Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Hydref 2022

Cyhoeddwyd 14 December 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Hydref 2022

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £223,824

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 11.8%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.1%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 164.4

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Tachwedd 2022 am 9.30am dydd Mercher 18 Ionawr 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 11.8% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022, gan gynyddu’n arafach na phrisiau tai cyfartalog yn y DU (12.6%) ac i lawr o 12.9% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.1% rhwng Medi a Hydref 2022, o’i gymharu â chynnydd o 1.0% yn ystod yr un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Medi a Hydref 2022.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 83.6% yng Nghymru a chan 70.7% yn y DU.

Yng Nghymru, dangosodd tai teras y newid canrannol blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 13.4% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022 i £175,000. Gwelwyd y newid canrannol blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 8.2% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022, i’r pris cyfartalog o £139,000.

Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022. Roedd y newid canrannol blynyddol mwyaf ym Merthyr Tudful, lle cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 19.7% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022 i £161,000. Roedd y newid canrannol blynyddol lleiaf ar Ynys Môn, lle cynyddodd prisiau tai cyfartalog gan 6.6% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022 i £238,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 11.8% yn y flwyddyn hyd at Hydref 2022, i lawr o 12.9% ym Medi 2022.

Awdurdodau lleol Hydref 2022 Hydref 2021 Gwahaniaeth
Abertawe £199,870 £179,265 11.5%
Blaenau Gwent £136,727 £117,903 16%
Bro Morgannwg £315,192 £277,292 13.7%
Caerdydd £268,330 £239,624 12%
Caerffili £192,019 £164,908 16.4%
Casnewydd £234,975 £216,927 8.3%
Castell-nedd Port Talbot £170,011 £145,877 16.5%
Ceredigion £260,369 £232,082 12.2%
Conwy £218,756 £200,682 9%
Gwynedd £215,859 £193,374 11.6%
Merthyr Tudful £160,511 £134,086 19.7%
Pen-y-bont ar Ogwr £218,096 £190,928 14.2%
Powys £268,531 £233,616 14.9%
Rhondda Cynon Taf £162,142 £140,864 15.1%
Sir Benfro £248,396 £217,049 14.4%
Sir Ddinbych £212,865 £180,202 18.1%
Sir Fynwy £359,922 £320,677 12.2%
Sir y Fflint £215,618 £198,152 8.8%
Sir Gaerfyrddin £213,885 £186,389 14.8%
Tor-faen £203,155 £182,936 11.1%
Wrecsam £212,542 £187,238 13.5%
Ynys Môn £237,831 £223,173 6.6%
Cymru £223,824 £200,151 11.8%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Hydref 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy lle mai £360,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £137,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Hydref 2022 Hydref 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £343,145 £310,866 10.4%
Tŷ pâr £217,205 £193,319 12.4%
Tŷ teras £175,214 £154,502 13.4%
Fflat neu fflat deulawr £138,647 £128,085 8.2%
Holl £223,824 £200,151 11.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Awst 2022 Awst 2021
Abertawe 243 250
Blaenau Gwent 71 100
Bro Morgannwg 162 214
Caerdydd 286 344
Caerffili 155 214
Casnewydd 137 169
Castell-nedd Port Talbot 139 165
Ceredigion 62 79
Conwy 123 164
Gwynedd 116 128
Merthyr Tudful 51 57
Pen-y-bont ar Ogwr 161 180
Powys 120 155
Rhondda Cynon Taf 233 352
Sir Benfro 123 195
Sir Ddinbych 102 119
Sir Gaerfyrddin 200 254
Sir Fynwy 84 117
Sir y Fflint 155 217
Tor-faen 85 117
Wrecsam 110 143
Ynys Môn 43 99
Cymru 2,961 3,832

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Awst 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Awst 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Awst 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 83.6% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 1.2% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Awst 2022.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Awst 2018 4,811
Awst 2019 4,546
Awst 2020 2,525
Awst 2021 3,832
Awst 2022 2,961

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Awst 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £313,397 2.7% 25.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £214,280 0.6% 13.6%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Hydref 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £193,018 0.1% 12.4%
Cyn berchen-feddiannydd £260,059 0.0% 11.2%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Medi 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £215,998 -0.2% 11.1%
Morgais £228,335 0.2% 12.1%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Awst 2022
Cymru 11

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288