Amodau a Thelerau

Ymwadiad

Dylid darllen ein hymwadiad ochr yn ochr â’n Polisi Preifatrwydd <cyswllt i gynnwys argaen>

Mae gwefan CATHEM a’r deunyddiau sy’n ymwneud â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau’r Llywodraeth (neu â gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd parti) yn cael eu darparu ‘fel y mae’ heb unrhyw gynrychiolaeth na chadarnhad a heb unrhyw warant o unrhyw fath wedi’i fynegi neu ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod wedi’i gyfyngu i’r gwarantau ymhlyg, o ansawdd boddhaol, addasrwydd ar gyfer pwrpas arbennig, dim troseddu, cydweddoldeb, diogeledd a chywirdeb.

Nid ydym yn gwarantu na fydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y wefan hon heb ymyrraeth nac yn rhydd o unrhyw gamgymeriad, y bydd diffygion yn cael eu cywiro neu fod y safle neu’r gweinyddwyr sy’n eu gwneud ar gael yn rhydd o firysau neu’n cynrychioli swyddogaeth lwyr, cywirdeb neu ddibynadwyedd y deunyddiau. Ni fyddwn mewn unrhyw sefyllfa’n gyfrifol am unrhyw golled na niwed, naill ai unrhyw golled neu niwed sy’n codi o’r defnydd, neu golli’r defnydd o’r data neu enillion fydd yn codi allan o neu mewn cysylltiad â’r defnydd o wefan CATHEM.

Defnyddio gwefan CATHEM

Cynhelir ein gwefan er mwyn i chi’i ddefnyddio ac edrych arno. Mae cael mynediad i, a defnyddio’n gwefan yn golygu eich bod yn derbyn yr amodau a thelerau hyn. Maent yn weithredol o’r dyddiad y byddwch yn defnyddio’r wefan am y tro cyntaf. Gallwn, ar unrhyw adeg, newid yr amodau a thelerau heb rybudd a dylid, felly, edrych arnynt yn rheolaidd. Mae dal ati i ddefnyddio’r safle ar ôl i newid gymryd lle yn dangos eich bod yn derbyn y newid.

Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r safle hwn at ddibenion cyfreithiol yn unig, ac mewn dull nad yw’n tresmasu ar hawliau, nac yn cyfyngu ar neu’n atal unrhyw drydydd parti rhag defnyddio a mwynhau’r safle hwn. Mae cyfyngu neu atal o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu beri gofid neu drafferth i unrhyw berson, a throsglwyddo cynnwys anweddus neu sarhaus neu ymyrryd â’r llif arferol o ddeialog o fewn y safle hwn.

Defnyddir yr wybodaeth a gesglir gennym at ddibenion adolygiad mewnol, i wella neu addasu cynnwys a/neu gynllun y safle, ac i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth i ddefnyddwyr y safle. Ni fydd yn cael ei rhannu gydag unrhyw sefydliadau eraill at ddibenion masnachol.

Mae’n cyfrifoldebau ac atebolrwydd i chi wrth ddarparu’r safle hwn ac unrhyw wasanaethau cysylltiol wedi’u cyfyngu fel a ddangosir yn ein hysbysiad ymwadiad <cyswllt>.

Rheolau gwasanaeth ‘Cyflwyno ffrind’

Mae defnyddio’n gwasanaeth ‘Cyflwyno ffrind’ yn amodol ar dderbyn yr amodau a thelerau penodol canlynol -

  • Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r gwasanaeth i anfon negeseuon at unigolion yn unig.
  • Rhaid eich bod yn adnabyddus i’r unigolion hynny yn bersonol trwy gysylltiad blaenorol.
  • Ni fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth i geisio busnes neu sefydlu cysylltiad busnes.
  • Fe’ch gwaherddir rhag cyhoeddi neu drosglwyddo drwy’r gwasanaeth unrhyw ddeunydd neu neges anghyfreithlon, difenwol, anweddus, sarhaus neu gywilyddus, neu unrhyw ddeunydd neu neges sy’n golygu neu sy’n annog ymddygiad yr ystyrir i fod yn drosedd, sy’n debygol o achosi atebolrwydd sifil, neu sydd, fel arall, yn torri unrhyw gyfraith. Byddwn yn cydweithredu’n llawn ag unrhyw awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu orchymyn llys sy’n gofyn i ni neu sy’n rhoi cyfarwyddyd i ni ddatgelu enw unrhyw un sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn y dull hwn.
  • Rydych yn cytuno i ryddarbed Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi rhag unrhyw golled, atebolrwydd, cais, hawliad, difrod, neu gostau (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol) a honnir gan unrhyw drydydd parti sydd o ganlyniad i neu’n codi o neu mewn cysylltiad â’ch defnydd o’r gwasanaeth.

Gwasanaethau ar-lein

Mae gan nifer o’n gwasanaethau ar-lein amodau a thelerau penodol sy’n gysylltiedig â’r defnydd ohonynt. Gofynnir i chi gadarnhau eich bod yn derbyn y rhain pan yn eu defnyddio am y tro cyntaf.

Hawlfraint a hawliau eiddo deallusol

Caiff y deunydd sy’n ymddangos ar y safle hwn ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron a/neu hawlfraint trydydd parti. Ceir manylion yn ein hysbysiad hawlfraint <cyswllt>.

Marciau perchnogol CATHEM yw enwau, delweddau a logos adnabod CATHEM. Ni chaniateir copïo ein logos a/neu logos unrhyw drydydd parti arall a geir atynt trwy’r safle hwn heb ganiatâd gan y perchennog hawlfraint perthnasol ymlaen llaw.

Dylid anfon ceisiadau i ddefnyddio’n logo at ein tîm Cyfryngau a Chyfathrebu ar 020 7147 2310.

Cysylltu â gwefan CATHEM

Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau ar y safle hwn. Ni fyddwn yn gwrthwynebu i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar ein safle. Er hynny, nid ydym yn caniatáu i’n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich safle. Rhaid i dudalennau CATHEM lwytho i ffenestr gyfan y defnyddiwr.

Er mwyn eich helpu i gysylltu â’n safle, rydym wedi creu dewis o fotymau y gallwch eu defnyddio i’r diben hwn.

Cysylltiadau â gwefannau allanol

Nid yw CATHEM yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau eraill y byddwn ni’n darparu cyswllt iddyn nhw ac ni fydd o reidrwydd yn cefnogi’r farn a fynegwyd ynddyn nhw. Ni ddylid ystyried rhestru fel cadarnhad o unrhyw fath. Ni allwn warantu bod y cysylltiadau hyn yn gweithio bob amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cyswllt. Yn benodol, nid yw CATHEM yn gyfrifol am unrhyw bolisïau preifatrwydd ar wefannau allanol ac argymhellwn eich bod yn darllen y datganiadau perthnasol ar unrhyw wefan arall y byddwch chi’n ymweld â hi. Nid yw CATHEM yn gyfrifol am ganlyniadau uniongyrchol nac anuniongyrchol eich cyswllt ag unrhyw wefan arall o’r wefan hon.

Amddiffyn rhag firws

Byddwn yn gwneud pob ymdrech rhesymol i wirio a phrofi deunyddiau ym mhob cam wrth greu’r wefan hon ac eithrio firysau ohoni. Mae bob amser yn ddoeth rhedeg rhaglen gwrth-firws gyfredol ar bob deunydd sy’n cael ei ddadlwytho o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golli, amharu ar na niwed i’ch data na’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunyddiau a geir o wefan CATHEM.

Polisi Preifatrwydd

Mae’n Polisi Preifatrwydd <cyswllt> yn egluro sut y byddwn yn diogelu ac yn parchu unrhyw ddata y byddwn yn ei gasglu gennych. Mae defnyddio’r safle hwn yn golygu derbyniad o’r polisi hwn.

Cyfraith lywodraethol

Caiff yr amodau a thelerau hyn eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan yr amodau a thelerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.

Diweddarwyd yr Amodau a Thelerau hyn ddiwethaf ym mis Ebrill 2005.