Hunanasesiad: Pwt o Gyngor ar Hunanasesiad
| Awgrym 1: Peidiwch â bod ofn gofyn am gymorth
Os oes ymgynghorydd treth gennych, efallai y byddwch am ofyn iddynt ynglyn â Hunanasesiad. Os nad oes ymgynghorydd treth gynnych, gallwch gysylltu â'ch swyddfa Cyllid y Wlad - mae'r cyfeiriad a'r rhif ffôn ar flaen eich Ffurflen Dreth - neu gallwch gysylltu ag un o'n Canolfannau Ymholiadau Cyllid y Wlad. Mae eu cyfeiriadau yn eich llyfr ffôn lleol dan 'Inland Revenue'. Mae'r rhan fwyaf o swyddfeydd Cyllid y Wlad ar agor i'r cyhoedd o 8.30 a.m. - 4.30 p.m. Llun - Gwener ac mae rhai ar agor y tu allan i'r oriau hyn. Gallwch ffonio Llinell Gymorth Hunanasesiad (Cymraeg) ar 0845 7 660 830 neu os yw swyddfa Cyllid y Wlad ar gau, gallwch ffonio Llinell Gymorth Hunanasesiad (Saesneg) ar 0845 9000 444. (Os ydych yn ffonio o dramor y rhif ffôn yw: 44 541 555445) am gyngor cyffredinol. Mae'r Llinell Gymorth ar agor yn yr hwyr ac ar y penwythnos. Codir tâl ar y gyfradd leol am y galwadau hyn. Awgrym 2: Cadwch gofnodion treth da bob blwyddyn Mae'n rhaid i bawb, dan y gyfraith, gadw cofnodion treth o'u hincwm, enillion cyfalaf a gwariant am o leiaf 22 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y maen nhw'n cyfeirio atynt, er mwyn iddynt allu cwblhau Ffurflen Dreth yn llawn ac yn gywir os ydynt yn derbyn un. Rhaid i bobl sydd â busnesau, fel yr hunangyflogedig, partneriaid a'r rheiny sy'n gosod eiddo, gadw eu cofnodion am o leiaf pum mlynedd a deg mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y maen nhw'n cyfeirio ati. Bydd cadw cofnodion da a threfnus yn ei gwneud hi'n haws i chi gwblhau eich ffurflen. Cadwch eich holl gofnodion treth mewn un lle. Mae'n syniad da i gadw'r papurau ar gyfer bob blwyddyn mewn ffeil, amlen fawr neu flwch 'treth' ar wahân. Mae'r llyfryn SA/BK3 'Canllaw ar gadw cofnodion i'r hunangyflogedig' a SA/BK4 'Canllaw cyffredinol ar gadw cofnodion' ar gael ar dudalen 'Taflenni a Llyfrynnau' neu o'r Llinell Archebu (Cymraeg) ar 0845 7 660 830 neu'r Llinell Archebu (Saesneg) ar 0845 9000 404. Awgrym 3: Dechreuwch yn gynnar. Does dim byd i ennill wrth oedi. Gwyddom ei bod hi'n hawdd gohirio cwblhau eich ffurflen dreth, ond nid oes dim i'w ennill drwy wneud hyn. A wyddoch eich bod yn gallu anfon eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad dros y Rhyngrwyd? Am fanylion pellach gweler ein tudalennau Gwasanaeth Rhyngrwyd ar gyfer Hunanasesiad. Pan gewch eich ffurflen dreth, gwnewch yn siwr ein bod ni wedi anfon y tudalennau y mae eu hangen arnoch. Yna meddyliwch am yr hyn y mae angen i chi ei wneud i'w chwblhau. Os oes ymgynghorydd treth gennych, gofynnwch ba wybodaeth y mae angen i chi ei darparu ac erbyn pryd y maen nhw am gael yr wybodaeth honno. Hyd yn oed os ydych yn cyfrifo eich bil treth eich hun, nid yw'n syniad da i aros tan fis Ionawr i anfon eich ffurflen dreth. Gallai hyn olygu eich bod yn talu'r swm anghywir o dreth oherwydd, os ydych wedi gwneud camgymeriad, efallai na fydd digon o amser gennym i gywiro eich cyfrifiad drosoch cyn bod eich taliad yn daladwy ar 31 Ionawr. Dylech ystyried manteision cwblhau eich ffurflen yn gynnar. Os byddwch yn dychwelyd eich ffurflen erbyn 30 Medi ar ôl diwedd y flwyddyn dreth byddwn, os ydych yn dymuno
Awgrym 4: Gwnewch yn siwr bod eich ffurflen wedi'i chwblhau Mae'n rhaid i chi roi ffigurau yn y blychau perthnasol. Os byddwch yn ysgrifennu pethau fel 'gwybodaeth i ddilyn' neu 'gweler y cyfrifon amgaeëdig' neu 'yn ôl TWE', ni fyddwn yn derbyn eich ffurflen a byddwn yn ei hanfon yn ôl i chi. Mae'n rhaid i chi dalu cosb os nad ydym yn derbyn ffurflen wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau. Mae llyfryn SA/BK6 - 'Hunanasesiad - Cosbau am ffurflenni treth hwyr' ar gael ar dudalen 'Taflenni a Llyfrynnau' neu o'r Llinell Archebu (Cymraeg) ar 0845 7 660 830 neu'r Llinell Archebu (Saesneg) ar 0845 9000 404. Awgrym 5: Talwch mewn da bryd Gwnewch nodyn yn eich dyddiadur neu galendr er mwyn i chi dalu mewn da bryd. Bydd rhaid i chi dalu llog, a gordaliadau o bosib, os ydych yn talu'n hwyr. Mae'r llyfryn SA/BK7 - Hunanasesiad - 'Gordaliadau am dalu treth yn hwyr' ar gael ar dudalen 'Taflenni a Llyfrynnau', neu o'r Llinell Archebu (Cymraeg) ar 0845 7 660 830 neu'r Llinell Archebu (Saesneg) ar 0845 9000 404. Awgrym 6: Cadwch eich materion treth yn gyfoes Bydd yn haws i chi reoli eich materion treth os ydych yn eu cadw'n gyfoes. Os ydych ar ei hôl hi, mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu llog, gordaliadau a chosbau. Os nad ydych yn glir ynglyn â'r hyn y mae angen i chi ei wneud, cysylltwch â'ch swyddfa Cyllid y Wlad neu'ch ymgynghorydd treth. Mae llyfrynnau SA/BK7 - 'Hunanasesiad
- Gordaliadau am dalu treth yn hwyr' a SA/BK6 - 'Hunanasesiad
- Cosbau am ffurflenni treth hwyr' ar gael ar dudalen 'Taflenni
a Llyfrynnau' neu o'r Llinell Archebu (Cymraeg) ar 0845
7 660 830 neu'r Llinell Archebu (Saesneg) ar 0845
9000 404. |
|
| Hafan | ||||
