgais ar eiddo ar y cyd.

Cael cymorth

Os nad ydych yn siwr a ddylech gynnwys rhywbeth yn y gwerth, gallwch ddarllen y canllawiau ar yr hyn sy’n cael ei ystyried yn rhodd.

Os ydych angen adrodd am fanylion llawn yr ystad i HMRC

Llenwch ac anfonwch ffurflen IHT400 a ffurflen IHT421 i HMRC. Fe gewch lythyr o fewn 20 diwrnod gwaith y byddwch angen cyn ichi wneud cais am brofiant.

Fel arfer, rhaid i chi dalu o leiaf rhywfaint o dreth cyn i chi gael profiant. Gallwch hawlio’r dreth yn ôl o’r ystad, os ydych yn ei thalu o’ch cyfrif banc eich hun.

Beth fydd ei angen arnoch i wneud cais

Byddwch angen y dystysgrif marwolaeth neu dystysgrif marwolaeth interim gan y crwner. Hefyd, byddwch angen yr ewyllys wreiddiol os oes un ar gael.

5. Ffioedd

Efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi i wneud cais am brofiant. Bydd yr angen i dalu ffi neu beidio yn dibynnu ar werth yr ystad.

Os yw gwerth yr ystad dros £5,000, y ffi gwneud cais yw £300.

Ni chodir ffi os yw gwerth yr ystad yn £5,000 neu’n llai.

Gallwch archebu copïau ychwanegol o’r ddogfen profiant am £1.50 yr un. Mae hyn yn golygu y gallwch eu hanfon at sefydliadau gwahanol ar yr un pryd.

Os yw profiant eisoes wedi’i ganiatáu, mae gwneud ail gais yn costio £20. Er enghraifft, os ydych am wneud cais fel ysgutor ar ôl ‘cadw’r hawl’ ar y cais cyntaf. Bydd rhaid i chi dalu’r ffi hyd yn oed os yw gwerth yr ystad yn £5,000 neu’n llai.

Cael help i dalu ffioedd

Mae’n bosibl y gallwch gael help i dalu’r ffi profiant a ffioedd eraill y llys os ydych ar incwm isel neu eich bod ar fudd-daliadau penodol.

Gallwch wneud cais ar-lein am help i dalu ffioedd neu lenwi ffurflen EX160 cyn gwneud cais am brofiant.

Os byddwch yn gwneud cais am brofiant ar-lein, bydd yn rhaid ichi dalu’r ffi lawn wrth wneud cais am brofiant. Byddwch yn cael ad-daliad yn nes ymlaen os bydd eich cais am help i dalu ffioedd yn llwyddiannus.

Ar ôl i chi wneud cais ar-lein am help i dalu ffioedd

Anfonwch eich rhif cyfeirnod help i dalu ffioedd ar-lein:

  • gyda ffurflen PA1P neu PA1A os ydych am wneud cais am brofiant drwy’r post (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen)
  • gyda’ch dogfennau ategol, fel yr ewyllys, os ydych yn gwneud cais am brofiant ar-lein (rhoddir y cyfeiriad i chi yn eich cais)
  • dros e-bost i’r tîm help i dalu ffioedd, os ydych yn gwneud cais am brofiant drwy’r post neu ar-lein - rhowch ‘HWF/[enw llawn yr ymadawedig]/[dyddiad y farwolaeth]/cais am brofiant’ ym mlwch testun yr e-bost

Tîm help i dalu ffioedd profiant
probatehelpwithfees@justice.gov.uk

Os ydych yn gwneud cais yn defnyddio ffurflen EX160

Llenwch ffurflen EX160 a’i hanfon:

  • drwy’r post i’r gofrestrfa brofiant genedlaethol yn Newcastle – rhowch nodyn yn dweud eich bod yn gwneud cais am brofiant
  • drwy e-bost at y tîm help i dalu ffioedd - rhowch ‘HWF/[enw llawn yr ymadawedig]/[dyddiad y farwolaeth]/cais am brofiant’ yn llinell testun yr e-bost

Tîm help i dalu ffioedd profiant
probatehelpwithfees@justice.gov.uk

6. Gwneud cais am brofiant

Gallwch wneud cais am brofiant eich hun ar-lein neu drwy’r post. Gall hyn fod yn rhatach na thalu am ymarferydd profiant (fel cyfreithiwr) i wneud cais ar eich rhan.

Darllenwch ganllawiau gan Money Helper ynghylch defnyddio ymarferydd profiant i gael gwybodaeth am gyflogi gweithiwr cyfreithiol proffesiynol.

Fel arfer, byddwch yn cael y grant profiant cyn pen 16 wythnos ar ôl i chi gyflwyno eich cais. Gall gymryd mwy o amser os oes angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol

Mae’r cyfarwyddyd a’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gwneud cais am brofiant ar-lein

Mae’n rhaid eich bod wedi amcangyfrif gwerth yr ystad i ddarganfod a oes Treth Etifeddiant i’w thalu cyn y gallwch wneud cais am brofiant.

Os ydych wedi anfon manylion llawn yr ystad at Gyllid a Thollau EF (HMRC), cyn gwneud cais am brofiant mae’n rhaid i chi:

  • ddechrau talu Treth Etifeddiant, os yw hynny’n berthnasol
  • aros i HMRC anfon llythyr fydd yn cynnwys cod atoch cyn i chi wneud cais

Gwneud cais am brofiant

Dychwelyd i’ch cais neu olrhain eich cais ar-lein

Mewngofnodwch i’r gwasanaeth profiant i:

  • parhau â chais sy’n bod eisoes
  • olrhain cynnydd cais
  • gweld ceisiadau sydd wedi’u cwblhau

Os ydych angen help i wneud cais ar-lein

Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar y math o help sydd ei angen arnoch.

Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cyfarwyddyd ar sut i wneud cais

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Cymraeg: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu os nad ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd

We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Wedi cau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau

Gwneud cais am brofiant drwy’r post

Mae’r ffurflen y mae angen i chi ei llenwi yn dibynnu ar p’un a adawodd y sawl a fu farw ewyllys ai peidio.

Os oes ewyllys, llenwch ffurflen gais PA1P.

Os nad oes ewyllys, llenwch ffurflen gais PA1A.

Os ydych wedi anfon manylion llawn yr ystad at HMRC, cyn gwneud cais am brofiant mae’n rhaid i chi:

  • ddechrau talu Treth Etifeddiant, os yw hynny’n berthnasol
  • aros i HMRC anfon llythyr fydd yn cynnwys cod atoch cyn i chi wneud cais

Mae’n cymryd mwy o amser i brosesu ceisiadau papur na cheisiadau ar-lein. Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i wneud cais am brofiant os gallwch wneud hynny.

7. Ar ôl i chi wneud cais

Bydd y Gwasanaeth Profiant yn adolygu eich cais. Gallwch olrhain cynnydd eich cais am brofiant ar-lein.

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gymeradwyo, bydd yr ewyllys ac unrhyw ychwanegiadau iddi (‘codisiliau’) yn cael eu cadw gan y gofrestrfa brofiant ac yn dod yn gofnod cyhoeddus. Os byddwch yn anfon y dystysgrif marwolaeth, yna bydd yn cael ei dychwelyd i chi.

Beth fyddwch chi’n ei gael

Fe gewch ddogfen sy’n eich galluogi i ddechrau delio â’r ystad. Bydd yn un o’r canlynol:

  • ‘grant profiant’ - os gadawodd yr unigolyn a fu farw ewyllys
  • ‘llythyrau gweinyddu gyda’r ewyllys wedi’i hatodi’ - os nad yw’r ewyllys yn enwi ysgutor neu os na all yr ysgutor a enwir wneud cais
  • ‘llythyrau gweinyddu’ – os na adawodd yr unigolyn a fu farw ewyllys

Fel arfer, byddwch yn cael y grant profiant neu lythyrau gweinyddu cyn pen 16 wythnos ar ôl i chi gyflwyno eich cais. Gall gymryd mwy o amser os oes angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

Os gwnaethoch archebu copïau o’ch dogfennau profiant i’w defnyddio y tu allan i’r DU, bydd y rhain yn cymryd mwy o amser i gyrraedd na’r copi ar gyfer y DU.

Os oes unrhyw beth o’i le gyda’r ddogfen brofiant, anfonwch y ddogfen yn ôl i gofrestra brofiant y dosbarth a nodir ar y grant neu’r llythyrau.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Unwaith y bydd gennych y grant profiant (neu lythyrau gweinyddu) gallwch ddechrau delio â’r ystad.

Anfonwch gopïau o’r ddogfen brofiant i’r sefydliadau sy’n dal asedau’r sawl a fu farw, er enghraifft eu banc.