Hunanasesiad: Partneriaethau
Cynnwys
Beth os ydw i newydd ddechrau gwaith hunangyflogedig mewn partneriaeth neu'n ystyried dechrau gwaith hunangyflogedig mewn partneriaeth? Pan fyddwch yn dechrau gweithio i chi'ch hun, bydd angen i chi gofrestru fel gweithiwr hunangyflogedig gyda Chyllid y Wlad. Mae'r adran Dechrau mewn Busnes ar wefan Cyllid y Wlad yn rhoi manylion llawn ynglyn â sut i gofrestru ac mae'n rhoi manylion am y prif faterion treth ac Yswiriant Gwladol sy'n gysylltiedig â rhedeg busnes. Sut mae Hunanasesiad yn effeithio arna i? Mae egwyddorion cyffredinol Hunanasesiad yr un peth i bawb. Ond mae'r gwahanol fathau o incwm ac enillion sydd gennych yn effeithio ar ba dudalennau atodol y ffurflen dreth y mae angen i chi eu cwblhau. Mae partneriaethau yn derbyn eu ffurflen dreth Hunanasesiad eu hunain, ac mae tudalennau atodol ar gael ar gyfer mathau arbennig o incwm y bartneriaeth. Mae'r ffurflen hefyd yn gofyn am fanylion y dyraniad elw sydd mewn grym ar gyfer y cyfnodau cyfrifyddu y cyfeiria'r ffurflen ato. Byddwn yn anfon y ffurflen partneriaeth i'r "partner enwebedig" h.y. y partner sydd wedi cael ei enwebu gan aelodau eraill y bartneriaeth i gwblhau'r ffurflen. Bu raid i bartneriaethau gwblhau ffurflen dreth erioed. Mae prif nodweddion Hunanasesiad yn cynnwys:
Asesiad ar sail y flwyddyn bresennol Nodwedd bwysig ar gyfer trethdalwyr hunangyflogedig yw cyflwyno asesiad
ar sail y flwyddyn bresennol. Mae'r dyddiad dechrau ar gyfer hyn yn
dibynnu pryd y dechreuoch chi eich busnes. Newidiodd hyn dan Hunanasesiad. Erbyn hyn, cyfrifir treth ar yr elw sy'n codi yn y flwyddyn dreth ei hun. Os yw'ch cyfnod cyfrifyddu yn wahanol i'r flwyddyn dreth, cyfrifir treth ar yr elw sy'n codi yn y cyfnod cyfrifyddu o 12 mis sy'n diweddu yn y flwyddyn dreth. Pa gofnodion ddylwn i eu cadw? Tan yn ddiweddar, nid oedd unrhyw ofyniad cyfreithiol arnoch i gadw cofnodion ar gyfer treth incwm, er bod Tollau Tramor a Chartref yn ei gwneud hi'n ofynnol i fasnachwyr cofrestredig gadw cofnodion ar gyfer TAW. Ond, rydym bob amser wedi cynghori busnesau ei bod er eu lles nhw eu hunain i gadw'r holl gofnodion sydd eu hangen ac sy'n help i baratoi cyfrifon a ffurflenni treth. Mae rheolau a gyflwynwyd yn Neddf Cyllid 1994 yn golygu bod angen i chi gadw'r holl gofnodion priodol bellach. Fel rheol, byddwn yn disgwyl i chi:
Bydd rhaid i chi gadw eich cofnodion am bum mlynedd o'r dyddiad diweddaraf y gallwch ddychwelyd eich ffurflen dreth. Gallwch gael mwy o wybodaeth ar gadw cofnodion yn SA/BK3 - Hunanasesiad. Canllaw ar gadw cofnodion i'r hunangyflogedig Sut ydw i'n cwblhau ac yn dychwelyd fy Ffurflen Dreth? Bydd angen i'r partner enwebedig yn y bartneriaeth gwblhau:
Dylai'r partner enwebedig sicrhau bod yr wybodaeth y mae angen ar bartneriaid unigol i gwblhau eu Ffurflenni Treth personol yn cael ei rhoi iddynt cyn gynted â phosib. Mae eich pecyn ffurflen dreth Hunanasesiad yn cynnwys canllaw cam wrth gam ar sut i gwblhau pob adran eich ffurflen ynghyd â chanllaw ar sut i gyfrifo eich treth os ydych am wneud hynny. Sylwer: Ni chewch Ganllaw i'r Ffurflen Dreth (SA850) os ydych yn anfon eich ffurflen yn electronig neu os yw eich asiant/ymgynghorydd treth yn anfon eich ffurflen ar eich rhan. Ond gallwch edrych ar y canllaw hwn a/neu ei ddadlwytho o'r safle hwn - gweler isod. Dylai'r partner enwebedig gwblhau'r ffurflen partneriaeth a'i dychwelyd ddim hwyrach na'r dyddiad cau statudol. Bydd y dyddiad ffeilio statudol ar gyfer partneriaeth yn dibynnu a yw'r bartneriaeth yn cynnwys partneriaid unigol neu bartneriaid corfforaethol neu gymysgedd o'r ddau:
Gwybodaeth gyffredinol ar gwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth
Cysylltiadau Eraill Cwestiynau a Ofynnir yn Aml: Cwblhau a dychwelyd eich Ffurflen Dreth Alla i anfon fy Ffurflen Dreth dros y Rhyngrwyd? Na allwch. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaeth Rhyngrwyd ar gyfer Hunanasesiad ar gael ar gyfer anfon Ffurflenni Treth unigol (SA100) a thudalennau atodol unigolion yn unig dros y Rhyngrwyd. Beth sy'n digwydd ar ôl i mi anfon fy Ffurflen Dreth? Pan fyddwn yn derbyn eich ffurflen dreth, byddwn yn nodi eich ffigurau yn eich cofnod treth ar ein cyfrifiadur. Os ydym yn sylwi ar unrhyw gamgymeriadau amlwg, h.y. yn y rhifyddeg, byddwn yn eu cywiro ac yn dweud wrthych am hyn. Os na fyddwch yn cytuno â'r hyn rydym wedi'i wneud, gallwch ofyn i ni wrth-droi neu addasu unrhyw newidiadau a wnaethpwyd. Ar ôl i'r Ffurflen Dreth Partneriaeth gael ei phrosesu, mae'n bosib y caiff ei gwirio. Gallwn ofyn cwestiynau i chi ynglyn â'r hyn a nodwyd ar y ffurflen dreth. Os byddwn yn gwneud hyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych ein bod yn cychwyn 'ymchwiliad'. Fel rheol, cynhelir hyn o fewn blwyddyn o'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd eich ffurflen dreth, ond gall fod yn hwyrach na hyn os byddwch yn anfon eich ffurflen yn hwyr. Gallwn holi ynglyn â'r ffigurau a gofyn i chi anfon y cofnodion perthnasol y mae'r ffigurau yn deillio ohonynt. Gallwn hefyd wirio'r ffigurau yn erbyn unrhyw fanylion a dderbyniwyd o ffynonellau eraill, fel eich banc. Os byddwn yn cynnal ymchwiliad i'ch ffurflen, byddwn hefyd yn esbonio beth fydd yn digwydd a beth yw'ch hawliau, trwy anfon llyfryn atoch o'r enw 'Côd Ymarfer 11 - Ymchwiliadau i Ffurflenni Treth gan Swyddfeydd Treth lleol', neu grynodeb o'r llyfryn hwnnw. Beth os ydw i wedi colli'r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd fy ffurflen? Cosbau ar gyfer ffurflenni partneriaeth hwyr Os nad ydych yn dychwelyd ffurflen partneriaeth erbyn y dyddiad cau, codir cosbau penodol arnoch. Ac mewn achosion mwy sylweddol, gellir codi cosbau dyddiol ychwanegol. Y gosb benodol gychwynnol fydd £100 ar gyfer pob partner a oedd yn aelod yn y bartneriaeth yn ystod y cyfnod y mae'r ffurflen yn cyfeirio ato ac fe'i codir ar bartneriaid unigol ac nid y bartneriaeth. Os na fydd y ffurflen wedi ei dychwelyd 6 mis ar ôl y dyddiad cau, codir cosb benodedig bellach o £100 y partner oni bai fod cosbau bob dydd eisoes yn daladwy. Nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cyfyngu cosbau partneriaeth penodedig pan fo'r dreth sy'n daladwy ar elw partneriaeth yn fychan iawn. Yn ogystal â'r cosbau penodedig gall cosb ddyddiol o hyd at £60 y dydd gael ei chodi ar bob partner perthnasol os yw'r Comisiynwyr yn caniatáu hyn. Mae'r cosbau dyddiol yn gymwys ar gyfer pob diwrnod rydych wedi methu â dychwelyd y ffurflen yn dilyn y dyddiad y rhoddwyd caniatâd y Comisiynwyr. Yn yr un modd â chosbau partneriaeth penodedig, bydd cosbau partneriaeth dyddiol yn cael eu codi ar bartneriaid unigol ac nid y bartneriaeth. Sut a phryd ydw i'n talu fy nhreth? Nid oes unrhyw asesiadau ar y bartneriaeth dan Hunanasesiad. Yn lle hynny,
mae pob partner yn cael ei asesu ar ei gyfran ef neu ei chyfran hi o elw'r
bartneriaeth ac mae pob partner yn gwbl gyfrifol am y dreth sy'n daladwy
ar y gyfran honno. Rhaid i bartneriaid unigol gynnwys eu cyfran nhw o
unrhyw elw partneriaeth yn eu Ffurflen Dreth Hunanasesiad eu hunain. |
|||||||||||||
| Hafan | ||||
