Elusennau a threth

Printable version

1. Trosolwg

Fel elusen, gallwch gael gostyngiadau treth penodol. Er mwyn elwa ar y rhain, mae’n rhaid i chi gael eich cydnabod gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Nid yw elusennau yn talu treth ar y rhan fwyaf o fathau o incwm cyhyd â’u bod yn defnyddio’r arian at ddibenion elusennol (yn Saesneg).

Gallwch hawlio treth yn ôl sydd wedi’i didynnu, er enghraifft ar log banc a rhoddion (yr enw ar hyn yw Rhodd Cymorth (yn Saesneg)).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Pryd y mae’n rhaid i chi dalu treth

Efallai y bydd yn rhaid i’ch elusen dalu treth os ydych wedi:

  • cael incwm nad yw’n gymwys ar gyfer rhyddhad treth
  • gwario unrhyw ran o’ch incwm at ddibenion nad ydynt yn elusennol

Mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth os oes gan eich elusen dreth i’w thalu.

Mae clybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau) yn cael gwahanol ostyngiadau treth (yn Saesneg).

2. Rhyddhad treth ar gyfer elusennau

Fel elusen, nid ydych yn talu treth ar y rhan fwyaf o’ch incwm a’ch enillion os ydych yn eu defnyddio at ddibenion elusennol (yn Saesneg) – yr enw ar hyn yw ‘gwariant elusennol’.

Mae hyn yn cynnwys treth:

I gael rhyddhad treth, mae’n rhaid i chi gael eich cydnabod gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Mae clybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau) yn cael gwahanol ostyngiadau treth (yn Saesneg).

Pan fyddwch yn talu treth

Mae elusennau’n talu treth ar y canlynol:

Mae elusennau’n talu trethi busnes (yn Saesneg) ar adeiladau annomestig, ond maent yn cael gostyngiad o 80% (yn Saesneg).

Mae’n rhaid i chi dalu treth ar unrhyw arian nad ydych yn ei ddefnyddio at ddibenion elusennol. Yr enw ar hyn yw ‘gwariant nad yw’n elusennol’.

Talu treth

Mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth os oes angen i’ch elusen dalu treth neu os yw CThEF yn gofyn i chi wneud hynny.

Adennill treth

Gallwch hawlio treth yn ôl sydd wedi’i didynnu, er enghraifft:

3. Cael cydnabyddiaeth at ddibenion treth

I gael rhyddhad treth, mae’n rhaid i’ch elusen fod:

Ni all elusennau sydd wedi’u lleoli yn yr UE, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu Norwy wneud cais am ryddhad treth mwyach. Os cawsoch ryddhad treth ar 14 Mawrth 2023, neu cyn hynny, byddwch yn parhau i gael y rhyddhad hwn hyd nes mis Ebrill 2024.

Cofrestru manylion eich elusen er mwyn cael cydnabyddiaeth gan CThEF

Cofrestrwch fanylion eich elusen gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF.

4. Adennill treth

Os cewch incwm gyda threth wedi’i didynnu oddi wrtho, er enghraifft rhoddion y gallwch hawlio Rhodd Cymorth (yn Saesneg) arnynt, gallwch ei hawlio’n ôl:

Llog banc

Gallwch drefnu cael llog heb i dreth gael ei didynnu oddi wrtho. Dangoswch eich llythyr o gydnabyddiaeth gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) i’ch banc.

Os yw treth eisoes wedi’i didynnu oddi wrth eich llog, gallwch ei hawlio’n ôl am y canlynol:

  • y flwyddyn dreth bresennol drwy ofyn i’ch banc
  • blynyddoedd treth blaenorol drwy ei hawlio gan CThEF

5. Talu treth

Os oes gan eich elusen incwm nad yw’n gymwys ar gyfer rhyddhad treth, mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth.

Os nad oes gennych dreth i’w thalu, llenwch Ffurflen Dreth dim ond os yw Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn gofyn i chi wneud hynny.

Os yw incwm eich elusen dros £10,000, mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth flynyddol i’r Comisiwn Elusennau (yn Saesneg).

Ffurflenni Treth y Cwmni

Llenwch Ffurflen Dreth y Cwmni (yn Saesneg) os yw’ch elusen yn gwmni cyfyngedig neu’n gymdeithas anghorfforedig (yn Saesneg). Sicrhewch eich bod yn cynnwys y tudalennau atodol ar gyfer elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol (CChACau).

Mae elusen yn gwmni cyfyngedig os cafodd ei sefydlu drwy’r canlynol:

Mae’n rhaid i gwmnïau cyfyngedig hefyd anfon cyfrifon blynyddol (yn Saesneg) i Dŷ’r Cwmnïau.

Ymddiriedolaethau

Llenwch Ffurflen Dreth Hunanasesiad Ymddiriedolaeth ac Ystâd os yw’ch elusen yn ymddiriedolaeth. Mae elusen yn ymddiriedolaeth os cafodd ei sefydlu drwy weithred ymddiriedolaeth neu ewyllys.

Cosbau a dyddiadau cau

Mae’n rhaid i chi lenwi Ffurflen Dreth pan fydd CThEF yn gofyn i chi wneud hynny, hyd yn oed os nad oes treth yn ddyledus.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os yw’ch Ffurflen Dreth yn hwyr neu os nad ydych yn llenwi un pan ddylech.

Mae’r dyddiad cau yn dibynnu a ydych yn llenwi Ffurflen Dreth y Cwmni (yn Saesneg) neu Ffurflen Dreth Hunanasesiad.