Canllawiau

Enghreifftiau o e-byst gwe-rwydo, galwadau ffôn a negeseuon testun amheus sy’n ymwneud â CThEF

Diweddarwyd 22 April 2024

I helpu ein hymchwiliadau, dylech roi gwybod i ni am bob e-bost gwe-rwydo, galwad ffôn a neges destun amheus sy’n ymwneud â CThEF.

Hyd yn oed os cewch yr un cysylltiadau twyllodrus (neu rai tebyg) yn aml, rhowch wybod amdanynt.

Peidiwch ag agor atodiadau na chlicio ar unrhyw gysylltiadau mewn e-bost neu neges destun annisgwyl — gallant gynnwys meddalwedd faleisus neu gallant eich cyfeirio at wefan gamarweiniol.

Dilëwch unrhyw e-byst neu negeseuon testun unwaith y byddwch wedi rhoi gwybod amdanynt.

Codau QR

Mae CThEF yn defnyddio codau QR yn ein llythyrau a’n gohebiaeth. Bydd y cod QR fel arfer yn mynd â chi i arweiniad ar GOV.UK. Byddwn yn dweud wrthych os yw’r cod QR yn mynd â chi i unrhyw le arall.

Ni fyddwch byth yn cael eich cymryd i dudalen lle mae’n rhaid i chi fewnbynnu gwybodaeth bersonol.

Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif CThEF, mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio codau QR i’ch ailgyfeirio. Er enghraifft, i fynd â chi i dudalen mewngofnodi’ch banc.

Os ydym yn defnyddio codau QR mewn gohebiaeth, byddwch yn gallu eu gweld ar dudalen cysylltiadau gwirioneddol CThEF.

Er mwyn helpu gyda’r frwydr yn erbyn sgamiau gwe-rwydo, anfonwch unrhyw e-byst amheus sy’n cynnwys codau QR i phishing@hmrc.gov.uk neu gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk ac yna dilëwch nhw.

Negeseuon testun

Mae CThEF yn anfon negeseuon testun at rai o’n cwsmeriaid.

Yn y neges destun, efallai y byddwn yn cynnwys cysylltiad i wybodaeth ar GOV.UK neu i wasanaeth sgwrs dros y we CThEF.

Ni fydd CThEF byth yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol wrth anfon negeseuon testun atoch.

Rydym yn eich cynghori i beidio ag agor unrhyw gysylltiadau, nac ymateb i unrhyw negeseuon testun, sy’n honni eu bod oddi wrth CThEF, ac sy’n cynnig ad-daliad treth yn gyfnewid am fanylion personol neu ariannol.

Er mwyn helpu gyda’r frwydr yn erbyn sgamiau gwe-rwydo, dylech anfon unrhyw negeseuon testun amheus i 60599 (costau rhwydwaith yn berthnasol), neu anfonwch e-bost i gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk neu phishing@hmrc.gov.uk ac yna ewch ati i ddileu’r negeseuon testun hynny.

Delwedd sy’n dangos enghraifft o neges destun CThEF dwyllodrus sy’n ceisio’ch annog i glicio ar hypergysylltiad a nodi manylion personol.

Sgamiau cysylltiedig â choronafeirws (COVID-19)

Sgamiau drwy neges destun

SMS ‘Ad-daliad COVID-19’

Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau amrywiol drwy neges destun sy’n cynnig ad-daliad treth CThEF mewn cysylltiad â phandemig COVID-19.

Peidiwch ag ateb y neges, a pheidiwch ag agor unrhyw gysylltiadau ynddi.

Sgamiau yn ymwneud ag ad-daliad treth

E-byst

Ni fydd CThEF byth yn anfon hysbysiadau am ad-daliadau treth drwy e-bost.

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • clicio ar gysylltiad er mwyn ymweld â gwefan y cyfeirir ati mewn e-bost ‘ad-daliad treth’

  • agor unrhyw atodiadau

  • datgelu unrhyw wybodaeth bersonol neu wybodaeth am daliadau

Mae’n bosibl y bydd twyllwyr yn ffugio cyfeiriad e-bost go iawn neu’n newid yr ‘enw dangos’ i wneud iddo ymddangos yn ddilys. Os ydych yn ansicr, anfonwch y neges ymlaen atom ac yna’i dileu.

Enghraifft o e-bost gwe-rwydo a gwefan gamarweiniol


Delwedd sy’n dangos enghraifft o e-bost twyllodrus gyda hypergysylltiad sy’n mynd â chi i wefan we-rwydo.


Delwedd sy’n dangos enghraifft o wefan we-rwydo sydd wedi’i chynllunio i’ch twyllo i ddatgelu gwybodaeth bersonol.

Galwadau ffôn amheus

Mae CThEF yn ymwybodol o sgam galwadau ffôn awtomataidd a fydd yn dweud wrthych fod CThEF yn dwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn ac y dylech wasgu 1 er mwyn siarad â gweithiwr achos a gwneud taliad. Sgam yw hon ac y dylech roi’r ffôn i lawr yn syth.

Efallai y bydd galwadau sgam eraill yn cyfeirio at dwyll rhif Yswiriant Gwladol neu’n cynnig ad-daliad treth ac yn gofyn i chi roi’ch manylion banc neu gerdyn credyd. Os nad ydych yn siŵr pwy sy’n ffonio, rydym yn argymell na ddylech siarad â phwy bynnag sydd ar ben arall y ffôn.

Os ydych wedi dioddef sgam a cholli arian, rhowch wybod am hyn i Action Fraud.

Defnyddir nifer o wahanol rifau ffôn i wneud galwadau gwe-rwydo. I’n helpu i ymchwilio i alwadau ffôn amheus, rhannwch fanylion galwadau yn ein ffurflen rhoi gwybod am alwad ffôn amheus (yn Saesneg). Rhowch y canlynol:

  • dyddiad yr alwad

  • y rhif ffôn a ddefnyddiwyd

  • cynnwys yr alwad

Negeseuon WhatsApp

Os ydych chi wedi tanysgrifio i sianel Llywodraeth y DU ar WhatsApp (yn Saesneg), byddwch yn cael diweddariadau a allai gynnwys negeseuon atgoffa achlysurol sy’n gysylltiedig â threth. Bydd y rhain yn hysbysiadau neges sengl ac ni fyddwch yn gallu ymateb.

Ni fydd CThEF yn cysylltu â chi am unrhyw reswm arall gan ddefnyddio WhatsApp.

Sgamiau dros y cyfryngau cymdeithasol

Mae CThEF yn ymwybodol bod negeseuon uniongyrchol yn cael eu hanfon at gwsmeriaid drwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Canfuwyd sgam ar X (Twitter yn flaenorol) yn ddiweddar yn cynnig ad-daliad treth.

Nid yw’r negeseuon hyn yn dod o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol dilys CThEF — sgam ydynt. Ni fyddwn byth yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i wneud y canlynol:

  • cynnig ad-daliad treth

  • gofyn am wybodaeth bersonol neu ariannol

Os nad ydych yn siŵr pwy sy’n berchen ar y cyfrif cyfryngau cymdeithasol, anfonwch y manylion drwy e-bost i: phishing@hmrc.gov.uk neu gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a’i anwybyddu.

Cwmnïau ad-dalu

Mae CThEF yn ymwybodol bod cwmnïau’n anfon e-byst a negeseuon testun yn cynnig hawlio ad-daliadau treth ar eich rhan, fel arfer am ffi. Nid yw’r cwmnïau hyn yn gysylltiedig â CThEF mewn unrhyw ffordd.

Dylech ddarllen y ‘print mân’ a’r ymwadiadau cyn defnyddio’u gwasanaethau.

Sgamiau tollau tramor CThEF

Mae CThEF yn ymwybodol o sgam dros neges destun ac e-bost sy’n rhoi gwybod i’r cwsmer fod yn rhaid iddynt dalu tollau tramor i gael parsel gwerthfawr nad yw’n bodoli.

Ni ddylid cymysgu’r sgamiau hyn â newidiadau a gyflwynwyd ar 1 Ionawr 2021, yn cynghori y gallai fod angen i rai defnyddwyr yn y DU sy’n prynu nwyddau o fusnesau yn yr UE dalu taliadau tollau pan fydd eu nwyddau’n cyrraedd. Dysgwch ragor am y rheolau newydd hyn ar GOV.UK.

Os ydych yn amau, rydym yn eich cynghori i beidio ag ymateb i unrhyw beth amheus, ond i gysylltu â CThEF yn phishing@hmrc.gov.uk neu gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk ar unwaith ac i ddarllen arweiniad CThEF ar we-rwydo a sgamiau (yn Saesneg).