Cynnwys
Pan fyddwn yn derbyn eich ffurflen dreth, byddwn yn nodi eich ffigurau ar eich cofnod treth ar ein cyfrifiadur. Os ydym yn sylwi ar unrhyw gamgymeriadau amlwg, h.y. yn y rhifyddeg, byddwn yn eu cywiro ac yn dweud wrthych amdanyn nhw. Os nad ydych yn cytuno â'r hyn rydym wedi'i wneud, gallwch ofyn i ni wrth-droi unrhyw newidiadau a wnaethpwyd. Os ydych yn gofyn i ni gyfrifo eich bil treth, byddwn yn anfon cyfrifiad treth atoch ar ffurflen SA302, gan ddefnyddio eich ffigurau. Os ydym wedi cywiro unrhyw beth, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth rydym wedi'i wneud. Os ydych wedi cyfrifo eich bil treth eich hun ac mae angen i ni gywiro unrhyw rai o'ch ffigurau, byddwn yn anfon cyfrifiad treth diwygiedig atoch. Pan gewch y cyfrifiad treth, mae angen i chi
Os ydych am newid unrhyw beth, gadwch i ni wybod yn syth er mwyn i ni allu rhoi trefn ar bethau yn gyflym. Dylech wneud hyn erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth nesaf fan bellaf. Peidiwch â phoeni os ydym wedi cywiro unrhyw ffigurau yn y ffordd hon. Ni chodir cosbau ar gyfer y math hwn o gamgymeriad. Ond byddai o ddefnydd i chi ac i ni yn y dyfodol os ydych yn gwneud nodyn o ble yr aethoch o'i le - bydd hyn yn eich cynorthwyo i osgoi gwneud camgymeriadau tebyg y flwyddyn ganlynol. Gofynnwch i ni ynglyn ag unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall. Rydym yn agor cyfrif treth i bawb sy'n cael ffurflen dreth. Gallwch ddisgwyl cael Datganiad o Gyfrif
Pan gewch eich Datganiad o Gyfrif (SA300), gwnewch yn siwr eich bod yn cytuno â'r cofnodion. Os yw'n dangos eich bod wedi talu gormod, gallwch naill ai adael yr arian yn eich cyfrif neu hawlio ad-daliad. Os yw'n dangos bod angen i chi dalu rhywbeth, gwnewch yn siwr ein bod yn derbyn eich taliad erbyn y dyddiad cau neu fe fydd rhaid i chi dalu llog (a gordal o bosib). Mae'r Llyfryn SA/BK7 - 'Hunanasesiad - Gordaliadau am dalu treth yn hwyr' yn rhoi gwybodaeth bellach am ordaliadau ar gyfer talu treth yn hwyr. Gallwch edrych arno ar y safle hwn neu cewch gopi o'ch Swyddfa Cyllid y Wlad leol. Y cyswllt rhwng y cyfrifiad treth a'ch Datganiad o Gyfrif Bydd y dreth (a chyfraniadau Yswiriant Gwladol) a ddangosir ar y Cyfrifiad Treth (SA302) yn ymddangos ar eich cyfrif treth sydd gennym i chi. Byddwn yn anfon Datganiad o Gyfrif (SA3000) atoch ym mis Rhagfyr gyda manylion ynglyn â sut i dalu unrhyw dreth sy'n daladwy ar 31 Ionawr. Os nad ydym yn derbyn eich ffurflen dreth mewn pryd i anfon Cyfriflen atoch sy'n dangos beth i'w dalu ym mis Ionawr, byddwn yn anfon nodyn atgoffa atoch i dalu a bydd angen i chi gyfrifo faint o dreth sy'n daladwy eich hun. Mae angen i chi sicrhau bod eich taliad yn cyrraedd erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth fan bellaf. Os yw'ch Datganiad o Gyfrif (SA300) yn dangos bod ad-daliad yn daladwy
Os yw'n dangos bod treth (a CYG dosbarth 4) gennych i'w thalu, mae angen i chi sicrhau bod eich taliad yn cael ei anfon atom erbyn 31 Ionawr. Mae eich pecyn ffurflen dreth yn cynnwys amlen os ydych am anfon siec atom trwy'r post. Talu'r dreth sy'n daladwy trwy Dalu Wrth Ennill (TWE) Os ydych yn weithiwr, fel arfer gallwn drefnu i gasglu'r dreth sy'n daladwy trwy gôd TWE y flwyddyn i ddod. Dylwn allu gwneud hyn os
Os ydym yn casglu'r dreth sy'n daladwy trwy TWE, cewch Gyfrifiad Treth (SA302) o hyd sy'n dangos y dreth sy'n daladwy, ond bydd eich Datganiad o Gyfrif (SA300) yn cadarnhau y caiff y dreth ei chasglu trwy TWE. Os gofynnoch chi i ni gasglu eich treth trwy TWE, ond ni allwn wneud hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy anfon nodyn atgoffa atoch ym mis Rhagfyr. Mae rhai pobl - pobl hunangyflogedig yn bennaf - hefyd yn gwneud dau daliad ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth cyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno'r ffurflen am y flwyddyn honno. Mae taliadau ar gyfrif yn daladwy ar:
Nid oes rhaid i'r rhan fwyaf o bobl wneud taliadau ar gyfrif. Os ydych yn gyflogai neu os ydych yn talu treth CIS25 (taleb taliad treth y Diwydiant Adeiladu), nid yw'n debyg y bydd rhaid i chi wneud hynny. Os ydym yn derbyn eich Ffurflen Dreth cyn 30 Medi ac rydych yn gofyn i ni gyfrifo eich treth ar eich rhan, byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi pa daliadau ar gyfrif y bydd angen i chi eu gwneud ar gyfer y flwyddyn dreth yn dilyn blwyddyn y ffurflen dreth. Os ydych yn cyfrifo'r dreth eich hun, yna bydd eich Cyfrifiad Treth (SA302) yn dangos os oes rhaid i chi wneud taliadau ar gyfrif ar gyfer y flwyddyn dreth yn dilyn blwyddyn y ffurflen dreth. Er enghraifft, bydd eich cyfrifiad treth yn seiliedig ar eich ffurflen ar gyfer 2000-2001 yn dangos os oes angen i chi wneud taliadau ar gyfrif ar gyfer 2001-2002. Os oes rhaid i chi wneud taliadau, bydd yn dangos faint y mae'n rhaid i chi ei dalu. Mae'n bosib y byddwn yn gofyn cwestiynau i chi ynghylch yr hyn a nodwyd ar eich ffurflen dreth. Os ydym yn gwneud hyn, byddwn yn ysgrifennu atoch gan ddweud wrthych ein bod yn cynnal 'ymchwiliad'. Fel rheol, cynhelir hyn o fewn blwyddyn o'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd eich ffurflen, ond gall fod yn hwyrach na hyn os ydych yn anfon eich ffurflen yn hwyr. Mae'n bosib y byddwn yn holi ynglyn â'r ffigurau ac yn gofyn i chi anfon y cofnodion lle y cawsoch y ffigurau hyn. Gallwn hefyd wirio'r ffigurau yn erbyn unrhyw fanylion a dderbyniwyd o ffynonellau eraill, fel eich cyflogwr neu'ch banc. Os ydym yn cynnal ymchwiliad i'ch ffurflen, byddwn hefyd yn esbonio beth
fydd yn digwydd a beth yw'ch hawliau trwy anfon llyfryn atoch o'r enw
'Côd Ymarfer 11 -
Ymchwiliadau i Ffurflenni Treth gan Swyddfeydd Treth lleol' neu grynodeb
o'r llyfryn hwnnw. |
|||||||||||||
| Hafan | ||||
