Hunanasesiad: Saith cam hawdd i gwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth  
  Gwyddom ei bod hi'n hawdd gohirio dychwelyd eich ffurflen dreth. Ond nid oes unrhyw fantais o wneud hyn mewn gwirionedd. Os ydych yn mynd i'r afael â hyn yn gynnar, bydd mwy o amser gennych i gael cymorth os bydd ei angen arnoch. Dilynwch y cyfarwyddiadau syml cam wrth gam hyn ac efallai y bydd hi'n haws nag roeddech chi'n meddwl:
   
1. Casglwch eich holl gofnodion treth ynghyd e.e. cyfriflenni banc a chymdeithas adeiladu, enillion busnes, treuliau, neu gyfrifon lle y bo'n briodol. Os ydych ar TWE mae'n debyg y byddwch yn cael P60 ac efallai cewch gopi o ffurflen P11D gan eich cyflogwr. Os ydych wedi newid swyddi, dylai fod gennych P45 Rhan 1A.
   
2. Os ydych wedi derbyn ffurflen dreth bapur darllenwch dudalennau 1 a 2 yn gyntaf. Penderfynwch os ydych am ddychwelyd eich Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd. Cewch fanylion am hyn ar ein tudalennau Gwasanaeth Rhyngrwyd ar gyfer Hunanasesiad.
   
3.

Penderfynwch os ydych am ddychwelyd eich ffurflen erbyn 30 Medi neu 31 Ionawr.

30 Medi ar ôl diwedd y flwyddyn dreth

  • Mae'n rhaid i ni dderbyn eich ffurflen dreth erbyn 30 Medi os ydych am i ni gynnwys unrhyw dan-daliad sy'n llai na £2000 yn eich rhif côd TWE
  • Byddwn yn cyfrifo eich treth ac yn rhoi gwybod i chi faint sy'n daladwy erbyn y dyddiad talu, 31 Ionawr os byddwn yn derbyn eich ffurflen erbyn y dyddiad hwnnw. Os byddwn yn derbyn eich ffurflen ar ôl y dyddiad hwn ac nid ydych wedi cyfrifo eich treth, byddwn yn gwneud hyn drosoch ond ni allwn warantu y byddwn yn rhoi gwybod i chi faint i'w dalu erbyn 31 Ionawr.

Cofiwch: Os ydych yn cyflwyno eich Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd bydd y Meddalwedd a'r ffurflenni Ar-lein yn cyfrifo eich bil treth ar eich rhan.

31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth

  • Dyma'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd eich ffurflen dreth neu bydd rhaid i chi dalu cosb awtomatig o £100.

Nodwch: Gall y dyddiadau cau ar gyfer Ffurflenni Partneriaeth fod yn wahanol - edrychwch ar yr adran "Sut ydw i'n cwblhau a dychwelyd fy Ffurflen Dreth?" dan yr adran Partneriaethau.

   
4.

Os ydych yn bwriadu anfon ffurflen bapur gwnewch yn siwr bod gennych yr holl dudalennau y mae eu hangen arnoch trwy lenwi tudalen dau eich ffurflen dreth.

Os bydd angen tudalennau ychwanegol arnoch:

  • ffoniwch Linell Archebu Hunanasesiad ar 0845 9000 404. Mae ar agor o 8 a.m. - 10 p.m., saith diwrnod yr wythnos a chodir galwadau ar gyfraddau lleol.
  • fel arall, gallwch ffacsio'ch archeb i Linell Archebu HA ar 0845 9000 604 neu anfonwch e-bost at St Austell Orderline
  • os ydych yn ffonio o dramor, rhif ffôn y Llinell Archebu HA yw: 44 870 1555664 neu ffacs: 44 870 1555778
  • dadlwythwch y ffurflenni perthnasol yma
   
5.

Cwblhewch y ffurflen dreth trwy ddilyn y nodiadau arweiniad yn y Ffurflen Dreth a'r Canllaw i'r Ffurflen Dreth. Dylech sicrhau eich bod yn eu deall ac yn sicr o'r ffigurau rydych am eu nodi cyn llenwi'r ffurflen.

Sylwer: Ni fyddwch yn derbyn y Canllaw i'r Ffurflen Dreth os ydych chi fel arfer yn anfon eich ffurflen dreth neu os yw'ch asiant/ymgynghorydd treth yn anfon eich ffurflen dreth ar eich rhan trwy ddull electronig.

   
6.

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â'r:

  • tîm Hunanasesiad yn eich Swyddfa Cyllid y Wlad (mae'r rhif ffôn ar frig eich ffurflen)
  • neu os yw'r swyddfa ar gau, ffoniwch Linell Gymorth Hunanasesiad (Cymraeg) ar 0845 7 660 830 neu ffoniwch Linell Gymorth Hunanasesiad (*Saesneg) ar 0845 9000 444. *Mae ar agor yn yr hwyr ac ar y penwythnos a chodir tâl ar y gyfradd leol am y galwadau. (Os ydych yn ffonio o dramor, y rhif ffôn yw: 44 541 555445).
   
7.

Edrychwch dros eich ffurflen dreth ar ôl i chi ei gorffen, gan sicrhau nad ydych wedi anghofio unrhyw beth, fel ei llofnodi a chynnwys eich holl dudalennau atodol a ffurflenni perthnasol fel CIS25 (talebau Cynllun y Diwydiant Adeiladu). Yn olaf, gwnewch yn siwr eich bod yn ei hanfon atom naill ai erbyn 30 Medi neu 31 Ionawr.

Cofiwch

  • po gynharaf rydych yn cwblhau eich ffurflen dreth, po fwyaf o amser fydd gennych i gael cymorth gennym os oes ei angen arnoch.
  • nid yw anfon eich ffurflen dreth yn gynharach yn golygu y bydd rhaid i chi dalu treth yn gynharach.
   
Hafan
   Brig  |  Dewislen