| Camgymeriadau Cyffredin
Mae manylion y deg camgymeriad mwyaf cyffredin y mae Cyllid y Wlad wedi'u
gweld ar ffurflenni treth wedi'u nodi yma. Mae dau brif faes:
- Ffurflenni treth a gywirwyd
- Ffurflenni treth a wrthodwyd
Ffurflenni treth a gywirwyd
Y rhesymau mwyaf cyffredin dros gywiro ffurflenni treth yw
| 1. |
Methu â chwblhau Tudalen Atodol ar wahân
ar gyfer pob swydd unigol. |
| |
|
| 2. |
Nodi ffigur NET Premiymau Pensiwn Personol y Cyflogai
yn lle'r ffigur Gros ym mlwch 14.11 ar y Ffurflen Dreth graidd (h.y.
heb hawlio rhyddhad digonol pan fo cyfraddau treth uwch yn daladwy). |
| |
|
| 3. |
Nodi'r ffigur Gwariant Cyfalaf ym Mlwch 3.14 ar y tudalennau
Hunangyflogaeth yn lle'r ffigur Lwfansau Cyfalaf (h.y. hawlio gormod
o ostyngiad). |
| |
|
| 4. |
Methu â chwblhau cwestiwn 19 ar y Ffurflen Dreth
graidd pan fo ad-daliad yn ddyledus. (Byddwn yn tybied eich bod
am adael y swm a or dalwyd ar eich cofnod, i'w osod yn erbyn biliau
treth yn y dyfodol - gennych chi mae'r hawl i ddewis). |
| |
|
| 5. |
Nodi eich cyflog ym mlwch 1.8 ond heb roi unrhyw dreth a ddidynnwyd
ym mlwch 1.11 ar y tudalennau Cyflogaeth.
Am wybodaeth ac arweiniad pellach ar sut i gwblhau eich ffurflen
dreth ffoniwch y Llinell Gymorth Gymraeg ar 0845 7 660830 neu'r
Llinell Gymorth Saesneg* ar 0845 9000 444 (*ar agor yn yr hwyr
ac ar y penwythnos - codir tâl ar y gyfradd leol am y galwadau).
|
Ffurflenni treth a wrthodwyd
Y rhesymau mwyaf cyffredin dros wrthod ffurflenni treth yw
| 1. |
Ticio 'ie' ar gyfer un o'r cwestiynau 1 - 9 ar dudalen
2 y Ffurflen Dreth ond nid yw'r dudalen atodol wedi cael ei hanfon
gyda'r Ffurflen Dreth. |
| |
|
| 2. |
Methu â chwblhau'r tudalennau hunangyflogaeth,
yn benodol o flwch 3.74 ymlaen ar dudalen SE3. |
| |
|
| 3. |
Rhoi gwybodaeth ar Atodlenni ar wahân yn lle cynnwys
gwybodaeth ar y Ffurflen Dreth Hunanasesiad. |
| |
|
| 4. |
Rhoi nodiadau mewn llawysgrif ar y Ffurflen Dreth Hunanasesiad
h.y. "yn ôl y cyfrifon" a/neu "gwybodaeth i ddilyn"
yn lle nodi'r ffigurau go iawn ar y ffurflen. |
| |
|
| 5. |
Heb lofnodi a dyddio'r Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Am wybodaeth ac arweiniad pellach ar sut i gwblhau eich ffurflen
dreth ffoniwch y Llinell Gymorth Gymraeg ar 0845 7 660830 neu'r
Llinell Gymorth Saesneg* ar 0845 9000 444 (*ar agor yn yr hwyr
ac ar y penwythnos - codir tâl ar y gyfradd leol am y galwadau).
|
|