| Mae Hunanasesiad yn ffordd gliriach o gyfrifo a thalu treth.
Mae'n berthnasol i bawb sy'n derbyn ffurflen dreth. Nid yw'r mwyafrif helaeth
o bobl yn cael ffurflen dreth ac maen nhw'n talu eu treth i gyd dan TWE.
Beth gewch chi trwy'r post bob mis Ebrill? Bydd yr hyn a gewch drwy'r post bob mis Ebrill yn dibynnu ar sut rydych yn dychwelyd eich ffurflen dreth. Lle bynnag y bo modd, mae Cyllid y Wlad am osgoi anfon ffurflen bapur i drethdalwyr nad ydynt yn debygol o'i defnyddio, er enghraifft, trethdalwyr:
Os ydych yn drethdalwr Hunanasesiad ac rydych yn dychwelyd eich ffurflen bapur eich hun, byddwn yn anfon tair dogfen atoch bob mis Ebrill:
Os nad oes ymgynghorydd treth gennych, ond rydych yn dychwelyd eich ffurflen trwy ddull electronig gan ddefnyddio'r Gwasanaeth Rhyngrwyd ar gyfer Hunanasesiad, ni fyddwn yn anfon y Ffurflen Dreth a Chanllawiau papur safonol atoch. Yn lle hynny, byddwn yn anfon Rhybudd i Gwblhau Ffurflen Dreth atoch (SA316). Ni anfonir y rhain os yw Ffurflenni Treth yn cael eu hanfon ar ôl prif ddosbarthiad mis Ebrill. Mewn achosion o'r fath, bydd Ffurflen Dreth bapur yn cael ei hanfon bob tro. Os oes ymgynghorydd treth gennych sy'n cwblhau'r ffurflen ar eich rhan, bydd y dogfennau a dderbyniwch bob mis Ebrill yn dibynnu ar sut mae'ch ymgynghorydd yn dychwelyd eich Ffurflen Dreth:
Ble allwch chi gael mwy o wybodaeth i'ch cynorthwyo gyda'ch ffurflen dreth? Mae gwybodaeth fanylach ar gael yn y taflenni cymorth a'r taflenni a restrir yn y Canllaw i'r Ffurflen Dreth. Mae'r rhain, yn ogystal â'r tudalennau atodol a ffurflenni Hunanasesiad eraill, ar gael o: Llinell Archebu Hunanasesiad (Cymraeg) Llinell Archebu Hunanasesiad (Saesneg) Os ydych yn ffonio o dramor: Fel arall gallwch edrych ar y rhain neu eu dadlwytho o'r tudalennau Ffurflenni Treth a Nodiadau. I gael cyngor ynglyn â Hunanasesiad, edrychwch ar y dudalen 'Pwt o Gyngor ar Hunanasesiad' dan wybodaeth a chymorth ychwanegol. Oes unrhyw sylwadau gennych chi? Rydym wedi profi'r ffurflen dreth a'r canllawiau yn drwyadl gyda threthdalwyr er mwyn eu gwneud mor hawdd i'w defnyddio â phosib. Os oes unrhyw sylwadau gennych ar y ffurflen neu'r canllaw, rhowch wybod i ni trwy ysgrifennu i: Cymorth Hunanasesiad a Rhwydwaith Efallai na fyddwn yn gallu ymateb i bob un o'ch sylwadau, ond byddwn yn eu hystyried pan fyddwn yn gwella ein ffurflen dreth a'n canllaw yn y dyfodol. Diolch am eich cymorth. |
|
| Hafan | ||||
