Treth Incwm - yr hanfodion

Treth ar incwm yw Treth Incwm. Nid yw pob incwm yn drethadwy a chewch eich trethu dim ond ar 'incwm trethadwy' sy'n fwy na lefel arbennig. Hyd yn oed wedyn, mae yna fathau eraill o ryddhad a lwfansau sy'n gallu lleihau eich bil Treth Incwm - ac mewn rhai achosion yn golygu nad oes gennych unrhyw dreth i'w thalu.

Ar y dudalen hon:

Beth sy'n cyfrif fel incwm trethadwy?

Mae incwm trethadwy yn cynnwys:

  • enillion o gyflogaeth
  • enillion o hunangyflogaeth
  • y rhan fwyaf o incwm pensiynau (pensiynau y wladwriaeth, cwmni a phersonol)
  • llog ar y rhan fwyaf o gynilion
  • incwm o gyfranddaliadau (difidendau)
  • incwm drwy osod eiddo
  • incwm a delir i chi o ymddiriedolaeth

Incwm nad yw'n drethadwy

Mae rhai mathau o incwm nad ydych byth yn talu treth arno. Mae'r rhain yn cynnwys rhai budd-daliadau, incwm o gyfrifon sydd wedi eu heithrio rhag treth, Credyd Treth Gwaith (WTC) ac enillion bondiau premiwm. Mae'r ffynonellau incwm hyn yn cael eu hanwybyddu yn llwyr wrth gyfrifo faint o Dreth Incwm efallai y bydd angen i chi thalu.

Incwm trethadwy ac incwm nad yw'n drethadwy ar gip

Brig

Lwfansau sy’n rhydd o dreth

Mae bron pawb sy'n byw yn y DU yn derbyn 'Lwfans Personol' at ddibenion treth, sef swm o incwm trethadwy y caniateir i chi ei ennill neu ei dderbyn bob blwyddyn yn rhydd o dreth.

Y flwyddyn dreth hon (2013-14) mae'r Lwfans Personol sylfaenol - neu swm rhydd o dreth - yn £9,440. Efallai bod gennych hawl i Lwfans Personol uwch os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1948.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os na allwch gyflawni unrhyw waith lle mae golwg yn hanfodol, gallwch hefyd hawlio'r Lwfans rhydd o dreth i Berson Dall.

Mae Treth Incwm dim ond yn daladwy ar incwm trethadwy sy'n uwch na'ch lwfansau rhydd o dreth.

Gwirio lwfansau Treth Incwm a therfynau incwm ar gyfer blynyddoedd cynharach

Lwfans Personol - mwy o wybodaeth

Lwfans Person Dall - mwy o wybodaeth

Brig

Lwfansau a rhyddhad a all ostwng eich bil Treth Incwm

Os ydych i fod i dalu Treth Incwm, mae nifer o lwfansau a rhyddhad y gellir eu didynnu sy'n gallu lleihau eich bil treth. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Lwfans Pâr Priod – rhaid i'r gŵr, y wraig neu'r partner sifil gael ei eni cyn 6 Ebrill 1935
  • Rhyddhad Taliadau Cynhaliaeth – rhaid eich bod chi neu eich cyn briod neu eich cyn bartner sifil bod wedi eich geni cyn 6 Ebrill 1935

Yn wahanol i lwfansau sy’n rhydd o dreth, nid yw'r rhain yn symiau o incwm y gallwch eu derbyn yn rhydd o dreth. Yn hytrach maent yn symiau sy'n gallu lleihau eich bil treth.

Dysgu mwy ynghylch lwfansau treth a rhyddhad eraill

Brig

Lwfansau treth a rhyddhad ar gyfer cyflogeion neu gyfarwyddwyr

Os ydych yn gyflogai neu'n gyfarwyddwr efallai y byddwch yn gallu cael rhyddhad treth ar gyfer treuliau busnes yr ydych wedi eu talu.

Lwfansau treth a rhyddhad ar gyfer cyflogeion neu gyfarwyddwyr.

Brig

Treth ar fuddiannau cwmni

Os ydych chi'n gyflogedig ac yn derbyn buddiannau nad ydynt ar ffurf arian gan eich cyflogwr, bydd yn rhaid i chi dalu treth arnynt.

Buddiannau trethadwy

Mae buddiannau y gallai fod yn rhaid i chi dalu treth arnynt yn cynnwys:

  • ceir neu faniau cwmni
  • tanwydd a ddarperir ar gyfer eich cerbyd
  • yswiriant meddygol
  • llety
  • benthyciadau ar gyfraddau llog isel

Dysgwch mwy ynghylch buddiannau trethadwy cwmni

Brig

Faint o Dreth Incwm yr ydych yn ei thalu

Ar ôl i'ch treuliau caniataol ac unrhyw lwfansau rhydd o dreth gael eu cymryd i ystyriaeth, cyfrifir y dreth a dalwch gan ddefnyddio cyfraddau treth gwahanol a chyfres o haenau treth.

Cyfraddau Treth Incwm 2013-14 yn ôl haen treth a'r math o incwm
Haen Treth Incwm Cyfradd Treth Incwm ar incwm nad yw’n gynilion Cyfradd Treth Incwm ar gynilion Treth Incwm ar ddifidendau
£0 i £2,790 Cyfradd cychwynnol ar gyfer cynilion Dim ar gael. 10% Ddim yn berthnasol - gweler yr haen cyfradd sylfaenol
£0 i £32,010 Cyfradd sylfaenol 20% 20% 10%
£32,011 i £150,000 Cyfradd uwch 40% 40% 32.5%
Dros £150,000 Cyfradd ychwanegol 45% 45% 37.5%

Oherwydd bod y gyfradd Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu ar gynilion yn cael ei chyfrifo ar ôl i unrhyw incwm nad yw'n gynilion cael ei gymryd i ystyriaeth, os yw eich incwm nad yw'n gynilion yn llai na'r gyfradd gychwynnol ar gyfer terfyn cynilion (£2,790) - neu os mai cynilion a buddsoddiadau yw eich unig ffynhonnell o incwm - bydd eich incwm o gynilion yn cael ei drethu ar y gyfradd gychwynnol o 10 y cant hyd at y terfyn. Ond os oes gennych eisoes incwm nad yw'n deillio o gynilion sy'n mynd â chi dros derfyn y gyfradd gychwynnol, bydd eich holl gynilion yn drethadwy ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant, y gyfradd uwch o 40 y cant neu'r gyfradd ychwanegol o 45%, yn dibynnu ar gyfanswm eich incwm.

Cofiwch, mae'r haen dreth yn berthnasol i'ch incwm ar ôl i'ch lwfansau treth ac unrhyw ryddhad gael eu cymryd i ystyriaeth - nid ydych yn cael eich trethu ar eich holl incwm.

Mae 'incwm nad yw’n gynilion' yn cynnwys incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth, y rhan fwyaf o incwm pensiwn ac incwm drwy osod eiddo.

Mae 'difidendau' yn golygu incwm o gyfranddaliadau mewn cwmnïau yn y DU.

Ychwanegir incwm o gynilion a difidendau at eich incwm trethadwy arall a'i drethu ddiwethaf. Mae hyn yn golygu eich bod yn talu treth ar y mathau hyn o incwm yn seiliedig ar eich haen Dreth Incwm uchaf.

Dysgu ynghylch dreth ar gynilion

Gwirio gyfraddau Treth Incwm a lwfansau ar gyfer blynyddoedd dreth cynharach

Cael manylion treth ynghylch difidendau'r DU

Brig

Sut rydych yn talu Treth Incwm

Cesglir Treth Incwm mewn ffyrdd gwahanol yn dibynnu ar y math o incwm a ph'un a ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu ddim yn gweithio. Mae'r ffyrdd gwahanol y cesglir Treth Incwm yn cynnwys:

  • TWE (Talu Wrth Ennill)
  • Hunanasesiad
  • treth a ddidynnwyd 'wrth y ffynhonnell' pan fo treth yn cael ei didynnu o log y banc/cymdeithas adeiladu ar y gyfradd sylfaenol cyn i'r llog gael ei dalu i chi
  • mewn rhai achosion, taliadau unigol

Os ydych yn gyflogai neu os ydych yn derbyn pensiwn cwmni neu bensiwn preifat, bydd eich cyflogwr neu ddarparwr eich pensiwn yn didynnu treth drwy TWE. Gall Cyllid a Thollau EM (CThEM) dal i ofyn i chi gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad os oes gennych faterion treth cymhleth. Os ydych yn hunangyflogedig, byddwch yn gyfrifol am gwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad a thalu eich treth eich hun.

Dysgu mwy am y ffyrdd yr ydych yn talu Treth Incwm

Brig

Talu'r swm cywir o Dreth Incwm

Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn talu'r swm cywir o dreth. Gallwch wneud hyn drwy edrych ar:

  • cyfanswm eich incwm trethadwy
  • eich lwfansau rhydd o dreth a rhyddhad
  • eich cod treth gyfredol (os yw'n berthnasol)

Os ydych yn talu gormod o dreth gallwch hawlio'r arian hwn yn ôl. Os ydych yn gyflogai neu os ydych yn derbyn pensiwn cwmni neu bensiwn personol ac rydych yn meddwl nad ydych yn talu digon o dreth bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM i newid eich cod treth.

Gallwch ddefnyddio Cyfrifiannell CThEM i gael amcangyfrif o faint o Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol gallwch ddisgwyl talu ar eich incwm.

Cyfrifiannell CThEM

Cael eich Treth Incwm yn gywir

Ad-daliadau treth ac adennill treth a ordalwyd

Codau treth – dysgu mwy

Brig

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Yn ogystal â thalu Treth Incwm ar eich incwm, bydd yn rhaid i chi hefyd dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy'n cronni eich hawl i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol penodol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Mae faint o Yswiriant Gwladol yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill ac a ydych yn gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig. Rydych yn peidio â thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn cyrraedd oed ymddeol.

Yswiriant Gwladol - yr hanfodion

Treth ac Yswiriant Gwladol y cyflogai

Treth ac Yswiriant Gwladol yr hunangyflogedig

Brig

Mwy o gysylltiadau defnyddiol

Penderfynu p'un a ydych chi'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig

Cael gwybodaeth ar gyfer trethdalwyr sydd wedi ymddeol a rhai nad ydynt yn talu treth

Dysgwch am bartneriaethau sifil ar wefan uned Merched a Chydraddoldeb (yn agor ffenestr newydd)

Dysgu am bartneriaeth sifil ar wefan yr uned Merched a Chydraddoldeb (yn agor ffenestr newydd)

Rhyddhad treth wrth roi i elusen

Rhyddhad treth ar gyfraniadau pensiwn

Treth ar incwm drwy osod eiddo - golwg gyffredinol ar wefan GOV.UK (yn agor ffenestr newydd)

Brig