Cytundebau Setliad TWE
Printable version
1. Trosolwg
Mae Cytundeb Setliad TWE (PSA) yn caniatáu i chi wneud taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth a’r Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar fân dreuliau neu fuddiannau, treuliau neu fuddiannau afreolaidd neu dreuliau neu fuddiannau anymarferol (yn Saesneg) ar gyfer eich cyflogeion.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os ydych yn cael Cytundeb Setliad TWE (yn Saesneg) ar gyfer yr eitemau hyn ni fydd angen i chi wneud y canlynol:
-
eu rhoi drwy’ch cyflogres i gyfrifo treth ac Yswiriant Gwladol
-
eu cynnwys yn eich ffurflenni diwedd blwyddyn P11D (yn Saesneg)
-
talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A arnynt ar ddiwedd y flwyddyn dreth (rydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B fel rhan o’ch Cytundeb Setliad TWE yn lle)
Mae rhai treuliau cyflogeion wedi’u cwmpasu gan eithriadau (sydd wedi disodli goddefebau) (yn Saesneg). Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi eu cynnwys yn eich adroddiadau diwedd blwyddyn.
2. Yr hyn sydd wedi’i gynnwys
Mae’n rhaid i’r treuliau neu’r buddiannau rydych yn eu cynnwys mewn Cytundeb Setliad TWE (PSA) fod yn fân, yn afreolaidd neu’n
Mân
Mae enghreifftiau o fân fuddiannau a threuliau’n cynnwys:
-
gwobrau cymhelliant, er enghraifft ar gyfer gwasanaeth hir
-
biliau ffôn
-
rhoddion bach a thalebau
-
adloniant staff, er enghraifft tocyn i ddigwyddiad
-
treuliau nad yw’n ymwneud â busnes wrth deithio dros nos ar fusnes sydd dros y terfyn dyddiol (yn Saesneg)
Nid oes angen i chi gynnwys buddiannau pitw (yn Saesneg) yn eich Cytundeb Setliad TWE.
Afreolaidd
Mae buddiannau a threuliau afreolaidd yn bethau nad ydynt yn cael eu talu’n rheolaidd dros gyfnod o flwyddyn dreth, er enghraifft yn wythnosol neu’n fisol. Maen nhw hefyd yn bethau nad oes gan gyflogeion hawl contractiol iddynt. Mae enghreifftiau o dreuliau a buddiannau’n afreoleidd yn cynnwys:
-
treuliau adleoli dros £8,000 (mae’r rhain yn rhydd o dreth o dan £8,000)
-
cost mynd i gynadleddau tramor
-
treuliau priod sy’n cyd-fynd â chyflogai tramor
-
defnyddio fflat gwyliau cwmni
Anymarferol
Mae treuliau a buddiannau anymarferol yn bethau sy’n anodd rhoi gwerth arnynt neu rannu rhwng cyflogeion unigol. Mae enghreifftiau o dreuliau a buddiannau anymarferol yn cynnwys:
-
adloniant staff nad yw wedi’i esemptio rhag treth neu Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (yn Saesneg)
-
ceir a rennir
-
treuliau gofal personol, er enghraifft trin gwallt
Beth sydd heb ei gynnwys
Ni allwch gynnwys cyflogau, buddiannau gwerth uchel fel ceir cwmni (yn Saesneg), neu daliadau arian parod fel:
-
benthyciadau buddiannol (yn Saesneg) mewn Cytundeb Setliad TWE
Os ydych yn gwneud cais ar ôl dechrau’r flwyddyn dreth, mae cyfyngiadau ychwanegol ar yr hyn y gallwch ei gynnwys (yn Saesneg).
3. Sut i gael Cytundeb Setliad TWE a rhoi gwybod i CThEF beth sydd arnoch
Gallwch wneud cais i gael Cytundeb Setliad TWE (PSA) ar-lein. Os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein, gallwch wneud cais drwy’r post.
Gallwch gael asiant i wneud cais ar gyfer Cytundeb Setliad TWE ar eich rhan. Bydd angen i chi roi llythyr o awdurdod wedi’i lofnodi iddo os nad oes ganddo awdurdodiad i wneud cais yn barod.
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os ydych am gael cyngor ar gael a chyfrifo’ch Cytundeb Setliad TWE.
Gwneud cais ar-lein
Mae angen eich cyfeirnod TWE y cyflogwr arnoch. Mae hwn yn rhif 3 digid, yn flaenslaes ac yna’n gymysgedd o lythrennau a rhifau, fel 123/AB456. Gallwch ddod o hyd i hyn ar lythyrau sydd gennych gan CThEF am TWE.
Rydych hefyd angen manylion cyswllt, gan gynnwys:
-
enw’r busnes
-
cyfeiriad
-
eich rhif ffôn
-
eich cyfeiriad e-bost (oni bai eich bod yn mewngofnodi gyda Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth)
Bydd CThEF yn gwirio’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE. Byddant yn cysylltu â chi os oes unrhyw broblemau
Os caiff eich cais ei awdurdodi, fe gewch e-bost neu lythyr o gadarnhad. Yna, byddwch yn cael eich anfon eich Cytundeb Setliad TWE drwy’r post.
Gwneud cais drwy’r post
Ysgrifennwch at Dreth Busnes a Thollau CThEF gan ddisgrifio’r treuliau a’r buddiannau rydych am i’r Cytundeb Setliad TWE eu talu.
Cytundebau Setliad TWE
Cyllid a Thollau EF / HM Revenue and Customs
BX9 2AN
Unwaith y bydd CThEF wedi cytuno ar yr hyn y gellir ei gynnwys, byddant yn anfon 2 gopi drafft o ffurflen P626 atoch. Llofnodwch a dychwelyd y ddau gopi. Bydd CThEF yn awdurdodi’ch cais ac yn anfon ffurflen yn ôl - dyma’ch Cytundeb Setliad TWE.
Rhowch wybod i CThEF beth sydd arnoch
Ar ôl i chi gael eich Cytundeb Setliad TWE, mae angen i chi roi gwybod i CThEF beth sydd arnoch bob blwyddyn dreth.
Llenwch a chyflwynwch ffurflen ar-lein. Os na wnewch, bydd CThEF yn cyfrifo’r swm. Bydd mwy o gosb arnoch os bydd hyn yn digwydd.
Bydd angen i chi roi gwybod am unrhyw beth na ellir ei gynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE ar wahân gan ddefnyddio ffurflen P11D (yn Saesneg). Nid oes angen i chi gyflwyno P11D os ydych yn talu treuliau a buddiannau cyflogeion trwy’ch cyflogres.
Yr hyn sy’n digwydd nesaf
Bydd y cytundeb yn parhau tan naill ai rydych chi neu CThEF yn ei ganslo neu mae angen i chi ei newid (yn Saesneg). Nid oes angen i chi adnewyddu’r Cytundeb Setliad TWE bob blwyddyn dreth.
4. Dyddiadau cau a thaliad
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Gytundeb Setliad TWE (PSA) yw 5 Gorffennaf yn dilyn y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.
Enghraifft
Ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, bydd gennych tan 5 Gorffennaf 2024 i wneud cais am Gytundeb Setliad TWE.
Mae’r hyn y gallwch ei gynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE yn dibynnu ar bryd rydych yn ymgeisio.
Pryd i dalu
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw dreth ac Yswiriant Gwladol sydd arnoch o dan Gytundeb Setliad TWE (yn Saesneg) erbyn 22 Hydref ar ôl y flwyddyn dreth y mae’r Cytundeb Setliad TWE yn ymwneud â hi (19 Hydref os ydych yn talu drwy’r post).
Mae’n bosibl eich bod llog wedi’i ddirwyo neu ei godi (yn Saesneg) os nad ydych yn talu neu os yw’ch taliad yn hwyr.
Beth i’w gynnwys yn eich taliad Cytundeb Setliad TWE cyntaf
Os ydych yn gwneud cais am Gytundeb Setliad TWE cyn dechrau’r flwyddyn dreth, gallwch gynnwys unrhyw dreuliau a buddiannau sy’n rhan o’r cytundeb.
Os ydych yn gwneud cais am Gytundeb Setliad TWE ar ôl dechrau’r flwyddyn dreth, efallai y bydd yn rhaid i chi adrodd am rai eitemau ar wahân.
Os ydych yn gwneud cais am Gytundeb Setliad TWE cyn 6 Ebrill 2024
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen P11D (yn Saesneg) i roi gwybod am dreuliau a buddiannau a ddarperir i gyflogeion cyn dyddiad cytundeb Setliad TWE eich bod:
-
eisoes wedi cynnwys yng nghôd treth eich cyflogai
-
wedi’i gynnwys (neu y dylai fod wedi cynnwys) yn nhreth TWE eich cyflogai a didyniadau Yswiriant Gwladol
Os ydych yn gwneud cais am Gytundeb Setliad TWE rhwng 6 Ebrill 2024 a 5 Gorffennaf 2024
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen P11D (yn Saesneg) i roi gwybod am dreuliau a buddiannau a ddarperir i gyflogeion yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych:
-
eisoes wedi cynnwys yng nghôd treth eich cyflogai
-
wedi’i gynnwys (neu y dylai fod wedi cynnwys) yn nhreth TWE eich cyflogai a didyniadau Yswiriant Gwladol
5. Newid neu ganslo Cytundeb Setliad TWE
Gallwch wneud cais i newid neu ganslo’ch Cytundeb Setliad TWE ar-lein. Os nad ydych yn gallu gwneud cais ar-lein, gallwch wneud cais drwy’r post.
Gwneud cais i newid neu ganslo ar-lein
Mae angen eich cyfeirnod TWE y cyflogwr arnoch. Mae hwn yn rhif 3 digid, yn flaenslaes ac yna’n gymysgedd o lythrennau a rhifau, fel 123/AB456. Gallwch ddod o hyd i hyn ar lythyrau sydd gennych gan CThEF am TWE.
Rydych hefyd angen manylion cyswllt, gan gynnwys:
-
enw’r busnes
-
cyfeiriad, os ydych yn gwneud cais i newid eich Cytundeb Setliad TWE
-
eich rhif ffôn
-
eich cyfeiriad e-bost (oni bai eich bod yn mewngofnodi gyda Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth)
Ar ôl gwneud y newidiadau neu ganslo, fe gewch gadarnhad mewn e-bost neu lythyr.
Os ydych wedi gwneud cais i ganslo’ch Cytundeb Setliad TWE, bydd CThEF yn ei ganslo o’r dyddiad y byddwch yn gofyn amdano ar y ffurflen.
Gwneud cais i newid neu ganslo drwy’r post
Os ydych am newid eich Cytundeb Setliad TWE, anfonwch fanylion y newidiadau i’r swyddfa a gyhoeddodd eich yn eich Cytundeb Setliad TWE. Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon P626 diwygiedig atoch fod angen i chi ei lofnodi a’i ddychwelyd.
Os ydych am ganslo’ch Cytundeb Setliad TWE, gofynnwch i’r swyddfa a gyhoeddodd eich Cytundeb Setliad TWE i anfon P626 atoch. Llenwch adran slip dychwelyd y P626 a’i anfon at CThEF.
Cytundebau Setliad TWE
Cyllid a Thollau EF / HM Revenue and Customs
BX9 2AN
Os ydych wedi gwneud cais i ganslo’ch Cytundeb Setliad TWE, bydd CThEF yn ei ganslo ar y dyddiad y byddwch yn ei roi ar y slip dychwelyd.
Os ydych yn canslo’ch Cytundeb Setliad TWE
Mae angen i chi roi gwybod am unrhyw dreth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) heb ei dalu oherwydd buddiannau a threuliau gan ddefnyddio ffurflen P11D (yn Saesneg) a ffurflen PSA1.
Mae angen i chi dalu unrhyw dreth a CYG heb ei dalu (yn Saesneg) erbyn 22 Hydref ar ôl y flwyddyn dreth mae’r Cytundeb Setliad TWE yn berthnasol i (19 Hydref os ydych yn talu trwy’r post).
Mae angen i chi dalu unrhyw CYG sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau a restrir ar y ffurflen P11D erbyn 22 Gorffennaf ar ôl y flwyddyn dreth mae’n berthnasol iddo (19 Gorffennaf os ydych yn talu trwy’r post).
Os ydych yn parhau i ddarparu buddiannau ar ôl i chi ganslo’ch Cytundeb Setliad TWE, mae angen i chi naill ai:
-
rhoi gwybod amdanynt ar ffurflen P11D (yn Saesneg)
-
eu rhoi drwy’r gyflogres
Gallwch dalu unrhyw dreth neu CYG sy’n ddyledus drwy TWE.