TAW
Ar-lein ar gyfer Masnachwyr
Croeso i wasanaeth Treth Ar Werth (TAW) Ar-lein Cyllid a Thollau EM.
Mae’r broses mewn dwy ran, sef Cofrestru/Ymrestru a Defnyddio’r Gwasanaeth.
Cofrestru/Ymrestru
Cyn i chi gychwyn ar y broses o gofrestru/ymrestru ar gyfer y Gwasanaeth TAW
Ar-lein, sicrhewch fod y pum elfen ganlynol wrth law:
- Rhif Cofrestru TAW
- Cod post y Prif Fan Busnes
- Dyddiad Cofrestru TAW
- Mis diwedd cyfnod y Ffurflen TAW ddiwethaf
- Y ffigur Blwch 5 ar eich Ffurflen TAW ddiwethaf
- Cyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon
Mae'r rhain i'w gweld ar ohebiaeth TAW fel arfer, ond cysylltwch â'r Gwasanaeth
Cynghori Cymraeg* os oes angen cymorth arnoch i ddod o hyd iddynt.
- Er mwyn cofrestru/ymrestru ar gyfer ein gwasanaeth
TAW Ar-lein yn y Gymraeg, ewch i hafan gwasanaethau ar-lein CThEM a chliciwch ar y botwm cofrestru ar ochr dde'r dudalen.
- Ar y dudalen Defnyddiwr Newydd, cliciwch ar 'Cymraeg' ger y brig. Yna, dilynwch
y llwybr Unigolyn/Sefydliad/Asiant fel bo'n briodol.
- Ar ôl i chi gofrestru ac ymrestru, cewch gadarnhad o'ch Dynodydd Defnyddiwr.
- Ar y dudalen sy'n rhestru eich gwasanaethau CThEM, defnyddiwch y cysylltiad
i gyrchu'r gwasanaeth TAW Ar-lein. Yna, gallwch ddechrau defnyddio'r
gwasanaeth er mwyn cyflwyno eich Ffurflenni TAW (VAT100) neu eich Ffurflen
TAW Derfynol (VAT193) ar-lein.
Os oes Dynodydd Defnyddiwr a Chyfrinair dilys gennych eisoes (o flynyddoedd cynt)
nid oes angen i chi fynd trwy’r broses o gofrestru/ymrestru ar-lein eto,
a gallwch fynd yn syth i ddefnyddio’r gwasanaeth cyfredol.
Defnyddio'r Gwasanaeth
Ar ôl i chi gofrestru/ymrestru, gallwch ddechrau defnyddio’r gwasanaeth Cymraeg.
Dyma’r llwybr y dylech ei ddilyn:
- Ar y dudalen 'Welcome to HMRC
Online services', rhowch eich
Dynodydd Defnyddiwr a’ch Cyfrinair yn y blychau perthnasol, a chliciwch
ar ‘Login’. Neu, fel arall, gallwch ddefnyddio eich Tystysgrif Ddigidol
os oes un gennych.
- Ar y dudalen 'Your HMRC services', defnyddiwch y cysylltiad 'VAT -
Submit a VAT return/Set up a VAT Direct Debit Instruction'.
- Ar y dudalen 'At a glance', defnyddiwch y cysylltiad 'Cymraeg' ar
frig y dudalen.
- Ar y dudalen 'Ar gip' - a thudalennau dilynol - byddwch yn gallu
cyfathrebu â ni trwy gyfrwng y Gymraeg.
Defnyddiwch y cysylltiad i gychwyn ar y llwybr.
Cymorth
*Am gymorth trwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori Cymraeg ar 0845 010 0300 (8.00 am - 6.00 pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener).
Neu, cliciwch yma am gymorth
trwy gyfrwng y Saesneg.
Pwysig! Peidiwch â defnyddio llafariaid acennog wrth deipio yn y ffurflenni ar-lein.
Diolch.