Cywiro cyfraniadau Yswiriant Gwladol a ordalwyd gan gyflogai

Newidiodd cyfraddau Yswiriant Gwladol ar 6 Tachwedd 2022. O ganlyniad i hyn, mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud cywiriad i gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gallwch ddefnyddio’r offeryn hwn os ydych yn gyflogwr a bod y ddau beth canlynol yn wir:

  • gwnaethoch dalu eich cyflogai ar neu ar ôl 6 Tachwedd 2022

  • nid oedd eich meddalwedd cyflogres wedi’i diweddaru i ddefnyddio’r gyfradd Yswiriant Gwladol (yn Saesneg) newydd pan wnaethoch y taliad

Dechrau nawr