Yn yr adran hon:
Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cronni eich hawl i fudd-daliadau penodol gan y wladwriaeth, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'r cyfraniadau a dalwch yn dibynnu ar faint rydych yn ei ennill a ph'un a ydych chi'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Rydych yn peidio â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Ar y dudalen hon:
Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol os ydych yn gyflogai neu'n hunangyflogedig ac rydych yn 16 oed neu'n hŷn, cyn belled â bod eich enillion yn uwch na swm penodol. Os ydych yn gyflogedig byddwch yn peidio â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn gynted ag yr ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn hunangyflogedig, byddwch yn peidio â thalu cyfraniadau Dosbarth 2 cyn gynted ag yr ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, a chyfraniadau Dosbarth 4 o ddechrau'r flwyddyn dreth ar ôl yr un pan ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw 65 i ddynion a anwyd cyn 6 Rhagfyr 1953 a 60 i fenywod a anwyd cyn 6 Ebrill 1950. Mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950 yn cynyddu'n raddol, a bydd yn cyrraedd 65 ym mis Tachwedd 2018. O fis Rhagfyr 2018, bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a dynion yn codi'n raddol o 65 a'n cyrraedd 66 erbyn mis Hydref 2020.
Mae rhai pobl hefyd yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dewis eu talu os:
Dysgwch fwy am newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth (agor ffenestr newydd)
Eich rhif Yswiriant Gwladol yw eich rhif cyfrif personol eich hun. Mae'r rhif yn sicrhau bod y cyfraniadau Yswiriant Gwladol a'r dreth a dalwch yn cael eu cofnodi'n gywir ar eich cyfrif. Mae hefyd yn gweithredu fel cyfeirnod ar gyfer y system nawdd cymdeithasol gyfan. Mae pob rhif Yswiriant Gwladol yn wahanol. Mae'n cynnwys llythrennau a rhifau fel hyn: QQ 12 34 56 A.
(Sylwer mai dim ond esiampl yw’r rhif Yswiriant Gwladol hwn ac ni ddylid ei ddefnyddio fel eich rhif eich hun).
Bydd eich rhif Yswiriant Gwladol byth yn newid, hyd yn oed os byddwch yn mynd dramor, yn priodi, yn cofrestru fel partner sifil, newid eich enw, etc.
Mae eich hawl i nifer o fudd-daliadau'r wladwriaeth yn dibynnu ar eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (gweler yr adran isod 'Budd-daliadau'r Wladwriaeth sy'n dibynnu ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol').
Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol, gallwch wneud cais i gael un.
Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol
Bydd rhaid i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol i:
Rhaid i chi hefyd roi eich rhif Yswiriant Gwladol os ydych yn agor Cyfrif Cynilo Unigol (ISA).
Mae'n bwysig iawn eich bod yn cadw'ch rhif yn ddiogel ac nad ydych yn ei roi i unrhyw un nad oes ei angen. Bydd hyn yn helpu i atal twyll hunaniaeth.
Mae eich hawl i fudd-daliadau penodol gan y wladwriaeth a'r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. (Mewn rhai achosion, mae'n dibynnu ar gyfraniadau eich priod neu bartner sifil.) Mae'r budd-daliadau hyn yn cynnwys:
Gallwch ddod o hyd i restr lawn o fudd-daliadau'r wladwriaeth sy'n dibynnu ar eich cyfraniadau yn y canllaw 'Yswiriant Gwladol a budd-daliadau'r wladwriaeth'.
Yswiriant Gwladol a budd-daliadau'r wladwriaeth
Mae'r swm a'r math o gyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych yn eu talu yn dibynnu ar p'un a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig a faint rydych yn ei ennill. Mae'r cyfraddau a ddangosir isod ar gyfer y flwyddyn dreth 2012-13.
Os ydych yn gyflogedig byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Mae'r cyfraddau fel a ganlyn:
Byddwch yn talu cyfradd is os ydych yn aelod o gynllun pensiwn wedi'i gontractio allan eich cyflogwr.
Didynnir eich cyfraniadau o'ch cyflog gan eich cyflogwr.
Darllenwch am dreth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn gyflogedig
Taliadau Yswiriant Gwladol os ydych wedi contractio allan o Ail Bensiwn y Wladwriaeth
Os ydych yn hunangyflogedig byddwch yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 4. Mae'r cyfraddau fel a ganlyn:
Os disgwylir i'ch elw fod yn llai na £5,595 efallai na fydd rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.
Mae eich taliadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 yn ddyledus ar 31 Ionawr a 31 Gorffennaf, yr un fath â bil treth Hunanasesiad. Byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 naill ai'n fisol neu bob chwe mis drwy Ddebyd Uniongyrchol - dilynwch y cysylltiad cyntaf isod i gael rhagor o wybodaeth ynghylch dyddiadau talu.
Byddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 pan fyddwch yn talu eich Treth Incwm.
Sut i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 hunangyflogedig
Darllenwch am dreth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn hunangyflogedig
Gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol (fel arfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3) ar gyfradd unffurf o £13.25 yr wythnos.
Telir cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 naill ai'n fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol neu drwy fil chwarterol. Ond os oes gennych fylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol gallwch wneud taliadau unigol o gyfraniadau gwirfoddol i lenwi'r bylchau hyn.
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol - dysgwch fwy
Mae yna gyfraddau eraill sy'n berthnasol mewn achosion penodol. Enghreifftiau o'r rhain yw:
Menywod priod, gweddwon a chyfraniadau Yswiriant Gwladol is
Gwiriwch holl gyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Gallwch weithiau gael credydau Yswiriant Gwladol. Mae'r rhain ar gael mewn amgylchiadau penodol i roi 'credyd' i chi i wneud yn iawn am gyfraniadau na allech eu gwneud oherwydd nad oeddech yn gallu gweithio. Maent yn gallu gwarchod eich hawl i fudd-daliadau penodol gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.
Os oes rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol, fel arfer bydd rhaid i chi dalu Treth Incwm hefyd. Treth ar eich 'incwm trethadwy' dros swm penodol yw Treth Incwm. Mae'n daladwy ar gyfraddau gwahanol yn dibynnu ar eich incwm. Mae yna rai lwfansau a rhyddhad ar gael a all leihau eich bil Treth Incwm.
Mae CThEM yn cadw cofnodion o'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol a delir drwy gydol eich bywyd gwaith. Dysgwch sut i wirio eich cofnod Yswiriant Gwladol drwy ddilyn y cysylltiad isod.
Gwirio eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol
Os ydych yn preswylio dramor neu wedi bod dramor ac eisiau gwirio eich cofnod Yswiriant Gwladol, cysylltwch â'r Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol - Gweithiwr Achos Rhyngwladol drwy ddilyn y cysylltiad isod.
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol - Gweithiwr Achos Rhyngwladol
A oes angen i chi ychwanegu at eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol?
Darllenwch am ddod i weithio yn y DU
Darllenwch am dreth ac Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn gadael yr ysgol neu'r coleg