Cydraddoldeb ac amrywiaeth


Bob dydd, mae CThEF yn datblygu ac yn darparu polisïau a gwasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl ar draws y wlad a thu hwnt. Mae ein gweledigaeth, gwerthoedd, amcanion strategol, a Siarter CThEF yn disgrifio’r math o sefydliad rydym yn gobeithio bod – un sy’n trin cwsmeriaid a chydweithwyr yn deg, sy’n diogelu’r gymdeithas rhag niwed ac sy’n gwneud CThEF yn lle gwych i weithio ynddo.

Ein cyfrifoldebau

Fel awdurdod cyhoeddus sydd heb ei ddatganoli, mae gan CThEF gyfrifoldebau cydraddoldeb statudol yng Nghymru, Lloegr ac yn yr Alban o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac yng Ngogledd Iwerddon o dan Adran 75 o Ddeddf Gogledd Iwerddon 1998. Caiff ein cydymffurfiad ei fonitro gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a gan y Comisiwn Cydraddoldeb ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Amcanion cydraddoldeb CThEF 2024 i 2028

I’n helpu i gyflawni hyn – ac i fodloni ein cyfrifoldebau statudol – rydym wedi gosod 3 amcan cydraddoldeb ar gyfer 2024 i 2028. Mae’r rhain yn disgrifio ein gwaith i ddod yn sefydliad sy’n fwy cynhwysol, sy’n dangos mwy o barch ac sy’n fwy cynrychiadol. Maen nhw’n berthnasol i’n gwaith gyda chwsmeriaid ac fel cyflogwr. Maen nhw’n cynrychioli pob agwedd ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Cynrychiadol

Byddwn yn adeiladu ac yn cadw gweithlu amrywiol a chynhwysol, sy’n adlewyrchu’r holl gymunedau rydym yn eu gwasanaethu ar draws pob gradd, grŵp a rhanbarth. Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • cynyddu cyfran y cydweithwyr sy’n datgan eu nodweddion amrywiaeth yn wirfoddol yn ein system Adnoddau Dynol ar-lein i 85%, er mwyn gallu dadansoddi cydraddoldeb profiad a chanlyniadau cyflogeion yn fwy cywir

  • cynyddu amrywiaeth ar ein lefelau uchaf, a fesurir drwy gyfraddau cynrychiolaeth o ran menywod, lleiafrifoedd ethnig ac anabl, a chydweithwyr Du ac Asiaidd mewn rolau Gradd 7, Gradd 6 a rolau yn yr Uwch Wasanaeth Sifil

  • sicrhau bod ein prosesau hyrwyddo a recriwtio ar sail teilyngdod, wedi’u mesur drwy ddadansoddi cydraddoldeb canlyniadau penderfyniadau penodi

Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o gwsmeriaid sydd â nodweddion gwarchodedig, i’n galluogi i nodi effaith newidiadau mewn polisi a gwasanaethau ar ein cwsmeriaid. Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • cynyddu ansawdd a ffynonellau data am nodweddion gwarchodedig cwsmeriaid a gwella’r gwaith o werthuso’r data hynny er mwyn sicrhau dealltwriaeth fwy cywir o anghenion, profiadau a chanlyniadau cwsmeriaid, ac effaith bosibl ein penderfyniadau

  • cyn pob penderfyniad neu newid polisi, nodi’r rheiny a allai effeithio ar gwsmeriaid sydd â nodweddion gwarchodedig, cynnal asesiadau effaith ar gydraddoldeb a chyhoeddi’r canlyniadau

  • sicrhau bod pob prosiect ar raddfa fawr a gweithgaredd newid polisi yn wynebu asesiadau effaith ar gydraddoldeb sy’n cael eu hadolygu gan bwyllgorau perthnasol CThEF yn ôl yr angen

Cynhwysol

Byddwn yn sicrhau bod ein hamgylcheddau corfforol a digidol yn gynhwysol ac yn hygyrch, gan alluogi cydweithwyr i wneud eu gwaith gorau. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn:

  • gwella cyfraddau boddhad cydweithwyr o ran pa mor hawdd a chyflym y darperir addasiadau yn y gweithle

  • cau unrhyw fylchau sylweddol ym mhrofiad cydweithwyr o wahanol grwpiau, a fesurir gan gwestiynau ar thema ‘Triniaeth Gynhwysol a Theg’ yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil

  • cau unrhyw fylchau sylweddol yng nghyfraddau cadw cydweithwyr o wahanol grwpiau, a fesurir drwy ddadansoddi cydraddoldeb data unigolion sy’n gadael

Byddwn yn cyflawni ein rhwymedigaethau yn Siarter CThEF, gan sicrhau nad oes unrhyw grwpiau cwsmeriaid dan anfantais wrth ddefnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • parhau i gynyddu hygyrchedd systemau digidol CThEF, gan gynnal cydymffurfiad â Rheoliadau Hygyrchedd Sector Cyhoeddus 2018 (yn agor tudalen Saesneg) a hyrwyddo cynhwysiant digidol ar gyfer holl wasanaethau CThEF

  • parhau i feithrin ein dealltwriaeth o gwsmeriaid sydd â nodweddion gwarchodedig drwy ddadansoddi data, barn cwsmeriaid ac ymgysylltu â’n partneriaid VCS, gan ddysgu o wersi er mwyn gwella profiad y cwsmer

  • parhau i gynnig a datblygu gwasanaethau Cymraeg sy’n cyfateb i’n gwasanaethau Saesneg

Dangos parch

Byddwn yn darparu diwylliant teg, caredig a dynol gydag ymdeimlad cryf o berthyn, ac amgylcheddau gwaith lle gall cydweithwyr ffynnu a dysgu. Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • gostwng lefel y bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu y mae cydweithwyr yn eu profi, a fesurir drwy Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil

  • cynyddu lefelau rhoi gwybod am fwlio, aflonyddu a gwahaniaethu pan fydd hynny yn digwydd a chynyddu lefelau’r cytundeb bod camau priodol wedi’u cymryd i fynd i’r afael â nhw. Mesurir hyn drwy Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil

  • gwella sgoriau profiad cydweithwyr yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil

Byddwn yn sicrhau bod gan gydweithwyr ar draws y sefydliad ddealltwriaeth angenrheidiol o gyfrifoldebau CThEF tuag at gwsmeriaid o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, y Ddyletswydd Cydraddoldeb fel rhan o’r Sector Cyhoeddus a Chynllun Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon. Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • parhau i ddarparu hyfforddiant i gydweithwyr sy’n ymdrin â chwsmeriaid i godi ymwybyddiaeth o’n rhwymedigaethau cydraddoldeb a sut i roi’r addasiadau rhesymol i gwsmeriaid y mae ganddynt hawl iddynt

  • monitro llwyddiant drwy’r ymrwymiad i hyfforddiant, adborth gan gydweithwyr a monitro cwynion yn barhaus

  • darparu adnoddau perthnasol i gydweithwyr, megis hyfforddiant effeithiau ar gydraddoldeb, gweithdai a llyfrgell ddysgu, a fydd yn cael eu monitro drwy adborth cydweithwyr

  • parhau i gryfhau’r broses o effeithiau ar gydraddoldeb o fewn proses newid CThEF

Cyhoeddiadau ar gydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am gydraddoldeb yn ein hadroddiad blynyddol ar gydymffurfiad CThEF â dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus (yn agor tudalen Saesneg).

Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth am y gweithlu yn ein hadroddiad a chyfrifon blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) a gwybodaeth am ein hadroddiadau ar y bwlch cyflog rhywedd (yn agor tudalen Saesneg).

Cynllun Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon

Mae Cynllun Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon ar gyfer CThEF (yn agor tudalen Saesneg) yn amlinellu sut y byddwn yn bodloni ein gofynion cydraddoldeb yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys o ran cyhoeddi Dadansoddiad Cydraddoldeb Cychwynnol ac Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb.

Mae ein Cynllun Gweithredu ar Anabledd 2021 i 2024 (yn agor tudalen Saesneg), sydd wedi’i ddatblygu i fodloni ein rhwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd Gogledd Iwerddon 1995, yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella profiad ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid anabl ledled y DU.