Cynnwys
Cosbau ar gyfer Ffurflenni Treth hwyr Dan Hunanasesiad, mae dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen dreth atom - 31 Ionawr fel rheol ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Bydd cosb benodedig yn daladwy os nad ydych yn cwrdd â'r dyddiad cau hwn. Cosbau penodedig Os nad yw'ch ffurflen dreth wedi cael ei derbyn erbyn 1 Chwefror bydd cosb awtomatig o £100 i'w thalu. Codir ail gosb benodedig o £100 arall os ydych heb gyflwyno eich ffurflen dreth chwe mis yn ddiweddarach - 31 Gorffennaf. Gallwch apelio yn erbyn y cosbau penodedig ond bydd rhaid i chi ddangos bod achos da gennych dros golli'r dyddiad cau. Am fwy o wybodaeth a siart hwylus, edrychwch ar "Dyddiadau Allweddol". Gostwng cosbau penodedig Pan dderbynnir y ffurflen dreth, os yw'r swm cywir o dreth sy'n daladwy ar y dyddiad penodol y mae'n ddyledus yn llai na'r cosbau penodedig, bydd y cosbau'n cael eu gostwng i swm y dreth sy'n daladwy. Gallwn ofyn i'r Comisiynwyr Apêl roi caniatâd i ni osod cosb ddyddiol o hyd at £60 y dydd. Os byddwn yn gwneud hyn o fewn chwe mis o'r dyddiad cau, yna ni fyddwn yn codi'r ail gosb benodedig. Ni fyddwn yn disgwyl gofyn am gosbau dyddiol yn aml - er enghraifft, pan gredwn na fydd codi cosbau penodedig yn ddigon i ddarbwyllo rhywun i ddychwelyd ei ffurflen. Gallwn hefyd osod cosb yn seiliedig ar swm y dreth sy'n daladwy am y flwyddyn, os yw'r ffurflen dreth heb gael ei dychwelyd 12 mis ar ôl y dyddiad cau. Mae'r llyfryn SA/BK6 - Hunanasesiad - Cosbau ar gyfer ffurflenni treth hwyr yn rhoi gwybodaeth bellach am y cosbau a godir ar gyfer ffurflenni treth hwyr. Gallwch edrych arno ar y safle hwn neu cewch gopi ohono o'ch Swyddfa Cyllid y Wlad leol. Cosbau ar gyfer ffurflenni partneriaeth hwyr Os nad ydych yn dychwelyd ffurflen partneriaeth o fewn y terfyn amser, codir cosbau penodedig arnoch. Ac mewn achosion mwy sylweddol, gellir codi cosbau dyddiol. Y gosb benodol gychwynnol fydd £100 i bob partner a oedd yn aelod
yn y bartneriaeth yn ystod y cyfnod y mae'r ffurflen yn cyfeirio ato,
ac fe'i codir ar bartneriaid unigol ac nid y bartneriaeth. Os yw'r ffurflen
heb gael ei dychwelyd 6 mis ar ôl y dyddiad ffeilio, codir cosb
benodedig bellach o £100 y partner oni bai fod cosbau dyddiol eisoes
yn daladwy. Yn ogystal â'r cosbau penodedig gall cosb ddyddiol o hyd at £60 y dydd gael ei chodi ar bob partner perthnasol os yw'r Comisiynwyr yn caniatáu hyn. Mae'r cosbau dyddiol yn gymwys ar gyfer pob diwrnod rydych wedi methu â dychwelyd y ffurflen yn dilyn y dyddiad y rhoddwyd caniatâd y Comisiynwyr. Yn yr un modd â chosbau partneriaeth penodedig, bydd cosbau partneriaeth dyddiol yn cael eu codi ar bartneriaid unigol ac nid y bartneriaeth. Dychwelyd a thalu'n hwyr - Pennu'r dreth sy'n daladwy Os yw'ch ffurflen dreth yn hwyr ac nid ydych wedi talu digon o dreth mewn pryd,
gallwn amcangyfrif swm y dreth y teimlwn y dylech ei dalu. Yr enw
am hyn yw 'pennu'r dreth sy'n daladwy'. Gallwch roi eich ffigurau
chi yn lle ein ffigur ni dim ond trwy anfon eich ffurflen dreth
wedi'i chwblhau atom. Bydd rhaid i chi hefyd dalu cosbau a gordaliadau.
Mae'r llyfryn SA/BK7 -
Hunanasesiad - Gordaliadau ar gyfer talu treth yn hwyr yn
rhoi gwybodaeth bellach am ordaliadau am dalu treth yn hwyr. Gallwch
edrych arno ar y safle hwn neu cewch gopi o'ch Swyddfa
Cyllid y Wlad leol. |
|||||||||
| Hafan | ||||
