Llinell Gymorth Hunanasesiad  
  Os oes angen cymorth arnoch ac mae'r swyddfa dreth ar gau, ffoniwch y Llinell Gymorth Gymraeg ar 0845 7 660830 neu'r Llinell Gymorth Saesneg* ar 0845 9000 444 (*ar agor yn yr hwyr ac ar y penwythnos - codir tâl ar y gyfradd leol am y galwadau).

Os ydych yn ffonio o dramor deialwch 44 541 555445.

Mae Llinell Gymorth Hunanasesiad yn wasanaeth ffôn cenedlaethol sy'n darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth ar ystod eang o ymholiadau Hunanasesiad i drethdalwyr, asiantau a chyflogwyr.

Mae'r *gwasanaeth ar gael yn yr hwyr ac ar y penwythnos ac mae ar agor bob diwrnod o'r flwyddyn, ac eithrio 25 a 26 Rhagfyr a 1 Ionawr, am gost galwad cyfradd leol.

Yn ystod oriau swyddfa, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth eich hun. Os nad ydych am esbonio eich cwestiwn dros y ffôn, galwch heibio Canolfan Ymholiadau Cyllid y Wlad.

Mae galwadau a dderbynnir gan y Llinell Gymorth yn cael eu cyfeirio'n awtomatig gan y system gyfrifiadurol i'r aelod staff cyntaf sydd ar gael. Rydym wedi ein hymrwymo'n llwyr i ddarparu gwasanaeth sydd o'r radd flaenaf yn gyson. Gwnawn hyn trwy fabwysiadu ymagwedd sydd â phwyslais ar y cwsmer. Mae hyn yn ein galluogi i roi cymorth clir, dealladwy a chywir i bob galwr, o un man cyswllt.

Mae angen i staff sy'n ateb eich galwadau gael ystod eang o wybodaeth, nid yn unig am Hunanasesiad ond am faterion treth yn gyffredinol. Felly cânt eu hyfforddi i safon uchel iawn er mwyn eu galluogi i ateb eich ymholiadau.

Mae cyfleuster MINICOM gennym (gan ddefnyddio'r un rhif 0845 9-000444) a gallwn drosglwyddo eich galwad yn awtomatig i Linell Archebu Cyllid y Wlad os oes angen unrhyw dudalennau/taflenni/taflenni cymorth ychwanegol ac ati arnoch.

Amserau Brig
Ein hamserau brig ar gyfer galwadau yw:-
Diwrnodau'r Wythnos 5 p.m. - 6 p.m.
Dydd Sadwrn 10 a.m. - 11 a.m.
Dydd Sul 11 a.m. - 12 hanner dydd
Trwy osgoi'r amserau brig hyn dylai'ch galwad gael ei ateb yn brydlon.

Mae eich barn yn chi bwysig i ni
Dylech gyfeirio unrhyw gwyn am y ffordd y cafodd eich materion treth eu trin i'ch Swyddfa Dreth eich hun….naill ai drwy lythyr neu alwad ffôn. Croesawn eich sylwadau ar y gwasanaeth a gynigir. Yn arbennig:

  • Awgrymiadau ynglyn â sut y gallwn wella ein gwasanaeth
  • Canmoliaeth, os ydych yn meddwl ein bod yn ei haeddu
  • Cwynion, os ydych yn anfodlon mewn unrhyw ffordd â'r gwasanaeth a gawsoch gan y Llinell Gymorth.

Gofynnwch i siarad â'r rheolwr ar ddyletswydd neu ysgrifennwch at:

Rheolwr y Ganolfan Gyswllt
7ed Llawr
Trinity Bridge House
2 Dearmans Place
Salford
M3 5BN

   
Hafan
   Brig  |  Dewislen