| Beth sy'n digwydd os yw fy nhaliad yn hwyr?
Codir llog o'r dyddiad pan roedd y taliad yn daladwy. Codir gordal o bump y cant ar unrhyw ran o'r bil treth sydd heb gael ei dalu 28 diwrnod ar ôl y dyddiad cau. Codir gordal ychwanegol o bump y cant ar unrhyw ran o'r bil treth sydd heb ei dalu chwe mis ar ôl y dyddiad cau. Gallwch apelio yn erbyn y gordaliadau ond bydd rhaid i chi ddangos bod achos teg gennych dros golli'r dyddiad cau. Ni chodir gordaliadau ar daliadau ar gyfrif sydd heb eu talu ond codir llog arnynt. Ond mae taliadau ar gyfrif sydd heb eu talu erbyn dyddiad talu'r bil treth terfynol yn ffurfio rhan o'r bil terfynol hwnnw, ac felly gellir codi gordal arnynt. Dychwelyd a thalu'n hwyr Os yw'ch ffurflen dreth yn hwyr a chredwn eich bod heb dalu digon o dreth mewn pryd, gallwn amcangyfrif swm y dreth y dylech ei dalu. Yr enw am hyn yw 'pennu'r' dreth sy'n daladwy. Gallwch roi eich ffigur chi yn lle ein ffigur ni dim ond trwy anfon eich ffurflen dreth wedi'i chwblhau. Gellir codi cosbau a gordaliadau arnoch hefyd. Mae'r llyfryn SA/BK6 - 'Hunanasesiad - Cosbau am ffurflenni treth hwyr', yn rhoi gwybodaeth bellach am y cosbau os ydych yn dychwelyd ffurflenni yn hwyr, ac Mae'r llyfryn SA/BK7 - Hunanasesiad - 'Gordaliadau am dalu treth yn hwyr' yn rhoi gwybodaeth bellach ynghylch gordaliadau am dalu treth yn hwyr. Gallwch edrych arnynt ar y safle hwn neu cewch gopïau o'ch Swyddfa Cyllid y Wlad leol. Am fwy o wybodaeth ar ddyddiadau a dyddiadau cau a siart hwylus, gweler
Dyddiadau Allweddol. |
|
