Cynnwys
Beth os ydw i newydd ddechrau gwaith hunangyflogedig neu'n ystyried dechrau gwaith hunangyflogedig? Pan fyddwch yn dechrau gweithio dros eich hun, bydd rhaid i chi gofrestru fel gweithiwr hunangyflogedig gyda Chyllid y Wlad. Mae'r adran Dechrau mewn Busnes ar wefan Cyllid y Wlad yn rhoi manylion llawn ar sut i gofrestru ac mae'n rhoi manylion am y prif faterion treth ac Yswiriant Gwladol sy'n gysylltiedig â rhedeg busnes. Sut mae Hunanasesiad yn effeithio arna i? Rydych yn hunangyflogedig os ydych mewn busnes ar eich pen eich hun ac nid ydych yn gweithredu trwy gwmni cyfyngedig. Gallai hyn gynnwys cyflenwi nwyddau neu wasanaethau trwy fusnes un person neu fusnes sy'n cyflogi eraill. Byddwch hefyd yn hunangyflogedig os ydych yn bartner, naill ai mewn partneriaeth fawr neu gydag un partner yn unig. Am fwy o wybodaeth ar bartneriaethau gweler ar 'Bartneriaethau'. Os ydych yn hunangyflogedig, bu'n rhaid i chi gwblhau ffurflen dreth bob amser. Erbyn hyn, mae gan nifer o bobl hunangyflogedig system dreth sy'n haws i'w dilyn. Mae egwyddorion cyffredinol Hunanasesiad yr un peth i bawb. Ond mae'r gwahanol fathau o incwm ac enillion sydd gennych yn effeithio ar ba dudalennau atodol y ffurflen dreth y mae angen i chi eu cwblhau. Mae prif nodweddion Hunanasesiad yn cynnwys:
Asesiad ar sail y flwyddyn bresennol Nodwedd bwysig i drethdalwyr hunangyflogedig yw cyflwyno asesiad ar sail y flwyddyn bresennol. Mae'r dyddiad dechrau ar gyfer hyn yn dibynnu ar bryd y dechreuoch chi eich busnes. Dan yr hen system, roedd eich asesiad treth yn seiliedig ar eich elw masnachu ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn diweddu yn y flwyddyn dreth cyn y flwyddyn y mae'r ffurflen yn cyfeirio ati. Roedd rheolau cymhleth ar ddechrau ac ar ddiwedd y busnes. Newidiodd hwn dan Hunanasesiad. Erbyn hyn, cyfrifir treth ar yr elw sy'n codi yn y flwyddyn dreth ei hun. Os yw'ch cyfnod cyfrifyddu yn wahanol i'r flwyddyn dreth, cyfrifir treth ar yr elw sy'n codi yn y cyfnod cyfrifyddu o 12 mis sy'n diweddu yn y flwyddyn dreth. Mae'r system yn symlach, yn arbennig i fusnesau sy'n paratoi cyfrifon i 31 Mawrth neu 5 Ebrill. Mae'n sicrhau bod cyfanswm yr elw a gaiff ei asesu dros fywyd y busnes cyfan yn gyfwerth yn union â chyfanswm yr elw a gynhyrchwyd. Wrth i fusnesau symud i'r sail blwyddyn bresennol, roedd un flwyddyn, 1996-97 pan wnaeth cyfrifon 'ddal i fyny' â'r flwyddyn roedd yn cael ei threthu. Felly yr elw a aseswyd ar gyfer 1996-97 fyddai cyfartaledd y ddwy set o gyfrifon yn diweddu yn 1995-96 a 1996-97. Os aethoch yn hunangyflogedig neu os dechreuodd eich busnes partneriaeth ar 6 Ebrill 1994 neu'n hwyrach, byddwch wedi cael eich trethu o'r cychwyn ar sail y flwyddyn bresennol. Pa gofnodion ddylwn i eu cadw? Tan yn ddiweddar, nid oedd unrhyw ofyniad cyfreithiol i gadw cofnodion ar gyfer treth incwm, er bod Tollau Tramor a Chartref yn ei gwneud hi'n ofynnol i fasnachwyr cofrestredig gadw cofnodion ar gyfer TAW. Ond, rydym bob amser wedi cynghori busnesau ei bod er eu lles nhw eu hunain i gadw'r holl gofnodion sydd eu hangen er mwyn helpu i baratoi cyfrifon a ffurflenni treth. Mae rheolau a gyflwynwyd yn Neddf Cyllid 1994 yn golygu bod angen i chi gadw'r holl gofnodion priodol bellach. Fel rheol, byddwn yn disgwyl i chi:
Bydd rhaid i chi gadw eich cofnodion am bum mlynedd o'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd eich ffurflen dreth. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar gadw cofnodion yn SA/BK3 - Hunanasesiad. Canllaw ar gadw cofnodion i'r hunangyflogedig. Sut ydw i'n cwblhau a dychwelyd fy Ffurflen Dreth? Os ydych yn hunangyflogedig bydd angen i chi gwblhau:
Mae eich pecyn ffurflen dreth hunanasesiad yn cynnwys canllaw cam wrth gam ar sut i gwblhau pob adran eich ffurflen ynghyd â chanllaw ar sut i gyfrifo eich treth os ydych am wneud hynny. Sylwer: Ni chewch Canllaw i'r Ffurflen Dreth (SA150) a Chyfrifiad Treth (SA151C) os ydych yn anfon eich ffurflen yn electronig neu os yw'ch asiant/ymgynghorydd treth yn anfon eich ffurflen ar eich rhan. Ond gallwch edrych ar y canllawiau hyn a/neu eu dadlwytho o'r safle hwn - gweler isod. Cwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd Gwybodaeth gyffredinol ar gwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth Cysylltiadau Eraill Beth sy'n digwydd ar ôl i mi ddychwelyd
fy Ffurflen Dreth? Sut a phryd ydw i'n talu fy nhreth? Bydd rhaid i chi dalu unrhyw dreth sy'n daladwy erbyn 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae'r ffurflen dreth yn cyfeirio ati. Efallai y bydd rhaid i chi wneud dau daliad ar gyfrif hefyd ar gyfer y flwyddyn dreth cyn y dyddiad pan fydd rhaid i chi gyflwyno'r ffurflen ar gyfer y flwyddyn honno. Telir taliadau ar gyfrif ar:
Os yw swm y ddau daliad hyn yn fwy neu'n llai na'r dreth sydd mewn gwirionedd yn daladwy am y flwyddyn dreth honno, bydd taliad o'r gweddill (neu ad-daliad) yn daladwy ar y 31 Ionawr dilynol. Faint fyddwch chi'n ei dalu ar gyfrif? Os ydych yn cyfrifo eich treth eich hun, byddwch hefyd yn cyfrifo eich taliadau ar gyfrif eich hun. Bydd pob taliadau ar gyfrif yn un hanner y bil treth incwm ar gyfer y flwyddyn flaenorol ar ôl didynnu treth a dalwyd wrth y ffynhonnell e.e. TWE. Os byddwn yn cyfrifo eich treth drosoch, byddwn hefyd yn dweud wrthych os oes rhaid i chi wneud taliadau ar gyfrif a faint i'w dalu. Ni fydd angen i chi wneud taliadau ar gyfrif:
Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ostwng eich taliadau ar gyfrif. Bydd y Canllaw Cyfrifo Treth yn dweud wrthych pryd y gallwch wneud hyn. Dewisiadau ar gyfer talu Mae sawl opsiwn gwahanol ar gael ar gyfer talu eich treth. Am fanylion edrychwch ar yr adran Taliadau ar wefan Cyllid y Wlad. Cysylltiadau Eraill Beth sy'n digwydd os yw fy nhaliad yn hwyr? |
|||||||
| Hafan | ||||