Cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith

Printable version

1. Sut i gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith

Gallwch gysylltu â‘r Ganolfan Byd Gwaith am:

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Cysylltu â‘ch Canolfan Byd Gwaith lleol

Os ydych eisiau cysylltu â‘ch swyddfa agosaf, gallwch ddod o hyd i’w manylion drwy ddefnyddio chwilio am swyddfa leol.

Gallwch ysgrifennu at eich swyddfa agosaf drwy ddefnyddio eu cyfeiriad o’r chwiliad swyddfa leol. Bydd eu cyfeiriad hefyd ar unrhyw lythyrau a anfonwyd atoch.

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon

Am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) a Chymhorthdal Incwm, cysylltwch â’r Jobs and Benefits office. Am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA), cysylltwch â’r ESA Centre.

Cwyno am y Ganolfan Byd Gwaith

Gallwch gwyno am y gwasanaeth rydych wedi ei dderbyn gan y Ganolfan Byd Gwaith.

Dod o hyd i swydd

Defnyddiwch y gwasanaeth ‘Dod o hyd i swydd (Paru Swyddi Ar-lein yn flaenorol).

Cael rhif Yswiriant Gwladol

Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol neu ddod o hyd i rhif Yswiriant Gwladol os ydych wedi ei golli.

Os ydych yn gyflogwr

Hysbysebwch swydd neu dewch o hyd i wasanaethau recriwtio o’r Ganolfan Byd Gwaith.

2. Ceisiadau newydd am fudd-dal

Gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA) ar lein, oni bai eich bod o dan 18 oed neu rydych yn gwneud cais fel penodai ar ran rhywun arall.

Os na allwch wneud cais ar-lein neu mae angen cymorth arnoch i wneud cais, ffoniwch Ganolfan Byd Gwaith i wneud cais am JSA Dull Newydd.

Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 012 1888
Ffôn Testun: 0800 023 4888
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 then 0800 055 6688
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 055 6688
Dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch y Ganolfan Prosesu Lwfans Ceisio Gwaith yn lle.

Mae manylion cyswllt gwahanol ar gyfer:

Fformatau eraill

Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith i ofyn am fformatau eraill fel, braille, print bras neu CD sain.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch y Ganolfan Prosesu Lwfans Ceisio Gwaith yn lle.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallech eu cael.

3. Ceisiadau presennol am fudd-dal

Ffoniwch y rhif priodol ar gyfer eich budd-dal i wneud y canlynol:

  • trafod cais rydych eisoes wedi’i wneud
  • dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am newid yn eich amgylchiadau, e.e rydych yn dechrau gweithio neu mae eich incwm yn newid
  • gofyn i gael cyfathrebiadau mewn fformat arall, fel braille, print bras neu CD sain

Byddwch angen eich rhif Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn ffonio unrhyw rai o’r rhifau hyn.

Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Analluogrwydd a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)

Ffôn: 0800 169 0207
Ffôn Testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 169 0310
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 169 0310
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yng Ngogledd Iwerddon

Am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) a Cymhorthdal Incwm, cysylltwch â’r Jobs and Benefits office. Am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cysylltwch â’r ESA Centre.

Credyd Cynhwysol

Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein - cewch ymateb dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm.

Cronfa Gymdeithasol

Ffôn: 0800 169 0240
Ffôn Testun: 0800 169 0286
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 then 0800 169 0140
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 169 0140
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Lwfans Mamolaeth

Ffôn: 0800 169 0296
Ffôn testun: 0800 169 0286
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 169 0283
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 169 0283
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Budd-dal Profedigaeth

Ffôn: 0800 731 0453
Ffôn Testun: 0800 169 0286
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 731 0139
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 731 0139 Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

4. Newid neu ganslo apwyntiad

Apwyntiadau Credyd Cynhwysol

Gallwch newid neu ganslo apwyntiad Credyd Cynhwysol trwy fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol.

Apwyntiadau eraill

Ffôn: 0800 169 0207
Ffôn Testun: 0800 169 0314
NGT text relay (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 169 0190
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen Llinell Saesneg: 0800 169 0190
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau